Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad yn canmol y staff ond yn dangos bod angen gwelliannau o fewn ward iechyd meddwl arbenigol yn Ysbyty Ystradgynlais

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (4 Mai 2023) yn dilyn arolygiad o Ward Tawe, sy'n arbenigo mewn gofal iechyd meddwl yn Ysbyty Cymunedol Ystradgynlais.

Ward Tawe,  Ysbyty Cymunedol YstradgynlaisCanfu'r arolygwyr fod y staff yn llawn cymhelliant ac yn ymrwymedig i ddarparu safon uchel o ofal i'r cleifion, a bod prosesau digonol ar waith i reoli risg, iechyd a diogelwch a rheoli heintiau. Fodd bynnag, roedd angen gwelliannau mewn perthynas â diweddaru cynlluniau gofal y cleifion, polisïau ac asesiadau risg, diogelwch cofnodion y cleifion a chydymffurfiaeth y staff â hyfforddiant gorfodol.

Cwblhaodd AGIC arolygiad dirybudd yn yr ysbyty ar dri diwrnod dilynol ym mis Ionawr 2023. Yn ystod y cyfnod hwn, arolygwyd nifer o ardaloedd asesu sy'n rhan o Ward Tawe, sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion hŷn o'r ddau ryw.

Gwelodd yr arolygwyr y staff yn rhyngweithio ac yn ymgysylltu'n barchus â'r cleifion a'u hymwelwyr.  Roedd y staff yn ymroddedig ac roedd ganddynt ddealltwriaeth dda o anghenion y cleifion, ac roedd ymwelwyr â'r ward hefyd yn canmol y gofal a ddarperir.

Roedd cydymffurfiaeth isel o ran hyfforddiant gorfodol, goruchwylio staff ac arfarniadau, ynghyd â diffyg cyfarfodydd mewnol rheolaidd.  Nid oedd tystiolaeth ychwaith fod cyfarfodydd adborth cleifion yn cael eu cynnal yn rheolaidd, a fyddai'n rhoi cyfle i drafod unrhyw ofynion ychwanegol. Mae angen gwella'r mesurau diogelwch sydd ar waith ac ymddangosiad ardaloedd awyr agored y ward a’r heulfa, er mwyn i'r cleifion allu defnyddio'r ardaloedd hyn mewn modd therapiwtig i hybu eu llesiant. 

Nododd yr arolygwyr nad oedd cynlluniau gofal y cleifion yn cael eu hasesu na'u monitro'n rheolaidd er mwyn nodi a rheoli risgiau sy'n gysylltiedig â gofal diogel i'r cleifion. Nid oedd yr asesiadau risg yn gyfredol nac yn ddigon cynhwysfawr i alluogi aelod o'r staff nad yw'n adnabod y claf i fod yn llwyr ymwybodol o unrhyw risgiau. Byddai hyn yn peri pryder penodol yn achos aelod o staff asiantaeth a oedd yn gweithio ar y ward am y tro cyntaf. Byddai'n anodd iawn i'r aelod hwnnw o staff ddeall ymddygiad y cleifion a'r camau priodol i'w cymryd.

Wrth adolygu cofnodion y cleifion, gwelodd yr arolygwyr dystiolaeth bod y cleifion yn cael asesiadau corfforol priodol adeg eu derbyn, yn ogystal â gwiriadau iechyd corfforol parhaus. Fodd bynnag, nid oedd cofnodion y cleifion a data adnabyddadwy bob amser yn cael eu cadw'n ddiogel er mwyn sicrhau cyfrinachedd. Roedd meddyginiaeth yn cael ei storio'n ddiogel, ac roedd y staff yn cloi'r ystafell glinigol a'r cypyrddau meddyginiaeth er mwyn atal achosion o fynediad heb awdurdod. Mae system electronig sefydledig ar waith ar gyfer cofnodi, adolygu a monitro digwyddiadau diogelwch cleifion a chadarnhaodd y staff fod cyfarfodydd ôl-drafod yn cael eu cynnal i adolygu'r gwersi a ddysgwyd.

Nododd yr arolygwyr nad oedd y staff yn gwisgo larymau personol a chan nad oes ymateb seiciatrig brys ar gael ar unwaith ac eithrio'r ymateb ar y ward, roedd hyn yn peri risg i ddiogelwch y staff a'r cleifion. Nododd yr arolygwyr hefyd ei bod hi'n anodd cael mynediad i'r ysbyty y tu allan i oriau, nid oedd y gloch alw yn gweithio ac roedd y ffôn a oedd wedi'i osod ar wal y tu allan i'r ysbyty mewn cyflwr gwael. Rhaid i'r bwrdd iechyd sicrhau bod y rhain yn cael eu trwsio neu osod rhai newydd yn eu lle.

Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones:

Mae'n gadarnhaol gweld ymroddiad ac ymrwymiad y staff i ddarparu safonau gofal mor uchel yn Ward Tawe. Nododd ein harolygiad feysydd i'w gwella y bydd angen ymdrin â nhw er mwyn gwella ansawdd y gofal i'r cleifion. Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi llunio cynllun sy'n nodi camau gwella o ganlyniad i'n gwaith arolygu a sicrwydd. Bydd AGIC yn monitro cynnydd y bwrdd iechyd yn erbyn y cynllun hwn.