Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Iechyd Meddwl yng Nghymru: Heriau Parhaus a Chyfleoedd ar gyfer Gwella

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi ei Monitro Gwasanaethau Iechyd Meddwl, Gwasanaethau Anableddau Dysgu a’r Ddeddf Iechyd Meddwl Adroddiad Blynyddol 2024-2025, sy'n amlinellu themâu ein gwaith ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu ledled Cymru.

Monitro Gwasanaethau Iechyd Meddwl, Gwasanaethau Anableddau Dysgu a’r Ddeddf Iechyd Meddwl Adroddiad Blynyddol 2024-2025

 

Mae'r adroddiad yn disgrifio sut mae gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu yng Nghymru yn parhau i wynebu heriau sylweddol a mynych. Mae monitro Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn gyfrifoldeb statudol sydd wedi'i ddirprwyo i AGIC ers 1 Ebrill 2009 gan Weinidogion Cymru, pan gafodd y cyfrifoldeb dros fonitro swyddogaethau'r Ddeddf ei drosglwyddo o Gomisiwn y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Mae adroddiad eleni yn ystyried safon y gofal mewn lleoliadau GIG a lleoliadau annibynnol rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2025, gan dynnu ar dystiolaeth o 25 o arolygiadau o fewn safleoedd, gan gynnwys 14 o arolygiadau o wasanaethau'r GIG ac 11 o ddarparwyr annibynnol. Roedd y rhain yn cynnwys gwasanaethau mewn ysbytai a thimau iechyd meddwl cymunedol, gyda ffocws parhaus ar gydymffurfiaeth gyfreithiol, diogelwch cleifion ac ansawdd y gofal.

Yn ystod ein hymweliadau arolygu gwnaethom ganolbwyntio ar sawl maes allweddol, gan ystyried:

  • a oedd cynllunio gofal ac asesiadau risg wedi'u cwblhau'n briodol i sicrhau gofal diogel ac effeithiol
  • a oedd y cleifion wedi cael gwybod am eu hawliau a chael eu cefnogi i ddeall eu triniaeth
  • a oedd y gwasanaethau yn darparu mynediad i weithgareddau therapiwtig ystyrlon ac yn cynnal urddas ac annibyniaeth y cleifion.

Er bod yr adroddiad yn nodi enghreifftiau o ofal tosturiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, mae hefyd yn nodi sawl maes lle nad oes fawr ddim gwelliant os o gwbwl wedi bod ers y cyfnod adrodd diwethaf. Mae prinder staff, amgylcheddau gofal sy'n dirywio a llywodraethu anghyson yn parhau i effeithio ar ansawdd a diogelwch gofal. 

Canfyddiadau Allweddol

Ar draws y 25 o arolygiadau a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod adrodd, gwnaethom gyfanswm o 394 o argymhellion. Er i ni arsylwi enghreifftiau o ofal diogel a thosturiol, mae dal angen gwella sawl maes:

  • Gweithgareddau Ystyrlon a Therapiwtig: Roedd diffyg rhaglenni gweithgareddau strwythuredig o fewn llawer o wasanaethau, gyda bylchau staffio yn cyfyngu ar argaeledd ymgysylltiad therapiwtig
  • Rheoli Meddyginiaethau: Roedd llywodraethu anghyson yn parhau, gyda chofnodion anghyflawn, arferion storio gwael a meddyginiaeth frys nad oedd dan glo wedi'u nodi mewn nifer o leoliadau
  • Asesiadau Risg a Chynllunio Gofal: Mewn sawl lleoliad, nid oedd cynlluniau gofal ac asesiadau risg wedi'u personoli, gyda gwallau yn y ddogfennaeth a mewnbwn seicolegol cyfyngedig yn effeithio ar ansawdd
  • Yr Amgylchedd Gofal: Codwyd pryderon am yr amgylchedd mewn 16 o leoliadau, gan gynnwys cynnal a chadw gwael, risgiau rheoli heintiau a diffyg dylunio sy'n ystyriol o ddementia. Mae'n amlwg bod angen parhau i fuddsoddi yng nghyflwr ffisegol cyfleusterau iechyd meddwl, ochr yn ochr â phrosesau rheoli ystadau cadarn ac archwiliadau amgylcheddol rheolaidd. Mae sicrhau bod amgylcheddau gofal yn ddiogel, yn groesawgar ac yn addas at y diben yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol er mwyn gwella profiad y claf a chefnogi adferiad
  • Diogelwch Staff a Chleifion: Roedd protocolau diogelwch yn cael eu rhoi ar waith yn anghyson, gyda phroblemau ynghylch parodrwydd am argyfwng, asesiadau risg pwyntiau clymu ac argaeledd cyfarpar diogelwch
  • Preifatrwydd ac Urddas y Cleifion: Roedd argaeledd ardal bersonol ddiogel, ardaloedd ar gyfer rhyweddau penodol a gwybodaeth eiriolaeth yn anghyson ar draws gwasanaethau
  • Y Gweithlu: Roedd dibyniaeth uchel ar staff asiantaeth a rolau allweddol gwag yn parhau i effeithio ar barhad gofal, morâl y staff ac ymgysylltiad therapiwtig
  • Llywodraethu ac arweinyddiaeth: Roedd gwelededd arweinwyr a dibynadwyedd archwilio yn amrywio, gyda strwythurau llywodraethu anghyson yn cael eu nodi mewn rhai darparwyr annibynnol a pholisïau wedi'u dyddio mewn sawl lleoliad.

Gwnaethom dderbyn 215 o bryderon yn ymwneud â gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gyda 167 yn ymwneud â gwasanaethau'r GIG a 48 â darparwyr annibynnol. Roedd problemau cyffredin mewn lleoliadau GIG yn cynnwys cydymffurfiaeth â'r Ddeddf Iechyd Meddwl, gweithdrefnau derbyn a rhyddhau a rheoli cofnodion, ac roedd darparwyr annibynnol yn wynebu pryderon ynghylch seilwaith a diogelu. Yn ogystal, gwelsom gynnydd sylweddol mewn datgeliadau chwythu'r chwiban, cyfanswm o 40, a oedd yn datgelu problemau diwylliannol difrifol fel bwlio, camwahaniaethu a rheolaeth wael, ynghyd â phroblemau ynghylch staffio, diogelwch cleifion ac ymddygiad proffesiynol.

Dywedodd y Prif Weithredwr Alun Jones:

"Mae adroddiad eleni yn adlewyrchu'r cymhlethdod parhaus a'r pwysau mae gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu yn eu hwynebu yng Nghymru. Er ein bod yn cydnabod ymrwymiad staff ac enghreifftiau o arferion da, mae angen gweithredu'n gydlynus ar unwaith er mwyn mynd i'r afael â phroblemau systemig parhaus. Mae AGIC yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda darparwyr a rhanddeiliaid i gefnogi gwelliannau a sicrhau bod gwasanaethau yn ddiogel, yn effeithiol ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn."

Monitro Gwasanaethau Iechyd Meddwl, Gwasanaethau Anableddau Dysgu a’r Ddeddf Iechyd Meddwl Adroddiad Blynyddol 2024-2025