Cyhoeddi rhybudd i ddarparwr a oedd yn defnyddio gwasanaethau laser anghofrestredig
Yn dilyn ymchwiliad troseddol diweddar, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi rhybudd i'r darparwr am dorri Deddf Safonau Gofal 2000 (y Ddeddf). Mae'n dilyn tystiolaeth bod y gwasanaeth yn darparu triniaethau laser esthetig mewn clinig yn Sir y Fflint heb gofrestriad o dan y Ddeddf honno.
Fel rheoleiddiwr gwasanaethau gofal iechyd annibynnol yng Nghymru, mae AGIC yn ymrwymedig i weithredu pan na fydd darparwr gofal iechyd annibynnol yn cydymffurfio â'r gyfraith neu ofynion rheoliadol.
Mae'n ofynnol i ddarparwyr ysbytai, clinigau ac asiantaethau meddygol annibynnol gofrestru ag AGIC. Rhaid i wasanaeth sy'n darparu triniaethau laser gan ddefnyddio goleuni pwls dwys (IPL) neu laser dosbarth 3B neu 4 fod wedi'i gofrestru fel ysbyty annibynnol. Cyhoeddwyd y rhybudd hwn ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod y gwasanaeth wedi bod yn darparu triniaethau laser heb gofrestriad rhwng mis Mehefin 2024 a mis Gorffennaf 2025.
Os ydych yn bwriadu defnyddio gwasanaeth gofal iechyd annibynnol, cadarnhewch fod y gwasanaeth hwnnw wedi'i gofrestru ag AGIC gan ddefnyddio'r cyfleuster chwilio ar ein gwefan. Os na allwch ddod o hyd i'r gwasanaeth neu os oes gennych wybodaeth am ddarparwr gofal iechyd anghofrestredig yng Nghymru, hoffem glywed gennych chi.
Mae gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu darparu mewn nifer o ffyrdd gwahanol a gan amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Os bydd unrhyw amheuaeth ynghylch yr angen i gofrestru, fe'ch cynghorir i gysylltu ag AGIC i gael cyngor drwy gwblhau a chyflwyno Ffurflen Ymholiad Cofrestru.