Cyfle am Secondiad: Datblygu Dull Newydd AGIC o Roi Sicrwydd mewn perthynas â Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cynnig secondiad cyffrous am gyfnod o naw mis i Arweinydd Prosiect profiadol er mwyn llywio dyfodol y broses o roi sicrwydd mewn perthynas â gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru.

Bydd y rôl hanfodol hon yn llywio'r broses o ddylunio a gweithredu methodoleg arolygu newydd sbon – dull gweithredu o'r bôn i'r brig wedi'i lywio gan bolisi cenedlaethol, safonau clinigol a phrofiadau menywod, rhieni a theuluoedd. Bydd y prosiect yn pennu'r meincnod ar gyfer y ffordd y bydd AGIC yn arolygu'r gwasanaethau cymhleth, risg uchel hyn, gan baratoi'r ffordd ar gyfer modelau i sicrhau gwasanaethau'r GIG yn y dyfodol.
Beth fydd y rôl?
- Arwain y broses o ddatblygu fframwaith arolygu arloesol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol.
- Cydweithio ag arbenigwyr clinigol, arweinwyr polisi a rhanddeiliaid i sicrhau bod y fethodoleg yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gydnaws â'r arferion gorau.
- Rheoli cylch oes llawn y prosiect – o'r cam cynllunio a dylunio gwaith maes i'r cam adrodd.
Pwy rydym yn chwilio amdano?
Gweithiwr proffesiynol dynamig sy'n meddu ar y canlynol:
- Arbenigedd llywodraethu clinigol ym maes mamolaeth, newyddenedigol neu feysydd cysylltiedig
- Dealltwriaeth gryf o lwybrau gofal mamolaeth a newyddenedigol, gan gynnwys risgiau a chymhlethdodau
- Gwybodaeth am bolisïau gofal iechyd yng Nghymru, fel y Datganiad Ansawdd Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol
- Gallu amlwg i ymgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid amrywiol, gan gynnwys clinigwyr, arweinwyr polisi a thimau mewnol
- Profiad o ddatblygu neu gymhwyso methodolegau sicrwydd mewn lleoliadau gofal iechyd neu leoliadau rheoleiddio
- Sgiliau arsylwi, asesu a dadansoddi ardderchog er mwyn dehongli gwybodaeth gymhleth a chreu adnoddau arolygu ymarferol
Pam gwneud cais?
Mae hwn yn gyfle prin i gael effaith amlwg ar ansawdd a diogelwch gofal i deuluoedd ledled Cymru. Byddwch yn gweithio'n agos ag uwch-arweinwyr a rhwydweithiau clinigol, gan ddod i gysylltiad â phrosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau strategol a datblygu methodolegau.
Lleoliad: Cymru Gyfan (Gweithio hybrid)
Gradd: Uwch-swyddog Gweithredol (cyfwerth â Band 7 y GIG)
Dyddiad cau: Dydd Llun 8 Rhagfyr 2025
Os ydych yn frwdfrydig ynghylch gwella gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, gwnewch gais nawr.