Neidio i'r prif gynnwy

Diolch am roi eich barn ar ein Strategaeth ar gyfer 2026-2030!

Mae ein hymgynghoriad cyhoeddus bellach ar gau, ac rydym am ddweud diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran.

Diolch am 1300+ ymateb! Thank you for 1300+ responses!

 

Rydym wedi clywed gan fwy na 1,300 o bobl o bob cwr o Gymru – yn gleifion, gofalwyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac aelodau o'r cyhoedd – a rannodd brofiadau a safbwyntiau gwerthfawr.

Beth nesaf?
Bydd eich adborth yn ein helpu i lunio strategaeth derfynol sy'n adlewyrchu'r hyn sydd bwysicaf i chi ac yn llywio'r ffordd rydym yn arolygu ac yn rheoleiddio gofal iechyd yng Nghymru.

Roedd sawl thema allweddol yn amlwg yn eich ymatebion, gan gynnwys mynediad at wasanaethau, ansawdd y gofal, cyfathrebu, cynhwysiant, a'r angen i weithio mewn ffordd gydgysylltiedig ar draws y sector gofal iechyd yng Nghymru. Byddwn yn rhannu'r wybodaeth hon â'n tîm gwybodaeth a'n rhanddeiliaid allweddol i sicrhau ei bod yn llywio ein gwaith.

Byddwn hefyd yn cyhoeddi crynodeb o'r themâu allweddol hyn yn fuan, er mwyn i chi allu gweld yr hyn a glywsom a sut y bydd yn dylanwadu ar ein dull gweithredu.

Caiff fersiwn derfynol ein Strategaeth ar gyfer 2026-2030 ei chyhoeddi ar 1 Ebrill 2026. 

Diolch am ein helpu i ddatblygu dull cryfach a mwy cynhwysol o wella gofal iechyd yng Nghymru.