Helpwch i Lywio Strategaeth AGIC ar gyfer 2026-2030 – Mae'r Ymgynghoriad Bellach ar Agor
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar ei Strategaeth ddrafft ar gyfer 2026–2030.

Mae'r strategaeth yn nodi cyfeiriad AGIC ar gyfer y dyfodol fel arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru. Mae'n adeiladu ar yr hyn rydym wedi'i ddysgu dros y pedair blynedd diwethaf ac yn adlewyrchu'r adborth a gafwyd gan y rhai hynny sy'n defnyddio ac yn darparu gwasanaethau gofal iechyd.
Rydym yn gwahodd unigolion, sefydliadau, a rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a helpu i lywio fersiwn derfynol y strategaeth.
Cyfnod ymgynghori: 8 Medi – 1 Rhagfyr 2025

Cymerwch ran nawr: https://www.smartsurvey.co.uk/s/XV2KH8/
Bydd eich adborth yn helpu i sicrhau bod ein gwaith yn parhau i adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau pobl Cymru.
A fyddech cystal â threulio ychydig funudau yn rhannu eich barn a'ch meddyliau? Dywedwch wrthym beth sy'n bwysig i chi.
Mae fformatau hygyrch pellach a chymorth ar gael ar gais, rydym am sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Os hoffech dderbyn cymorth i lenwi holiadur, ffoniwch 0300 062 8163 a bydd aelod o Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn eich cynorthwyo.
Mae ein llinellau ffôn ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 9am a 4.30pm ar ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau cyhoeddus).
Dychwelwch y ffurflenni wedi'u cwblhau i: Arolgiaeth Gofal Iechyd Cymru, Llywodraeth Cymru, Cymru Adeiladau'r Llywodraeth, Parc Busnes Rhydycar, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.

Poster Ymgynghori Strategaeth AGIC 2026-2030