Neidio i'r prif gynnwy

AGIC yn galw am welliant ar unwaith yng Nghlinig Angelton yn Ysbyty Seiciatrig Glanrhyd

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (15 Mawrth 2023) yn dilyn arolygiad o Glinig Angelton yn Ysbyty Seiciatrig Glanrhyd, Pen-y-bont ar Ogwr.

Clinig Angelton Wardiau 1 a 2 - Ysbyty Glanrhyd

Tynnodd arolygwyr sylw at faterion difrifol yr oedd angen i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg weithredu arnynt ar unwaith, er mwyn atal niwed sylweddol i'r cleifion a'r staff. Yn ystod yr arolygiad, nodwyd nifer o feysydd yr oedd angen eu gwella'n sylweddol, gan gynnwys materion diogelwch, asesiadau o bwyntiau clymu, trefniadau cynllunio gofal digonol a chynnal archwiliadau rheolaidd.

Cwblhaodd AGIC arolygiad dirybudd o'r ysbyty ar dri diwrnod dilynol ym mis Tachwedd y llynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, arolygwyd nifer o ardaloedd asesu ar Wardiau 1 a 2 yng Nghlinig Angelton. Mae'r gwasanaeth yn darparu gofal i bobl hŷn â diagnosis o gyflwr iechyd meddwl difrifol a pharhaus a dementia.

Gwelwyd bod y staff yn yr uned yn ymrwymedig i ddarparu gofal o safon uchel i'r cleifion. Gwelodd yr arolygwyr y staff yn rhyngweithio ac yn ymgysylltu'n barchus â'r cleifion a'u hymwelwyr, ac roedd prosesau adborth effeithiol ar waith. 

Gwelwyd bod prosesau llywodraethu ac archwilio yn annigonol ac, wrth edrych ar gynlluniau gofal y cleifion, gwelodd yr arolygwyr nad oeddent yn cael eu hasesu na'u monitro'n rheolaidd.  Nid oedd asesiadau o bwyntiau clymu'n cael eu rheoli'n effeithiol ac nid oedd torwyr clymau ar y naill ward na'r llall. Roedd ystafelloedd yn yr ysbyty a oedd yn cael eu hystyried yn ‘ystafelloedd rhydd o bwyntiau clymu’ ond nid oedd cynllun cadarn i'w weld i atal cleifion risg uchel rhag mynd i mewn i ystafelloedd eraill a chael gafael o bosibl ar eitemau y gallent eu clymu. Dylai'r bwrdd iechyd ystyried cael rhestr y cytunwyd arni o eitemau cyfyngedig a gwaharddedig sy'n cael eu caniatáu ar y ward, sydd i'w gweld yn glir yn yr ysbyty.

Roedd lefelau cydymffurfiaeth â hyfforddiant gorfodol yn isel ac argymhellwn y dylai'r bwrdd iechyd gynnal dadansoddiad o setiau sgiliau er mwyn rhoi hyfforddiant wedi'i deilwra i'r staff sy'n berthnasol i'w rôl.

Roedd angen gwelliannau sylweddol hefyd o ran cwblhau dogfennaeth glinigol er mwyn cofnodi'r gofal a ddarperir yn yr ysbyty mewn modd cywir a chlir. Nodwyd hefyd fod angen gwella diogelwch drysau mewnol y wardiau oherwydd gallai cleifion ddianc, neu gallai pobl anawdurdodedig gael mynediad i'r wardiau. Mae hyn yn peri risg i'r cleifion a'r staff.

Roedd y lefelau staffio yn ystod yr arolygiad yn ddigonol a gwelodd yr arolygwyr gydberthnasau da rhwng y staff a oedd yn cydweithio'n dda fel tîm.

Oherwydd ein pryderon, gwnaethom anfon llythyr Sicrwydd ar Unwaith, lle gwnaethom ysgrifennu i'r gwasanaeth yn syth ar ôl ein harolygiad gan gyflwyno ein canfyddiadau lle mae angen camau unioni brys. 

Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones:

Fel rhan o'n harolygiad, nodwyd nifer o feysydd i'w gwella sy'n peri risg ddifrifol i'r cleifion a'r staff yng Nghlinig Angelton. Pan fyddwn yn nodi pryderon sy'n peri risg uniongyrchol i ddiogelwch cleifion, gofynnwn i'r bwrdd iechyd gymryd camau brys.  Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi llunio cynllun cynhwysfawr sy'n nodi camau gwella, y byddwn yn parhau i fonitro cynnydd yn ei erbyn.