Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i'r safle weithio. Defnyddir cwcis nad ydynt yn hanfodol hefyd i deilwra a gwella gwasanaethau. Trwy barhau i ddefnyddio'r safle, rydych yn cytuno ein bod ni'n defnyddio cwcis.
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cydnabod yr heriau difrifol sy'n gysylltiedig â gofal mewn coridorau mewn ysbytai ledled Cymru. Gall yr arfer hwn beryglu diogelwch ac urddas cleifion ac ansawdd y gofal yn gyffredinol. Ni ddylai gofal mewn coridorau gael ei normaleiddio.
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn arolygiad dirybudd o ward iechyd meddwl arbenigol yn Ysbyty Cwm Cynon yn Rhondda Cynon Taf. Mae Ward 7, sy'n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yn uned gyda 14 o welyau sy'n darparu gofal dementia. Cynhaliwyd yr arolygiad dros dri diwrnod dilynol ym mis Ionawr 2025.
Fel sefydliad sy'n gwirio ansawdd gofal iechyd yng Nghymru, ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pobl a chymunedau yn cael gofal diogel, effeithiol, ac o ansawdd uchel sy'n diwallu eu hanghenion.
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn arolygiad dirybudd o'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Maelor Wrecsam, a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) arolygiad dirybudd o'r Adran Achosion Brys, gan gynnwys yr Adran Achosion Brys Pediatrig, yn Ysbyty Treforys, sy'n cael ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Rydym am sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd yn myfyrio ar ein gwaith arolygu a sicrwydd ac yn mesur eu gwasanaethau eu hunain yn erbyn y canfyddiadau hyn, er mwyn ysgogi gwelliannau i wasanaethau. Rydym yn gobeithio y bydd modd i'r canfyddiadau o ran arfer da a ddangosir yn yr astudiaeth achos isod gael eu trosglwyddo rhwng sefydliadau, ac ar draws y gwasanaeth iechyd ehangach er mwyn cefnogi gwelliannau mewn systemau.
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyhoeddi eu hadroddiad monitro blynyddol ar sut y caiff y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid eu defnyddio yng Nghymru.
Rydym wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol ar Fonitro Iechyd Meddwl 2023-24, sy'n amlinellu ein gweithgareddau sicrwydd a'n canfyddiadau ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu. Mae monitro Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn gyfrifoldeb statudol sydd wedi'i ddirprwyo i AGIC ers 1 Ebrill 2009 gan Weinidogion Cymru, pan gafodd y cyfrifoldeb dros fonitro swyddogaethau'r Ddeddf ei drosglwyddo o Gomisiwn y Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae'r adroddiad yn ystyried safon y gofal mewn lleoliadau annibynnol a lleoliadau'r GIG ledled Cymru rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024.
Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) arolygiad dirybudd o Adran Achosion Brys Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân, sy'n cael ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Nododd yr arolygiad, a gynhaliwyd dros ddau ddiwrnod ym mis Hydref 2024, heriau systemig parhaus sy'n effeithio ar y gallu i ddarparu gofal diogel cyson, ond nododd hefyd gynnydd cadarnhaol ers arolygiad blaenorol yr adran yn 2022.
Mae eich gwybodaeth yn ein helpu i benderfynu pryd i arolygu, lle i arolygu a beth i'w arolygu. Gadewch i ni wella gofal iechyd gyda'n gilydd. Rhoi adborth