Neidio i'r prif gynnwy

Buletin Arsylwi - Mai 2023

Bwletin Arsylwi Mai 2023

Croeso i rifyn Haf 2023 o Fwletin Arsylwi Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).

Bob chwarter, rydym yn rhannu ein newyddion ac yn tynnu sylw at themâu allweddol sy'n dod i'r golwg yn ein gwaith. Mae'n rhan o'n hymrwymiad i ddeall disgwyliadau ein rhanddeiliaid yn well, mynd ati i ymgysylltu, rhannu ein canfyddiadau ac adrodd ar ein gweithgarwch.

Ffocws craidd ein gwaith yw cadarnhau ansawdd y gwasanaethau gofal iechyd a ddarperir i gleifion yng Nghymru. Rydym yn ystyried diogelwch cleifion, risg a phrofiad cleifion ym mhob agwedd ar ein gwaith. Bydd y Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal (o 1 Ebrill 2023), sy'n deillio o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, bellach yn sail i'n gwaith sicrwydd yn GIG Cymru. Wrth i'r Ddyletswydd Ansawdd a'r Ddyletswydd Gonestrwydd, a'r Safonau newydd, barhau i lywio'r ffocws ar ansawdd, o fewn gwasanaethau gofal iechyd, gallwch ddisgwyl gweld AGIC yn ymateb i hyn drwy addasu ein methodoleg arolygu yn unol â hynny er mwyn sicrhau ein bod yn cael sicrwydd ynglŷn ag ansawdd a diogelwch ym mhob rhan o'r GIG yng Nghymru.

Mae'r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod prysur i AGIC. Ym mis Ebrill, aethom i gynhadledd ym Malta a gynhaliwyd gan y Bartneriaeth Ewropeaidd ar gyfer Sefydliadau Gorchwylio mewn Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a elwir yn EPSO. Mae hwn yn fforwm gwerthfawr lle mae arolygiaethau a rheoleiddwyr o bedwar ban byd yn rhannu gwersi a ddysgwyd a datblygiadau arloesol.

Yn y rhifyn hwn, rydym hefyd yn cyflwyno ein Cyfarwyddwr Sicrwydd newydd i chi, a dau sefydliad newydd a fydd yn ymuno â'n Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid. Mae'r grŵp hwn yn rhoi cipolwg unigryw ar brofiadau cymunedau amrywiol o iechyd gofal er mwyn helpu i lywio ein gwaith.

Mae'r adran ‘dysgu a dealltwriaeth’ y chwarter hwn yn taflu goleuni ar faterion a themâu sy'n codi'n gyson yn ein gwaith sicrwydd i Bractisau Meddygol Cyffredinol (practisau meddygon teulu).

Hoffem glywed gennych felly mae croeso i chi roi'ch adborth i ni drwy'r ddolen i arolwg ar ddiwedd y bwletin hwn.

Mwynhewch!

Diweddariad Busnes

Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Gweithredol

Cynllun Gweithredol 2023 - 2024

Rydym wedi lansio ein Cynllun Gweithredol ar gyfer 2023-2024 Yr wythnos hon. Mae'r cynllun yn amlinellu'r camau rydym yn bwriadu eu cymryd i gyflawni ein blaenoriaethau newydd, a welir yn ein Cynllun Strategol 2022-2025.

Y rhain yw’r canlynol:

  • Byddwn yn canolbwyntio ar ansawdd y gofal iechyd a ddarperir i bobl a chymunedau wrth iddynt gyrchu a defnyddio gwasanaethau a symud rhyngddynt
  • Byddwn yn addasu ein dull gweithredu i sicrhau ein bod yn ymatebol i risgiau i ddiogelwch cleifion sy'n dod i'r amlwg
  • Byddwn yn cydweithio er mwyn ysgogi'r gwaith o wella systemau a gwasanaethau ym maes gofal iechyd
  • Byddwn yn cefnogi ac yn datblygu ein gweithlu i'w galluogi nhw, a'r sefydliad, i gyflawni ein blaenoriaethau

Darllenwch ein cynllun gweithredol ar ein gwefan.

Cyfarwyddwr Sicrwydd Newydd

Mae'n bleser gennym gyhoeddi penodiad ein Cyfarwyddwr Sicrwydd newydd, Rhys Jones. Mae Rhys yn dod â chyfoeth o brofiad ac arbenigedd i'w rôl ac yntau wedi ymuno â'r sefydliad yn 2005. Cyn ymuno ag AGIC, astudiodd y Gyfraith a Chymdeithas ym Mhrifysgol Caerwysg a gweithiodd yn y sector preifat i Nielsen.

Yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Sicrwydd, mae Rhys yn rhoi arweinyddiaeth strategol ar swyddogaethau arolygu, ymchwilio a rheoleiddio AGIC. Mae wedi ymrwymo'n llwyr i wella ansawdd ac mae'n angerddol am yr effaith gadarnhaol y gall AGIC ei chael ar fywydau'r bobl yng Nghymru.

Dywedodd Rhys: Rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi'n Gyfarwyddwr Sicrwydd AGIC.Rwy'n gwbl ymrwymedig i'n gwaith a'r hyn sy'n rhoi cymhelliant i mi yw'r effaith gadarnhaol y gallwn ei chael ar fywydau pobl Cymru.  Wrth i mi ymgymryd â'r rôl newydd hon, rwy'n awyddus i ddefnyddio fy mhrofiad a'm harbenigedd i sicrhau ein bod yn parhau i gydweithio a sbarduno gwelliant mewn gwasanaethau gofal iechyd.

Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid – Aelodau Newydd

Y mis hwn mae ein Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid newydd ei sefydlu yn croesawu aelodau newydd, Stonewall Cymru ac Youth Cymru. Nod y grŵp yw ein helpu i ddeall cymunedau amrywiol yn well, fel y gallwn sicrhau bod ein gwaith yn ystyried y materion sy'n effeithio ar ansawdd y gwasanaethau gofal iechyd a ddarperir. Ar hyn o bryd, mae'r grŵp yn cynnwys cynrychioliaeth amrywiol sydd, yn unigol ac ar y cyd, yn helpu i gynghori ar ein cynlluniau a'n ffrydiau gwaith a'u llywio.

Hyd yma, mae'r grŵp wedi cyfarfod i drafod y gwaith o ddatblygu Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sy'n cael ei llunio gennym ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a rhoi adborth arno. Mae hefyd wedi cynnig cyngor ac arweiniad ar y dulliau gorau o ymgysylltu a'r ffordd orau o wella ein presenoldeb a chodi ymwybyddiaeth o'n rôl. Drwy'r grŵp hwn, ein nod yw datblygu a meithrin ein dealltwriaeth o gymunedau amrywiol, gan weithio tuag at nod a rennir o lywio gwelliannau ym maes gofal iechyd.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y grŵp hwn, e-bostiwch AGIC.Cyfathrebu@llyw.cymru

AGIC ym Malta

Aeth ein Prif Weithredwr, Alun Jones a'n Cyfarwyddwr Sicrwydd, Rhys Jones, i Malta ym mis Ebrill er mwyn cymryd rhan yng nghynhadledd y Bartneriaeth Ewropeaidd ar gyfer Sefydliadau Goruchwylio mewn Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (EPSO). Mae EPSO yn cynnwys sefydliadau llywodraethau ac sy'n gysylltiedig â llywodraethau sy'n ymgymryd â gweithgareddau ym maes gorfodi'r gyfraith, goruchwylio, monitro ac achredu, mewn perthynas â Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn gwledydd neu ranbarthau Ewropeaidd.

Bu'r gynhadledd yn llwyfan rhagorol i rwydweithio a dysgu ar y cyd am amrywiaeth o bynciau megis gofal integredig, gofal cymdeithasol a heneiddio yn ogystal ag arloesi ym maes gofal iechyd drwy ddulliau digidol newydd a datblygol.

Dyletswydd Ansawdd a Dyletswydd Gonestrwydd

Mae ein gwaith ar gysoni ein methodolegau presennol ar gyfer arolygu'r GIG (h.y. sut rydym yn arolygu), â'r Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal newydd (2023), sydd wedi disodli'r Safonau Iechyd a Gofal (2015), yn parhau. Mae hyn yn golygu cysoni cynnwys ein methodoleg bresennol â ‘Pharthau Ansawdd’ ac ystyried y Ddyletswydd Gonestrwydd.

Rydym hefyd wedi manteisio ar y cyfle i ystyried sut y gallwn gryfhau'r ffordd rydym yn ymdrin â sicrwydd yn unol â'r Ddyletswydd Ansawdd. Mae hyn wedi cynnwys ychwanegu adrannau newydd yn ein methodolegau ar gyfer meysydd megis ystyried effeithlonrwydd, a ‘safbwynt systemau cyfan’, y daw'r naill a'r llall o'r Ddyletswydd Ansawdd newydd.

Erys ffocws craidd ein gwaith sicrwydd ar ddiogelwch cleifion a risg a bydd hyn yn cael ei ategu gan y Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal newydd (2023). Adlewyrchir hyn yn ein methodolegau / Sut rydym yn arolygu, a sut rydym yn nodi gwasanaethau i'w harolygu drwy adolygu gwybodaeth.

Diweddariad ar Weithgarwch

Gweithgarwch Sicrwydd ac Arolygu

Cyn cyhoeddi adroddiadau ar arolygiadau o adrannau achosion brys, gwasanaethau mamolaeth ac unedau iechyd meddwl i gleifion mewnol, mae AGIC yn briffio'r cyfryngau, ymhlith rhanddeiliaid allweddol eraill, o dan embargo. Mae'r broses hon yn cyflawni ymrwymiad strategol AGIC i lywio gwelliannau i systemau a gwasanaethau ym maes gofal iechyd.

Mae'r cyhoeddiadau diweddaraf ar y prif bwyntiau yn cynnwys:

Gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glangwili wedi gwella'n sylweddol ers yr arolygiad diwethaf

Cwblhaodd AGIC arolygiad dirybudd ar safle’r uned famolaeth dros dri diwrnod yn olynol ym mis Tachwedd 2022, gan gynnwys y wardiau cynenedigol ac ôl-enedigol, yr uned a arweinir gan fydwragedd, y ward esgor a’r ardal asesiadau brysbennu. Nododd yr arolygwyr fod y gofal mamolaeth a ddarperir wedi gwella ers arolygiad blaenorol AGIC yn 2019, ond fod angen rhoi sylw i rai meysydd o hyd.

Arolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn nodi'r angen am welliannau sylweddol yn ysbyty iechyd meddwl arbenigol Heatherwood Court

Er gwaethaf y canfyddiadau cadarnhaol mewn perthynas ag arweinyddiaeth a gwybodaeth y staff am y cleifion, roedd angen gwneud gwelliannau allweddol mewn perthynas â rheoli digwyddiadau a rhoi gwybod amdanynt. O ganlyniad i'r pryderon a nodwyd, a'r diffyg sicrwydd o ran y prosesau a oedd ar waith i roi gwybod am ddigwyddiadau, eu cofnodi a dysgu gwersi ohonynt, nodwyd bod Heatherwood Court yn Wasanaeth sy'n Peri Pryder. Rydym yn parhau i fonitro'r gwasanaeth er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â'r holl welliannau sydd eu hangen yn ddi-oed.

Adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn nodi risgiau sylweddol i gleifion a gaiff eu rhyddhau o wardiau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar ansawdd a diogelwch y trefniadau ar gyfer rhyddhau cleifion sy'n oedolion o unedau iechyd meddwl i gleifion mewnol i'r gymuned. Ystyriodd yr adolygiad y polisïau a'r gweithdrefnau priodol sydd ar waith, gwerthusiad o gofnodion y cleifion a gwybodaeth a gafwyd drwy gynnal cyfweliadau gydag amrywiaeth o staff a oedd yn gweithio yng ngwasanaethau iechyd meddwl y bwrdd iechyd.

Drwy gydol yr adolygiad, gwnaeth AGIC 40 o argymhellion ar gyfer gwella. Oherwydd arwyddocâd rhai o'r pryderon ynghylch diogelwch y cleifion, rhoddwyd llythyr sicrwydd ar unwaith i'r bwrdd iechyd, ac yn dilyn hynny, roedd yn ofynnol iddo gyflwyno cynllun gwella ar unwaith i AGIC.

AGIC yn gweld gorlenwi a phwysau sylweddol yn adran achosion brys Ysbyty Cyffredinol Glangwili

Daeth yr arolygiad i'r casgliad nad oedd y cleifion yn cael gofal diogel yn gyson, er ymdrechion y staff.Nodwyd gennym fod y staff yn gweithio'n galed iawn i roi gofal o safon dda i gleifion, a hynny ar adeg pan oedd y gwasanaeth o dan gryn bwysau. Fodd bynnag, gwnaethom nodi bod angen gwneud nifer o welliannau, yr oedd angen i'r bwrdd iechyd gymryd camau mewn perthynas â rhai ohonynt ar unwaith.

AGIC yn galw am welliant ar unwaith yng Nghlinig Angelton yn Ysbyty Seiciatrig Glanrhyd

Tynnodd arolygwyr sylw at faterion difrifol yr oedd angen i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg weithredu arnynt ar unwaith, er mwyn atal niwed sylweddol i'r cleifion a'r staff. Yn ystod yr arolygiad, nodwyd nifer o feysydd yr oedd angen eu gwella'n sylweddol, gan gynnwys materion diogelwch, asesiadau o bwyntiau clymu, trefniadau cynllunio gofal digonol a chynnal archwiliadau rheolaidd.

Mae Adran Achosion Brys Ysbyty Glan Clwyd yn parhau i fod yn ‘Wasanaeth sydd Angen ei Wella'n Sylweddol’ yn dilyn arolygiad AGIC

Roedd yr ymweliad ym mis Tachwedd 2022 yn dilyn gwaith a wnaed gan AGIC ym mis Mawrth a mis Mai 2022 a dyma'r trydydd adroddiad arolygu a gyhoeddwyd gan AGIC mewn perthynas â'r uned hon ers mis Mawrth 2022. Yn sgil ein harolygiad ym mis Mai 2022, cafodd yr adran ei dynodi'n wasanaeth sydd angen ei wella'n sylweddol, dosbarthiad y mae AGIC yn ei ddefnyddio ar gyfer y gwasanaethau hynny lle ceir y pryderon mwyaf sylweddol ynghylch safonau. Er y gwelwyd rhai gwelliannau ym mis Tachwedd, o gymharu â'r sefyllfa yn gynharach yn y flwyddyn, mân welliannau oeddent ac nid oeddent yn cynnig digon o dystiolaeth i AGIC allu dileu'r dynodiad gwasanaeth sydd angen ei wella'n sylweddol. 

Mae angen gwella ar unwaith er mwyn cadw cleifion yn ddiogel yn dilyn arolygiad o Uned Iechyd Meddwl yn Ysbyty Llandochau

Anfonodd yr arolygwyr lythyr sicrwydd ar unwaith i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ar ôl gweld tystiolaeth bod staff wedi cymryd rhan mewn achosion lle y bu'n rhaid atal cleifion yn gorfforol, heb y lefelau gofynnol o hyfforddiant. Roedd hyn yn golygu na chawsom sicrwydd bod y staff a'r cleifion yn cael eu hamddiffyn a'u diogelu'n llawn rhag anaf. Nododd yr arolygiad fod y staff ar y wardiau yn ymrwymedig i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i'r cleifion.

Adroddiad yn canmol y staff ond yn dangos bod angen gwelliannau o fewn ward iechyd meddwl arbenigol yn Ysbyty Ystradgynlais

Canfu'r arolygwyr fod y staff yn llawn cymhelliant ac yn ymrwymedig i ddarparu safon uchel o ofal i'r cleifion, a bod prosesau digonol ar waith i reoli risg, iechyd a diogelwch a rheoli heintiau. Fodd bynnag, roedd angen gwelliannau mewn perthynas â diweddaru cynlluniau gofal y cleifion, polisïau ac asesiadau risg, diogelwch cofnodion y cleifion a chydymffurfiaeth y staff â hyfforddiant gorfodol.

Adolygiadau

Adolygiad Cenedlaethol o wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc

Yn ystod y gwanwyn, byddwn yn dechrau ac yn arwain adolygiad cenedlaethol ar y cyd â dwy arolygiaeth arall, Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Nod yr adolygiad yw canfod a yw plant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael cymorth effeithiol o ran eu llesiant meddyliol, a lle y bo'n gymwys, a oes ymyriad amserol ac effeithiol gan Wasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) i ddiwallu eu hanghenion.

Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried a yw gwasanaethau o fewn cymunedau pob bwrdd iechyd, gwasanaeth addysg a gwasanaeth plant yng Nghymru yn gwneud y canlynol:

  • Ystyried a/neu roi cymorth effeithiol i blant a phobl ifanc er mwyn helpu i atal problemau cynnar â llesiant meddyliol.
  • Rhoi cymorth effeithiol i blant a phobl ifanc er mwyn atal cyflyrau iechyd meddwl presennol rhag gwaethygu.

Gweithio'n dda gyda'i gilydd er mwyn sicrhau bod gofal neu gymorth amserol ac effeithiol yn cael ei gynnig i'r rhai sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt.

Adolygiad cyflym o drefniadau amddiffyn plant

Rydym yn gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn i ystyried sut y caiff plant yng Nghymru eu hamddiffyn. Amcan yr adolygiad cyflym yw canfod i ba raddau y mae'r strwythurau a'r prosesau presennol yng Nghymru yn sicrhau bod enwau plant yn cael eu rhoi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn briodol, a'u tynnu oddi arni pan fydd digon o dystiolaeth sy'n dangos ei bod yn ddiogel gwneud hynny.

Rydym yn gweithio ar y cyd ag AGC i wneud gwaith maes ar gyfer yr adolygiad, tra bydd Estyn yn gwneud gwaith maes mewn awdurdodau lleol gwahanol. Ar ôl cwblhau'r gwaith maes, bydd pob un ohonom yn cyfrannu tuag at yr adroddiad terfynol, a gaiff ei gyhoeddi yn ystod yr haf.

Adroddiad ar yr Adolygiad Arolygu ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant: Cyngor Sir Ddinbych, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Heddlu Gogledd Cymru

Cynhaliodd Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub EF (HMICFRS), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Estyn arolygiad ar y cyd o'r ymateb amlasiantaethol i gam-drin ac esgeuluso plant yn Sir Ddinbych.

Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu ein canfyddiadau ynglŷn ag effeithiolrwydd gweithio mewn partneriaeth a gwaith asiantaethau unigol yn Sir Ddinbych.

Adolygiad Lleol: Gwasanaeth Fasgwlaidd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Yn unol â'n proses ar gyfer gwasanaeth GIG sy'n peri pryder, ym mis Chwefror 2022 cafodd Gwasanaethau Fasgwlaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu dynodi'n gennym fel Gwasanaeth sydd Angen Gwelliant Sylweddol

Felly, rydym yn cynnal adolygiad lleol o wasanaethau fasgwlaidd y bwrdd iechyd er mwyn archwilio'r cynnydd a wnaed gan y bwrdd iechyd mewn perthynas â'r argymhellion a wnaed yn gynharach yn adroddiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, er mwyn cael sicrwydd ynglŷn â diogelwch cleifion ac ansawdd y gofal a ddarperir.

Rydym yn gobeithio cyhoeddi'r canfyddiadau yn ystod yr haf.

Adolygiad Cenedlaethol o Lif Cleifion (Llwybr Strôc)

Gall llif aneffeithiol ac aneffeithiol o gleifion gael effaith sylweddol ar ansawdd a diogelwch gofal cleifion. O ganlyniad, mae AGIC yn cynnal adolygiad cenedlaethol er mwyn ystyried y maes hwn yn fanwl.

Er mwyn asesu effaith yr heriau o ran llif cleifion ar ansawdd a diogelwch y gofal a roddir i gleifion sy'n aros i gael eu hasesu a'u trin, bydd ffocws ein hadolygiad ar y llwybr Strôc.

Dechreuwyd cynllunio'r adolygiad yn ystod hydref 2021, a dechreuwyd ar y gwaith maes ym mis Mawrth 2022. Rydym wedi ystyried sut mae GIG Cymru yn ymdrin â gallu pobl i gael gafael ar ofal acíwt ar yr adeg gywir ac a yw cleifion yn cael gofal yn y lle cywir, gan y bobl sydd â'r sgiliau cywir, hyd at eu rhyddhau'n amserol.

Rydym yn gobeithio cyhoeddi'r adroddiad ar yr adolygiad yn ystod yr haf eleni.

Dysgu a Dealltwriaeth

Yr hanfodion

Aethom ati'n ddiweddar i adnewyddu ein methodoleg ar gyfer Practisau Meddygol Cyffredinol (meddygon teulu) er mwyn cynnwys elfennau allweddol megis gwasanaethau cymorth iechyd meddwl a'r dirwedd gofal sylfaenol ehangach, gan gynnwys atgyfeiriadau a chyfeirio at wasanaethau eraill. Rydym bellach yn cynnwys adolygydd cymheiriaid sy'n nyrs practis ar ein tîm arolygu er mwyn adlewyrchu pwysigrwydd y rôl a faint o waith y maent yn ei gyfrannu at redeg practis meddygon teulu yn effeithiol. Rydym wedi arolygu naw practis meddygon teulu drwy ddefnyddio ein methodoleg newydd yn 2022/23.

Mae practisau meddygon teulu o dan gryn bwysau ac yn wynebu galw nas gwelwyd ei debyg o'r blaen, yr effeithir arno gan amseroedd aros hir mewn Adrannau Achosion Brys a meysydd eraill lle ceir pwysau ar y GIG. Adlewyrchwyd pwysau o'r fath yn ein canfyddiadau, sydd wedi amrywio'n sylweddol.

Fodd bynnag, mae diogelwch cleifion yn hollbwysig, ac rydym wedi nodi risgiau clir i ddiogelwch cleifion mewn llawer o'n harolygiadau. Rydym wedi anfon llythyrau Sicrwydd Uniongyrchol ar bum achlysur. Er mwyn rhoi hyn yn ei gyd-destun, yn y flwyddyn arolygu 2019/20, cwblhawyd 32 o arolygiadau o bractisau meddygon teulu a dim ond yn achos chwech roedd angen anfon llythyrau Sicrwydd Uniongyrchol. 

Roedd y materion a oedd yn gofyn am Sicrwydd Uniongyrchol yn cynnwys (mae rhai o'r rhain wedi digwydd fwy nag unwaith):

  • Cofnodion diogelu anghyflawn a methiant i weithredu ar bryderon.
  • Gwiriadau o gyfarpar a meddyginiaethau brys heb eu cwblhau
  • Dim gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar staff, gan gynnwys staff gweinyddol/y dderbynfa
  • Meddyginiaethau heb eu storio'n ddiogel
  • Gwiriadau ar dymheredd yr oergell feddyginiaethau heb eu cwblhau
  • Cydymffurfiaeth wael â hyfforddiant gorfodol, gan gynnwys diogelu, dadebru cardiopwlmonaidd ac atal a rheoli heintiau
  • Dyddiad defnyddio cyfarpar wedi mynd heibio, gan gynnwys pwythiadau di-haint, menig di-haint, pecynnau casglu samplau o wrin, pecynnau mân lawdriniaethau a nodwyddau, yr oedd rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i 2006.

Yn ein barn ni, mae hyfforddiant gorfodol yn rhan hollbwysig o sicrhau diogelwch cleifion mewn unrhyw leoliad gofal iechyd. Mae pynciau y bernir eu bod yn orfodol, er enghraifft atal a rheoli heintiau, diogelu a dadebru cardiopwlmonaidd, yn orfodol oerwydd y risgiau gwirioneddol i gleifion a'r ffordd y mae lleoliad yn rheoli digwyddiad posibl. Hefyd, mae'n ofynnol storio meddyginiaethau yn briodol, a gwneud gwiriadau ar gyfarpar brys, unwaith eto, oherwydd risgiau clir i ddiogelwch cleifion. Er eu bod nhw i gyd yn cymryd amser i'w cwblhau, mae'n werth buddsoddi'r adnoddau am ei bod yn helpu i ddiogelu cleifion a'r staff. 

Er gwaethaf y pwysau ar wasanaethau, mae ein harolygon o brofiad cleifion yn rheolaidd yn dod i'r casgliad bod staff yn trin cleifion ag urddas a pharch, ond mae tua chwarter y cleifion yn dweud wrthym eu bod yn ei chael hi'n anodd trefnu apwyntiad brys. 

Rhybuddion Diogelwch Cleifion i Roi Gwybodaeth / Arweiniad

Mae cyfrifoldeb ar ddarparwyr gwasanaethau gofal iechyd sydd wedi'u cofrestru o dan Reoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011 a Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017 i fod yn ymwybodol o unrhyw rybuddion diogelwch perthnasol sy'n cael eu rhoi.

Yn unol â'r rheoliadau hyn, rhaid i'r person cyfrifol fod yn ymwybodol o unrhyw arweiniad a gyhoeddir gan yr awdurdod cofrestru neu'r corff arbenigol priodol mewn perthynas â thrin a defnyddio meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys gwneud trefniadau priodol ar gyfer caffael, cofnodi, trin, defnyddio, cadw'n ddiogel, dosbarthu, rhoi a gwaredu meddyginiaethau ac unrhyw ddyfeisiau meddygol yn ddiogel a ddefnyddir yn y sefydliad neu'r asiantaeth gysylltiedig neu at ei (d)ddibenion.

Rhaid i unigolion cofrestredig ddiogelu cleifion rhag y risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio a rheoli meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol mewn ffordd anniogel, a sicrhau y gall cleifion a staff gael cyngor a gwybodaeth ynghylch unrhyw feddyginiaethau neu ddyfeisiau meddygol a ddefnyddir.

O ganlyniad i hyn, dylai pob darparwr gwasanaethau gofal iechyd cofrestredig sicrhau ei fod yn ymwybodol o rybuddion sy'n rhoi gwybodaeth am ddiogelwch cleifion gan Lywodraeth Cymru, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). Mae'r bwletinau hyn yn rhoi cyngor ar ddiogelwch i weithwyr proffesiynol gofal iechyd a'ch cleifion. Rhoddir y rhybuddion gwybodaeth i chi weithredu arnynt a'u lledaenu yn eich gwasanaethau. Mae'r rhain yn aml yn amrywio o rybuddion, negeseuon adalw a gwybodaeth am ddiogelwch sy'n ymwneud â meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol.

Gellir gweld rhai ohonynt drwy ddilyn y dolenni isod:

Dweud eich Dweud

Rydym am glywed eich barn!

Ewch i'n gwefan lle mae nifer o arolygon i staff, cleifion a gofalwyr ar agor ar hyn o bryd, ac rydym yn croesawu'ch barn.

Mae ein holl arolygon sydd ar agor bellach ar gael ar dudalen arolygon ein gwefan.

Munud i'w sbario?

Hoffem gael eich barn chi ar ein Bwletin Arsylwi – dim ond ychydig o gwestiynau a dyna'r cyfan!