Neidio i'r prif gynnwy

Rhoi gwybod am Ddigwyddiadau Deintyddol 

Mae rhaid i Practisau Deintyddol roi gwybod i ni pan fydd digwyddiad penodol yn digwydd fel y nodir yn Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017.

Mae Rheoliadau 25 o Reoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017 yn datgan bod rhaid i'r person cofrestredig o bractisau deintyddol preifat roi gwybod i ni am ddigwyddiadau penodol sy'n yn digwydd o amglych diogelwch clefion.

Digwyddiadau hysbysadwy

Gallwch ddarllen esboniad o pa ddigwyddiadau mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni amdanynt yn y 'Canllawiau ar gyfer Rheolwyr Cofrestredig a Darparwyr' sydd ar gael isod. Mae'r canllawiau hefyd yn nodi'r amserlen ar gyfer hysbysu.

Sut i roi gwybod am ddigwyddiad hysbysadwy

Wrth hysbysu ni am ddigwyddiad hysbysadwy, defnyddiwch y ffurflen hysbysu berthnasol o'r rhestr isod. Rhowch gymaint o fanylion ag y bo modd wrth gwblhau'r ffurflen ac amgáu holl ddogfennaeth atodol megis adroddiadau ymchwiliadau yr ydych wedi comisiynu. Mae rhagor o wybodaeth ar gwblhau'r ffurflenni ar gael yn y canllawiau.

Sut i anfon eich ffurflen digwyddiad hysbysadwy atom

Bydd ffurflenni sydd wedi'u cwblhau yn aml yn cynnwys gwybodaeth bersonol neu fasnachol sensitif ac yn deilwng o gael eu diogelu'n ddigonol. Mae'n rhaid cyflwyno ffurflenni naill ai'n electronig drwy Objective Connect. (Os nad oes gennych gyfrif Objective Connect cysylltwch ag AGIC ar 0300 062 8163) neu ar ffurf copi caled gan ddefnyddio gwasanaeth Post Cofnodedig.

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi rhoi gwybod i ni am y digwyddiad

Bydd llythyr cydnabyddiaeth / e-bost yn cael ei anfon atoch unwaith y byddwn wedi derbyn eich hysbysiad gyda chyfeiriad i’w defnyddio ar bob gohebiaeth yn y dyfodol. Bydd pob holl hysbysiadau eu hystyried gennym ni o fewn 10 diwrnod gwaith. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth. Mae'r wybodaeth a ddarperir ar y ffurflenni digwyddiad hysbysadwy yn ein galluogi i asesu gallu'r darparwr gofal iechyd i gydymffurfio â Rheoliadau 2017 ac bod cleifion yn cael eu diogelu'n briodol.