Neidio i'r prif gynnwy

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn galw am ofal iechyd diogel, urddasol ac effeithiol

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi ei Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2024-2025 heddiw, sy'n cynnig asesiad clir ac annibynnol o wasanaethau gofal iechyd ledled Cymru. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at system sydd o dan bwysau parhaus, lle mae staff ymroddedig yn dal i ddarparu gofal da o dan amodau anodd, ond lle mae'r risgiau i ddiogelwch cleifion yn parhau, a lle na chaiff gwelliannau bob amser eu cynnal.

Adroddiad Blynyddol 2024 - 2023

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cafodd AGIC 743 o bryderon, sef cynnydd o 21% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol a chynnydd o 102% ers 2019-20. Ochr yn ochr â hyn, gwnaed 120 o ddatgeliadau chwythu'r chwiban, cynnydd o 36%, gan awgrymu problemau dyfnach o ran arweinyddiaeth, llywodraethu a diwylliant sefydliadol. Mae'r ffigurau hyn yn adlewyrchu cymhlethdod cynyddol yr heriau sy'n wynebu gofal iechyd yng Nghymru a'r ffaith bod angen ymateb iddynt ar fyrder.

Cynhaliodd AGIC 163 o arolygiadau o wasanaethau'r GIG a gwasanaethau gofal iechyd annibynnol, wedi'u llywio gan leisiau 3,407 o gleifion, gofalwyr ac aelodau o'r cyhoedd, ac 1,657 o aelodau o staff. Mae'r wybodaeth sy'n deillio o hynny yn parhau i lywio blaenoriaethau AGIC, gan sicrhau bod gwaith craffu yn canolbwyntio ar y meysydd pwysicaf.

Y GIG yng Nghymru: System sydd ar Groesffordd

Mae arolygiadau o bractisau meddygon teulu, adrannau achosion brys, unedau mamolaeth, a gwasanaethau iechyd meddwl yn dangos system sydd wedi'i hymestyn i'r eithaf. Mae'r staff yn gweithio o dan bwysau eithriadol, a hynny'n aml mewn amgylcheddau nad ydynt yn addas at y diben. Mae'r adroddiad yn nodi risgiau mynych a phatrwm pryderus lle mae materion a nodwyd yn y gorffennol yn ailymddangos.

Nid achosion unigol yw'r achosion lle gwelir cleifion yn aros mewn coridorau mewn adrannau achosion brys, lle gwelir bylchau staffio yn cael effaith andwyol ar unedau mamolaeth, a lle gwelir risgiau diogelwch heb eu datrys ar wardiau iechyd meddwl, ond symptomau straen systemig ehangach. Mae rhaglen Llywodraeth Cymru, Y Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng, yn targedu llawer o achosion sylfaenol yr heriau hyn, gan gynyddu'r gallu i gael gofal brys ar yr un diwrnod, gwella prosesau rhyddhau, a chefnogi athroniaeth gartref yn gyntaf. Er ei bod yn galonogol gweld bod darpariaeth gofal brys yn cael ei had-drefnu, erys y galw gan gleifion yn uchel, ac mae hyn yn aml yn effeithio ar brofiad cleifion.

Er bod gwasanaethau yn aml yn ymateb yn gadarnhaol i weithdrefnau craffu, nid yw'r camau a gymerir bob amser yn arwain at newid parhaus. Mae'r adroddiad yn galw am adnoddau digonol, arweinyddiaeth leol effeithiol a threfniadau llywodraethu cadarn er mwyn sicrhau y caiff safonau uchel nid yn unig eu cyflawni, ond eu cynnal.

Iechyd Meddwl: Blaenoriaeth Genedlaethol

Mae gwasanaethau iechyd meddwl yn parhau i wynebu heriau hirsefydlog a sylweddol. Mae'n werth nodi y cafodd prosesau sicrwydd ar unwaith neu brosesau diffyg cydymffurfio eu sbarduno gan 36% o arolygiadau iechyd meddwl. Mae AGIC yn parhau i bryderu'n ddifrifol am gyflwr yr ystad mewn llawer o gyfleusterau iechyd meddwl y GIG. I gleifion iechyd meddwl, nid mater arwynebol yw'r amgylchedd ffisegol. Mae'n hollbwysig er mwyn darparu gofal effeithiol a therapiwtig. Mae'r adroddiad yn galw am fuddsoddiad brys ac ymrwymiad cenedlaethol i wella amgylcheddau gofal.

Gofal Iechyd Annibynnol: Yn Ehangu, Ond Nid Bob Amser yn Barod

Mae'r sector gofal iechyd annibynnol yng Nghymru yn parhau i dyfu, gyda 60 o wasanaethau newydd wedi'u cofrestru y flwyddyn hon, gan adlewyrchu'r galw cynyddol a mwy o ymdrechion i arallgyfeirio, yn enwedig mewn perthynas â thriniaethau cosmetig, triniaethau laser, deintyddiaeth breifat, a gwasanaethau meddygon teulu.

Fodd bynnag, mae'r twf hwn wedi creu risgiau. Yn 2024/25, cyhoeddodd AGIC fwy o gamau gorfodi brys yn y sector annibynnol nag erioed o'r blaen. Roedd llawer yn ymwneud â darparwyr llai a oedd wedi ymuno â'r farchnad heb ddealltwriaeth glir o'u cyfrifoldebau cyfreithiol neu'r safonau sy'n ofynnol i gadw pobl yn ddiogel. Mae'r sector gofal iechyd annibynnol yn datblygu, ac mae'n peri pryder bod nifer cynyddol o wasanaethau newydd yn dod i'r amlwg sydd y tu allan i gwmpas y rheoliadau presennol ac felly gylch gwaith AGIC.

Prosesau Rheoleiddio sy'n Ysgogi Gwelliannau

Mae gweithgarwch rheoleiddio AGIC yn y sector annibynnol yn 2024-2025 wedi bod yn deg ac yn benderfynol. Rydym wedi atal gwasanaethau anniogel rhag gweithredu, wedi uwchgyfeirio pryderon difrifol, ac wedi lansio ymchwiliadau troseddol i ddarparwyr anghofrestredig. Ar yr un pryd, mae AGIC wedi helpu gwasanaethau i wella drwy waith monitro penodol, arweiniad, a chamau dilynol.

Y flwyddyn hon, cynhaliodd AGIC 50 o arolygiadau deintyddol, gan arwain at bron i 600 o argymhellion ar gyfer gwella. Yn ogystal, cynhaliwyd 18 o adolygiadau clinigol o farwolaethau yn y ddalfa i asesu cywerthedd gofal mewn carchardai.

Mae'r adroddiad yn nodi'n glir nad dim ond herio ymarfer gwael yw rôl AGIC, ond ei bod hefyd yn tynnu sylw at ymarfer da ac yn helpu'r system i wella. Fodd bynnag, ni ddylid goddef gofal anniogel, p'un a yw'n cael ei ddarparu gan y GIG neu ddarparwr annibynnol. Mae pawb yng Nghymru yn haeddu'r un safon o ddiogelwch, urddas a pharch.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr AGIC:

“Mae'r adroddiad hwn yn fwy na dim ond cofnod o'n gwaith – mae'n cynnig her i'r system wella. Rydym wedi gweld amgylcheddau sy'n anniogel a systemau sy'n cael eu hymestyn i'r eithaf, ond rydym hefyd wedi gweld enghreifftiau o staff yn darparu gofal eithriadol o dan amodau anodd. Mae pawb yng Nghymru yn haeddu gofal iechyd diogel, urddasol ac effeithiol, a bydd AGIC yn parhau i herio, cefnogi ac ysgogi gwelliannau ble bynnag y bydd eu hangen fwyaf.”

Adroddiad Blynyddol 2024 – 2025