Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg AGIC yn Amlinellu Gofal Tosturiol yn Uned Famolaeth Pen-y-bont ar Ogwr Ynghyd â Meysydd i'w Gwella

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn arolygiad dirybudd o'r uned famolaeth yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Uned mamolaeth ysbyty tywysoges cymru

Cynhaliwyd yr arolygiad dros ddau ddiwrnod ym mis Awst 2025, yn fuan ar ôl i'r uned ailagor ar ôl bod ar gau dros dro ar gyfer atgyweiriadau brys i'r ystad. Gwnaeth yr arolygwyr adolygu'r gofal ar draws yr uned frysbennu mamolaeth, y ward esgor, ardaloedd cynenedigol ac ôl-enedigol, theatrau obstetrig a'r uned ddibyniaeth fawr. 

Canfu'r arolygwyr fod menywod a phobl sy'n rhoi genedigaeth yn cael gofal tosturiol, parchus ac wedi'i deilwra at yr unigolyn. Cafodd y staff eu canmol am eu caredigrwydd a'u cymorth, ac roedd gofal profedigaeth yn cael ei ddarparu mewn modd sensitif mewn cyfleusterau dynodedig. Roedd yr uned yn canolbwyntio'n fawr ar hybu iechyd, gydag adnoddau amlieithog a chymorth cynhwysiant digidol yn helpu i leihau rhwystrau i gael gafael ar wybodaeth. Cyflwynodd yr uned hefyd gerdyn diogelwch arloesol i roi cyngor diogelwch ymarferol i'r cleifion yn ystod eu harhosiad.

Nododd yr arolygiad sawl maes o arferion da, gan gynnwys gweithdrefnau rheoli heintiau cryf, cydymffurfiaeth uchel â hyfforddiant gorfodol, a chofnodion mamolaeth cleifion cadarn. Roedd systemau llywodraethu ar waith, â chodau QR yn cael eu defnyddio er mwyn sicrhau bod polisïau cyfredol ar gael yn hawdd i'r staff. Roedd y staff yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd gwella ansawdd, a gwelwyd bod y dangosfwrdd mamolaeth digidol yn cynnwys data a gwybodaeth gynhwysfawr i'r staff eu holrhain, eu monitro a gweithredu arnynt. 

Fodd bynnag, amlinellodd yr arolygiad hefyd feysydd sydd angen eu gwella. Nododd rhai o'r cleifion fod y meddygon yn cyfathrebu'n wael, a bod oedi wrth roi meddyginiaethau lleddfu poen ôl-enedigol. Gwelodd yr arolygwyr hefyd fod angen gwella'r ddarpariaeth iaith Gymraeg, a nododd rhai o'r cleifion nad oeddent bob amser yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn deg, gan amlinellu'r angen i roi polisïau a hyfforddiant ar gydraddoldeb ac amrywiaeth ar waith yn rheolaidd. 

Roedd yr uned yn gweithio tuag at roi System Brysbennu Obstetrig Symptom-benodol Birmingham (BSOTS) ar waith, adnodd a gydnabyddir yn genedlaethol er mwyn asesu cleifion mamolaeth, ac roedd angen gwneud gwaith pellach i gwblhau hyn. Nododd yr arolygwyr hefyd fylchau yn hyfforddiant y staff, y seilwaith a'r prosesau, ac argymhellwyd y dylai'r y bwrdd iechyd gymryd camau i sicrhau brysbennu cyson a diogel ym mhob rhan o'r uned. 

Amlinellodd adborth gan y staff bryderon ynghylch lefelau staffio isel, materion o ran yr ystad a oedd yn amharu ar y broses o ddarparu gofal a deunyddiau, cyflenwadau a chyfarpar annigonol i wneud eu gwaith. Gwelodd yr arolygwyr gyfarpar wedi torri yn ystod yr arolygiad, gan gynnwys golchfa ddiffygiol, gwely wedi'i ddifrodi a oedd yn aros i gael ei atgyweirio ac un ystafell esgor nad oedd yn cael ei defnyddio o ganlyniad i broblemau gyda'r llif aer. Nododd rhai aelodau o'r staff forâl isel, gan ddisgrifio cyfathrebu gwael â'r uwch-reolwyr a chymorth anghyson yn dilyn digwyddiadau. Nododd yr arolygiad hefyd fylchau mewn Goruchwylwyr Clinigol ar gyfer Bydwragedd, sy'n chwarae rôl allweddol yn cefnogi llesiant a datblygiad proffesiynol staff. 

Mae'r bwrdd iechyd wedi cyflwyno cynllun gwella manwl sy'n ymdrin â'r holl bryderon a nodwyd, gan gynnwys camau gweithredu i gryfhau prosesau cyfathrebu, staffio, hyfforddiant, arferion cydraddoldeb a seilwaith. 

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

“Canfu ein harolygiad fod y staff yn Ysbyty Tywysoges Cymru yn darparu gofal tosturiol a pharchus i fenywod a phobl sy'n rhoi genedigaeth. Roedd yn galonogol gweld yr ymrwymiad at ofal wedi'i deilwra at yr unigolyn, hybu iechyd a diogelwch cleifion. Fodd bynnag, gwnaethom hefyd nodi meysydd y mae angen rhoi sylw iddynt, gan gynnwys cyfathrebu, lefelau staffio a seilwaith. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r bwrdd iechyd i sicrhau y caiff gwelliannau eu gwneud a'u cynnal.”

Awst 2025 - Arolygiad o Ysbyty - Gwasanaethau Mamolaeth – Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont