Neidio i'r prif gynnwy

Arolygiad yn nodi'r angen am welliannau sylweddol yn ysbyty iechyd meddwl arbenigol Heatherwood Court

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (3 Mawrth) yn dilyn arolygiad o Ysbyty Heatherwood Court ym Mhontypridd, sy'n arbenigo mewn gofal iechyd meddwl.

Ysbyty heatherwood Court - Gwasanaeth Iechyd Meddwl Annibynnol

Er gwaethaf y canfyddiadau cadarnhaol mewn perthynas ag arweinyddiaeth a gwybodaeth y staff am y cleifion, roedd angen gwneud gwelliannau allweddol mewn perthynas â rheoli digwyddiadau a rhoi gwybod amdanynt. O ganlyniad i'r pryderon a nodwyd a'r diffyg sicrwydd o ran y prosesau a oedd ar waith i roi gwybod am ddigwyddiadau, eu cofnodi a dysgu gwersi ohonynt, nodwyd Heatherwood Court fel Gwasanaeth sy'n Peri Pryder. Rydym yn parhau i fonitro'r gwasanaeth er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â'r holl welliannau sydd eu hangen yn ddi-oed.

Cwblhaodd AGIC arolygiad dirybudd dros ddau ddiwrnod ym mis Tachwedd y llynedd, gan ganolbwyntio'n benodol ar arweinyddiaeth a llywodraethu a'r broses o roi gwybod am ddigwyddiadau a'u rheoli. Mae lle i 47 o bobl mewn unedau rhywedd unigol yn yr ysbyty adsefydlu diogelwch isel dan glo, sy'n cynnig triniaeth i ddynion a merched ar lwybr gofal iechyd meddwl fforensig.

Gwelodd yr arolygwyr dîm arwain a staff amlddisgyblaethol a oedd yn frwdfrydig ac yn gefnogol ac a oedd yn meddu ar ddealltwriaeth dda o anghenion y cleifion.  Roedd taflenni gwybodaeth barod ar gael, a oedd yn ei gwneud yn haws i bob aelod o'r staff ddeall anghenion y cleifion. Roedd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar y cleifion mwy heriol a oedd yn fwy agored i niwed, gan alluogi'r staff i ganfod y ffordd orau o helpu yn ystod argyfwng yn gyflym.

Yn ystod yr arolygiad ar y safle, gwelsom fod risgiau i'r cleifion yn cael eu trafod. Ond ni allem fod yn sicr bod trefniadau digonol ar waith o ran rheoli digwyddiadau a rhoi gwybod amdanynt. Ystyriodd yr arolygwyr 47 o ddarnau o ddogfennaeth, a oedd yn cynnwys ffurflenni digwyddiadau cleifion ac atgyfeiriadau diogelu dros gyfnod o naw mis. Gwelsom dystiolaeth o sawl digwyddiad nad oedd yr ysbyty wedi rhoi gwybod i AGIC amdanynt er bod hynny'n ofynnol o dan Reoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011. Mae'n ofynnol i ddarparwyr a rheolwyr gwasanaethau gofal iechyd annibynnol gydymffurfio â'r rheoliadau hyn. Achosion o hunan-niweidio oedd rhai o'r digwyddiadau yn ymwneud â chleifion na roddwyd gwybod i AGIC amdanynt, lle y bu'n rhaid mynd â'r claf i'r ysbyty. Mae categori anafiadau difrifol y rheoliadau yn berthnasol i ddigwyddiadau o'r fath. Gwelsom hefyd nad oedd nifer o'r ffurflenni digwyddiadau cleifion wedi cael eu hadolygu'n briodol gan un o uwch-reolwyr y gwasanaeth. Ystyriwyd bod hyn yn achos o dorri'r rheoliadau ac felly rydym wedi cyhoeddi hysbysiad diffyg cydymffurfio.

Mae'n ofyniad rheoleiddiol i'r ysbyty sicrhau y caiff rheolwr cofrestredig ei gyflogi. Fodd bynnag, oherwydd problemau staffio ac oedi o ran y gweithdrefnau recriwtio, ni fu unigolyn priodol yn ymgymryd â'r rôl hon ers dros 12 mis. Ystyriwyd bod hyn hefyd yn achos o dorri'r rheoliadau a chyhoeddwyd hysbysiad diffyg cydymffurfio pellach.

Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones:

O ganlyniad i'r pryderon a nodwyd yn ystod ein harolygiad, nodwyd Heatherwood Court fel Gwasanaeth sy'n Peri Pryder.

Er ei bod yn gadarnhaol gweld arweinwyr brwdfrydig sy'n meddu ar ddealltwriaeth dda o anghenion y cleifion yn Heatherwood Court, nodwyd yn ystod ein harolygiad fod angen i'r gwasanaeth weithredu er mwyn gwneud nifer o welliannau ar unwaith.

Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r darparwr i sicrhau y gwneir cynnydd wrth ymateb i'r pryderon hyn ac y caiff gwelliannau eu gwneud.