Neidio i'r prif gynnwy

Mae Adran Achosion Brys Ysbyty Glan Clwyd yn parhau i fod yn ‘Wasanaeth sydd Angen ei Wella'n Sylweddol’ yn dilyn arolygiad AGIC

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (29 Mawrth 2023) mewn perthynas â'i harolygiad o'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd yn y Rhyl.

Ysbyty Glan Clwyd

Roedd yr ymweliad ym mis Tachwedd 2022 yn dilyn gwaith a wnaed gan AGIC ym mis Mawrth a mis Mai 2022 a dyma'r trydydd adroddiad arolygu a gyhoeddwyd gan AGIC mewn perthynas â'r uned hon ers mis Mawrth 2022. Yn sgil ein harolygiad ym mis Mai 2022, cafodd yr adran ei dynodi'n wasanaeth sydd angen ei wella'n sylweddol, dosbarthiad y mae AGIC yn ei ddefnyddio ar gyfer y gwasanaethau hynny lle ceir y pryderon mwyaf sylweddol ynghylch safonau. Er y gwelwyd rhai gwelliannau ym mis Tachwedd, o gymharu â'r sefyllfa yn gynharach yn y flwyddyn, mân welliannau oeddent ac nid oeddent yn cynnig digon o dystiolaeth i AGIC allu dileu'r dynodiad gwasanaeth sydd angen ei wella'n sylweddol. 

Ym mis Tachwedd, gwelodd ein harolygwyr fod yr adran, unwaith eto, yn eithriadol o brysur, a'i bod yn cael trafferthion oherwydd prinder staff, nifer uchel o gleifion difrifol wael a diffyg lle i'w trin.

Roedd staff yr Adran Achosion Brys yn gweithio'n ddiflino yn yr amgylchedd heriol hwn i roi'r gofal gorau posibl, ond gwnaethant ddweud wrth yr arolygwyr eu bod yn aml yn teimlo'n anhapus, yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r llwyth gwaith ac nad oeddent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan uwch-arweinwyr y bwrdd iechyd. Fodd bynnag, gwnaethant ganmol y rheolwyr a oedd yn gweithio'n uniongyrchol yn yr adran, a gwelsom, ar y lefel leol hon, fod yr uwch-arweinwyr meddygol a'r uwch-arweinwyr nyrsio yn gefnogol ac yn weladwy.

Gwelsom dystiolaeth fod gwelliannau wedi cael eu gwneud i safon gyffredinol y gwaith cofnodi yn nodiadau'r cleifion. Roedd staff meddygol yr Adran Achosion Brys yn cofnodi ymyriadau a chamau gweithredu yn glir ac roeddent yn hawdd eu dilyn, ac roedd y staff nyrsio yn cofnodi'r gofal roeddent yn ei roi a'r ymyriadau a oedd yn cael eu rhoi ar waith mewn modd clir a oedd yn dangos gwelliant. Roedd hyn yn ganfyddiad cadarnhaol ac yn dangos bod cynnydd wedi'i wneud yn y maes hwn ers ein harolygiad diwethaf.

Nododd yr arolygiad ei bod hi'n anodd sicrhau digon o staff ar gyfer y rota staffio, a bod yr adran yn dibynnu'n sylweddol ar ddefnyddio staff banc ac asiantaeth i gyflenwi ar gyfer absenoldebau ymhlith y staff. Nodwyd anawsterau wrth recriwtio a chadw staff hefyd. Cododd y staff bryderon hefyd am y lefelau amrywiol o ran profiad y staff ar shifftiau, gan gynnwys adegau lle roedd y rhan fwyaf o'r staff ar lefel iau. 

Ar ail ddiwrnod ein harolygiad ym mis Tachwedd, roedd prinder nyrsys a chynorthwywyr gofal iechyd yn yr adran. Roedd staff wedi cael eu symud i gefnogi ardaloedd prysuraf yr uned, a oedd yn golygu nad oedd unrhyw staff yn goruchwylio ardal y coridor a oedd yn cynnwys cleifion a oedd yn wael. Yn ystod y cyfnod hwn, bu'n rhaid i arolygwyr AGIC roi cymorth i un claf a oedd yn wael ac yr oedd angen help arno, ond nid oedd unrhyw aelodau o staff i'w gweld.

Nododd yr arolygwyr fod ymdrechion wedi cael eu gwneud i wella'r trefniadau goruchwylio a'r gofal a roddwyd i gleifion yn yr ystafell aros, gan gynnwys trefniant lle roedd nyrs gofrestredig bellach yn cael ei neilltuo i ymdrin â chleifion a oedd yn cyrraedd yr adran a'r ardaloedd aros. Pan nad oedd nyrs ar gael, roedd cynorthwyydd gofal iechyd yn ymgymryd â'r rôl hon.

Canfu'r arolygiad unwaith eto fod llif y cleifion drwy'r adran yn hynod heriol. Nododd yr arolygwyr fod yr amseroedd aros cychwynnol i weld meddyg wedi gwella ers ein hymweliad ym mis Mai 2022, ond bod cleifion yn gorfod aros tua thair awr o hyd. Lle roedd yr Adran Achosion Brys yn gofyn am fewnbwn gan feddyg arbenigol, nodwyd gennym bod yr amseroedd ymateb yn amrywio. Ar rai achlysuron, roedd y meddygon arbenigol yn gwrthod dod i weld cleifion oedd yn aros yn yr Adran Achosion Brys, gan arwain at ragor o oedi wrth drin y cleifion hynny a chyfnodau aros hwy yn yr adran. Ategwyd hyn gan sylwadau gan y staff a ddywedodd wrthym fod hyn yn achosi rhwystredigaeth ac yn amharu ymhellach ar lif cyffredinol y cleifion.

Unwaith eto, nododd yr arolygwyr fod darparu gofal amserol i gleifion yn yr adran yn faes i'w wella. Roedd cryn oedi cyn i gleifion gael eu brysbennu ac roedd hyn yn peri risg sylweddol o niwed i'r cleifion. Roedd mwy na dwy awr o oedi ar adegau ac roedd hyn yn cynnwys cleifion â chyflyrau lle mae amser yn hollbwysig fel strôc a phoen ar y frest. Roedd hyn yn golygu na ellid cynnig triniaethau o fewn y terfynau amser cydnabyddedig ar gyfer ymyriadau critigol.

Roedd tystiolaeth nad oedd arsylwadau fel gwiriadau pwysedd gwaed, cofnodi cyfradd curiad y galon a chyfradd anadlu cleifion oedd yn wynebu risg o waethygu yn cael eu hailadrodd mor aml â'r amlder a nodir mewn canllawiau cenedlaethol. Gallai hyn arwain at oedi wrth roi triniaethau lle mae amser yn hollbwysig. Gwelsom hefyd achosion lle nad oedd profion sgrinio yn cael eu cynnal ar gyfer sepsis a bod oedi cyn rhoi gwrthfiotigau neu feddyginiaethau lleddfu poen i'r cleifion.

Roedd problemau yn bodoli o hyd mewn perthynas â rheoli risgiau amgylcheddol yn yr adran. Roedd meddyginiaethau yn cael eu gadael heb oruchwyliaeth, roedd meddyginiaethau lle roedd y dyddiad arnynt wedi mynd heibio, roedd cypyrddau a oedd yn cynnwys offer miniog y gellid cael gafael arno'n hawdd yn cael eu gadael heb eu cloi ac nid oedd y drysau rhwng gwahanaol ardaloedd yr adran dan glo. Gwelsom hefyd fod hambyrddau bwyd gwag, poteli wrin a oedd wedi'u defnyddio a chyfarpar clinigol arall yn cael eu gadael heb eu clirio am gyfnodau hir.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi llunio cynllun sy'n cynnwys cyfres gynhwysfawr o gamau gweithredu i ymdrin â'r amrywiaeth eang o welliannau sydd eu hangen. Gan fod y gwasanaeth yn parhau o dan lefel graffu uchaf AGIC o hyd, bydd AGIC yn parhau i fonitro ymateb y bwrdd iechyd yn agos iawn.

Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones:

‘Nododd yr arolygiad hwn dystiolaeth o adran sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â'r galw dyddiol sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaeth diogel i gleifion. Tynnodd sylw at feysydd fel gwaith tîm gwael rhwng yr Adran Achosion Brys ac adrannau eraill yn yr ysbyty sydd, yn ei dro, yn ychwanegu at yr heriau a gydnabyddir yn genedlaethol o ran llif cleifion. Bydd angen i'r bwrdd iechyd gymryd camau cryf a chadarn i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd yn ein harolygiad. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r bwrdd iechyd er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i weithredu mewn ymateb i'n canfyddiadau’.

Tachwedd 2022 – Adroddiad Arolygu Ysbyty: Adran Achosion Brys – Ysbyty Glan Clwyd

Tachwedd 2022 – Adroddiad Cryno ar yr Arolygiad: Adran Achosion Brys – Ysbyty Glan Clwyd