Neidio i'r prif gynnwy

Arolygiad o Adran Achosion Brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Datgelu Cynnydd a Heriau Parhaus

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi ei chanfyddiadau yn dilyn arolygiad dirybudd o'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

adran achosion brys ysbyty brenhinol morgannwg

Canfu'r arolygiad, a gynhaliwyd dros dri diwrnod ym mis Awst, enghreifftiau o arferion da a staff ymroddedig a oedd yn gweithio'n galed i roi gofal diogel a thosturiol mewn amgylchedd heriol. Roedd yr Adran Achosion Brys yn cael ei rheoli'n dda ar y cyfan, ac roedd prosesau effeithiol ac amserol ar waith i frysbennu cleifion a'u trosglwyddo o ambiwlansys a oedd yn cefnogi asesiadau clinigol prydlon. Fodd bynnag, canfuwyd heriau systemig sy'n gyffredin i lawer o Adrannau Achosion Brys ledled Cymru, y gellir eu priodoli'n bennaf i lif cleifion gwael drwy'r ysbyty. Roedd oedi cyn rhyddhau cleifion yn arwain at amseroedd aros hir a gorlenwi, gyda rhai pobl yn aros am gyfnodau hir. Roedd rhai cleifion yn cael gofal mewn ardaloedd eistedd nad ydynt wedi'u cynllunio ar gyfer arosiadau estynedig, a oedd yn amharu ar breifatrwydd, urddas a chysur. 

Er gwaethaf yr heriau systemig, gwelwyd nifer o ddatblygiadau cadarnhaol yn yr adran. Roedd y rhain yn cynnwys cyflwyno rolau nyrsio arbenigol, a oedd yn cynnig cymorth gwerthfawr i'r cleifion a'r staff. Roedd yr ardal bediatrig newydd wedi cael effaith gadarnhaol ar ddiogelwch a phrofiad y claf, ond nododd yr arolygwyr fod angen mesurau diogelwch gwell, gan gynnwys drysau i reoli mynediad.

Roedd y staff yn rhoi gofal parchus yn gyson mewn amgylchedd glân a chefnogol, gan gyfathrebu'n glir a dangos tosturi hyd yn oed ar adegau prysur. Dywedodd cleifion a'u teuluoedd eu bod wedi cael profiadau cadarnhaol, gan gyfeirio at broffesiynoldeb ac ymroddiad y staff. Roedd y staff yn croesawu'r newidiadau diweddar a'r ymdrechion recriwtio ond mynegodd rhai ohonynt bryderon ynghylch diffygiad a chapasiti cyfyngedig i ateb y galw cynyddol. Dylai'r bwrdd iechyd ystyried yr adborth hwn wrth gynllunio newidiadau yn y dyfodol. 

Roedd yr adran yn drefnus ac yn cynnal arferion atal a rheoli heintiau da ar y cyfan, ond gwnaeth yr arolygwyr atgoffa rhai aelodau o'r staff ynghylch hylendid dwylo a'r angen i newid neu drwsio seddi sydd wedi'u difrodi. Roedd angen gwella cydymffurfiaeth y staff â hyfforddiant, yn enwedig hyfforddiant cynnal bywyd brys ac uwch ar gyfer oedolion a phlant. Tynnodd yr arolygwyr sylw hefyd at yr angen i sicrhau bod bwyd a diod ar gael yn haws i'r rhai sy'n aros am gyfnodau hirach.

Mae'r bwrdd iechyd wedi llunio cynllun gwella cynhwysfawr sy'n cynnwys camau gweithredu manwl o ran sut y caiff gwelliannau eu gwneud yn yr adran achosion brys.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

“Mae ein harolygiad yn tynnu sylw at ymroddiad a phroffesiynoldeb y staff sy'n gweithio o dan amgylchiadau heriol, yn ogystal â'r meysydd lle mae angen gwneud gwelliannau i sicrhau diogelwch cleifion a llesiant staff. 

Nid yw'r heriau sy'n wynebu'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn unigryw, mae adrannau achosion brys ledled Cymru yn wynebu straen gweithredol parhaus, a gaiff ei sbarduno gan heriau o ran llif cleifion, niferoedd uchel o gleifion, ac oedi cyn rhyddhau cleifion. Bydd AGIC yn parhau i weithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i fonitro cynnydd a chefnogi gwelliannau parhaus.”

Awst 2025 – Arolygiad Ysbyty – Adran Achosion Brys - Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant