Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru yn cwblhau archwiliad sicrwydd o wasanaethau anableddau dysgu yng Nghonwy
Roedd yr arolygiad, a gynhaliwyd rhwng 9 ac 11 Chwefror 2026, yn asesu perfformiad gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd wrth gyflawni eu dyletswyddau a'u swyddogaethau statudol.
Rydym wedi cwblhau archwiliad sicrwydd yn ddiweddar ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru o Dîm Anableddau Dysgu Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a'r Gyfarwyddiaeth Anableddau Dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Gwelliannau allweddol a nodwyd
Canfu ein harolygiad fod y rhan fwyaf o bobl yn cael cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn seiliedig ar gryfderau, sy'n adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig iddynt. Mae'r ymarferwyr yn defnyddio ystod eang o ddulliau cyfathrebu hygyrch, megis cymhorthion darluniadol, i gefnogi pobl i fynegi eu barn a chael eu cynnwys mewn penderfyniadau am eu bywydau.
Mae cydberthnasau llawn ymddiriedaeth rhwng pobl ac ymarferwyr yn cael eu cefnogi gan fodel gwasanaeth pob oed, gan helpu i gynnal parhad ar draws cyfnodau bywyd.
Mae trefniadau eirioli yn darparu cymorth effeithiol i bobl y mae angen help arnynt i ddeall ac arfer eu hawliau, a chaiff Eiriolwyr Galluedd Meddyliol Annibynnol a Chynrychiolwyr Personau Perthnasol eu defnyddio'n briodol.
Mae gweithlu cryf Cymraeg ei iaith yn galluogi pobl i ddewis cyfathrebu yn eu dewis iaith, gan gefnogi asesiadau ac adolygiadau effeithiol.
Mae'r gweithlu'n brofiadol ac wedi'i hyfforddi'n dda, ac mae'r ymarferwyr yn nodi'n gyson bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn lleoedd da i weithio ynddynt.
Mae Conwy yn arddangoswr IMPACT penodol sy'n canolbwyntio ar gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ag anableddau dysgu, gan weithredu mentrau recriwtio a chyflogaeth cynhwysol sy'n hyrwyddo annibyniaeth ac yn lleihau dibyniaeth ar wasanaethau statudol.
Meysydd y mae angen eu datblygu ymhellach
Er ein bod yn cydnabod y cryfderau hyn, nododd ein harolygiad rai meysydd y mae angen eu datblygu ymhellach.
Rhaid i'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd sicrhau bod y mecanweithiau adborth yn hygyrch, yn cael eu dadansoddi'n systematig, ac yn derbyn ymateb clir.
Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod adolygiadau o gynlluniau gofal a chymorth yn cael eu cwblhau yn unol â gofynion statudol, fel bod anghenion pobl yn cael eu hadolygu o leiaf unwaith y flwyddyn, neu'n gynt pan fydd amgylchiadau'n newid.
Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod adolygiadau o Drefniadau Diogelu Cymunedol wrth Amddifadu o Ryddid yn cael eu rhoi ar waith yn brydlon fel bod hawliau, llais a chyfranogiad pobl mewn penderfyniadau am eu gofal a'u cymorth yn cael eu diogelu.
Rhaid i'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd gryfhau eu goruchwyliaeth ar y cyd o drefniadau'r Ddeddf Galluedd Meddyliol er mwyn sicrhau bod gofynion statudol yn cael eu bodloni'n gyson a'u cofnodi'n glir.
Rhaid i arweinwyr sicrhau mynediad dibynadwy at ymyriadau iechyd ataliol, gan gynnwys archwiliadau iechyd blynyddol a gofal deintyddol a gofal sylfaenol.
Dylai'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd gryfhau eu dull cyffredin o asesu a llunio risgiau, er mwyn sicrhau y cytunir ar risgiau, yn ogystal â'u cofnodi a'u hadolygu, ar y cyd yn gyson.
Y camau nesaf
Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r meysydd hyn.
Bydd AGC yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus. Lle y bo'n berthnasol, rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol rannu'r ymarfer cadarnhaol a nodwyd ag awdurdodau lleol eraill, er mwyn helpu i lywio gwelliant parhaus mewn gwasanaethau statudol ledled Cymru.
Bydd AGIC yn monitro cynnydd yn erbyn y gwelliannau sy'n gysylltiedig ag iechyd drwy gwblhau Cynllun Gwella, a fydd yn nodi manylion y canfyddiadau a'r camau gwella y cytunwyd arnynt a'r swyddogion cyfrifol a'r amserlenni.
I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn isod.