Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

21 Mai 2026

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi ei chanfyddiadau yn dilyn arolygiad o'r gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Singleton, a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Cynhaliwyd yr arolygiad dros dri diwrnod ym mis Chwefror 2026 ac roedd yn canolbwyntio ar ansawdd a diogelwch y gofal a ddarperir i fenywod, babanod a theuluoedd ar draws y gwasanaethau mamolaeth, a phrofiad pobl o'r gwasanaethau hynny. Nododd y tîm arolygu gynnydd clir a chyson ers arolygiadau blaenorol. Fodd bynnag, nododd y tîm hefyd bryderon ynghylch amseroldeb y gofal a ddarperir i fenywod ar y ward ôl-enedigol, yn ogystal â'r pwysau sydd ar y staff ym mhob rhan o'r gwasanaeth.

8 Mai 2026

Dewch i wybod am ein blaenoriaethau a'n camau gweithredu ar gyfer 2026-2027

1 Ebr 2026

Heddiw, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), sef rheoleiddiwr ac arolygiaeth annibynnol gofal iechyd yng Nghymru, yn lansio ei strategaeth ar gyfer 2026-2030 — cynllun beiddgar i roi pobl yn gyntaf, llywio gwelliannau mewn gwasanaethau, a chymryd camau lle mae'r risg fwyaf i ddiogelwch cleifion.

26 Maw 2026

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) y cyd wedi cyhoeddi eu hadroddiad monitro blynyddol ar gyfer 2024-2025 ar ddefnyddio'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) yng Nghymru.

26 Chwef 2026

Diolch i bawb a gymerodd ran yn ein hymgynghoriad ar y Strategaeth ar gyfer 2026-2030. Dros gyfnod o 12 wythnos, gwnaethom wahodd cleifion, gofalwyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, aelodau o'r cyhoedd, a rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru i rannu eu barn a'u profiadau.

25 Chwef 2026

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn croesawu cyhoeddi'r Asesiad Cenedlaethol o Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol - Y Llwybr at Ddechrau Mwy Diogel yng Nghymru. Rydym yn cydnabod graddfa'r gwaith a gyflawnwyd ledled Cymru i gwblhau'r asesiad cynhwysfawr hwn, ac rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad menywod, teuluoedd, staff a phartneriaid a rannodd eu profiadau.

18 Chwef 2026

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn gwahodd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o bob cwr o Gymru i wneud cais am amrywiaeth o rolau Adolygwyr Cymheiriaid i gefnogi ein gwaith arolygu ac adolygu.

12 Chwef 2026

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi ei hadroddiad arolygu yn dilyn ymweliad dirybudd ag Uned Diogelwch Isel ac Uned Gofal Seiciatrig Dwys Cwm Seren, sy'n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Roedd yr arolygiad, a gynhaliwyd dros dri diwrnod ym mis Tachwedd 2025, yn canolbwyntio ar y gofal a ddarperir ar y ddwy ward arbenigol, sy'n cefnogi pobl ag anghenion iechyd meddwl cymhleth mewn amgylcheddau diogel.

29 Ion 2026

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi ei hadroddiad arolygu yn dilyn ymweliad dirybudd â Chlinig Tawe yn Ysbyty Cefn Coed, a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

22 Ion 2026

Roedd yr arolygiad, a gynhaliwyd rhwng 10 a 12 Tachwedd 2025, yn asesu perfformiad gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd wrth gyflawni eu dyletswyddau a'u swyddogaethau statudol.