Ni yw rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd a'r arolygiaeth ar gyfer gwasanaethau'r GIG yng Nghymru. Ein rôl yw gwirio bod gofal iechyd yn ddiogel, yn effeithiol ac yn diwallu anghenion pobl a chymunedau. Ein gweledigaeth yw dyfodol lle mae gofal iechyd yng Nghymru yn ddiogel, yn effeithiol ac o ansawdd uchel i bawb.

Un o'r blaenoriaethau allweddol a nodir yn ein strategaeth yw Cymryd Camau sydd o Bwys; byddwn yn cymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gofal iechyd ar gyfer dyfodol Cymru. Mae'r broses Gwasanaeth sy'n Peri Pryder, a sefydlwyd o dan ein strategaeth flaenorol, yn cefnogi'r flaenoriaeth hon drwy wella tryloywder a rhoi sicrwydd clir i'r cyhoedd am ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd y GIG.
Byddwn yn defnyddio'r broses hon ar gyfer Gwasanaeth sy'n Peri Pryder pan fydd yn nodi methiannau sylweddol unigol o fewn gwasanaeth neu bryderon cronnol neu systemig yn ymwneud â gwasanaeth neu leoliad. Mae ein proses uwchgyfeirio a gorfodi ar gyfer gofal iechyd annibynnol yn defnyddio proses o'r fath ar hyn o bryd.
Bydd y broses hon yn ein galluogi i nodi a thynnu sylw at unrhyw 'Wasanaeth sydd Angen ei Wella'n Sylweddol', yn cynyddu tryloywder ynghylch y ffordd rydym yn cyflawni ein rôl, ac yn sicrhau y gall amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys byrddau iechyd, gymryd camau penodol a chyflym i sicrhau bod gofal diogel ac effeithiol yn cael ei ddarparu.
Ein bwriad drwy gyflwyno'r broses hon yw cefnogi cyfleoedd i wella a dysgu, ar gyfer y gwasanaeth dan sylw ac ar draws gwasanaethau'r GIG yn ehangach.
Mae'r broses Gwasanaeth sy'n Peri Pryder a'r dynodiad ‘Gwasanaeth sydd Angen ei Wella'n Sylweddol’ dilynol yn annibynnol ac yn wahanol i drefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd y GIG. Fodd bynnag, bydd y broses hon yn llywio ein barn ac yn cyfrannu at y trafodaethau ar statws cyffredinol cyrff y GIG.
Os bydd 'Gwasanaeth sydd Angen ei Wella'n Sylweddol' yn cael ei nodi, byddwn yn cyfathrebu hyn ar ein gwefan, ynghyd â'r rhesymau dros y penderfyniad hwn, yn ogystal ag unrhyw adroddiad sy'n ymwneud ag arolygiad neu adolygiad o fwrdd iechyd/ymddiriedolaeth.
Dogfennau
-
Y Broses ar gyfer Gwasanaethau sy'n Peri Pryder i Gyrff y GIG yng Nghymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 557 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:557 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.