Neidio i'r prif gynnwy

Croeso i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Ni yw'r arolygiaeth a'r rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru

Chwiliwch am wasanaeth gofal iechyd neu adroddiad arolygu

Ein diweddariadau diweddaraf

Newyddion

Canmol Diwylliant Cadarnhaol a Gofal Mamolaeth Cynhwysol yn Ysbyty Glangwili, gyda Meysydd i'w Gwella wedi'u nodi

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn arolygiad dirybudd o'r gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Cyhoeddedig: 14 Awst 2025
Cyhoeddi rhybudd i ddarparwr a oedd yn defnyddio gwasanaethau laser anghofrestredig

Yn dilyn ymchwiliad troseddol diweddar, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi defnyddio ei phwerau cyfreithiol o ganlyniad i achos o dorri Deddf Safonau Gofal 2000. Mae'n dilyn tystiolaeth bod gwasanaeth yn darparu triniaethau laser esthetig mewn clinig yn Wrecsam, Clwyd heb gofrestriad.

Cyhoeddedig: 5 Awst 2025
Datganiad Safbwynt ar Adolygiad dan Arweiniad Teuluoedd Grŵp Cymorth Mamolaeth Bae Abertawe o Wasanaethau Mamolaeth

Hoffai Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ddiolch yn ddiffuant i Grŵp Cymorth Mamolaeth Bae Abertawe a'r holl deuluoedd a gyfrannodd at yr adolygiad pwysig hwn. Mae'r adroddiad yn cyflwyno hanes pwerus a hynod emosiynol o brofiadau bywyd, ac rydym yn cydnabod bod ymdrech, gofal a dewrder sylweddol wedi mynd i'w ddatblygu.

Cyhoeddedig: 1 Awst 2025
Canslo Cofrestriad ar gyfer Practis Deintyddol Preifat ar Ynys Môn

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad arolygu ar gyfer Practis Deintyddol Preswylfa, sy'n bractis deintyddol preifat ar Heol Glanhwfa, Llangefni, Ynys Môn.

Cyhoeddedig: 25 Gorffennaf 2025
Gofal Brys Dan Bwysau: Canmol staff er gwaethaf yr heriau parhaus yn Ysbyty Gwynedd

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn arolygiad dirybudd o'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Gwynedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Cyhoeddedig: 24 Gorffennaf 2025