Ydych chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdano wedi cael ECT yng Nghymru?
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cynnal adolygiad cenedlaethol o wasanaethau Therapi Electrogynhyrfol (ECT) ledled Cymru.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cynnal adolygiad cenedlaethol o wasanaethau Therapi Electrogynhyrfol (ECT) ledled Cymru.
Triniaeth arbenigol yw ECT a ddefnyddir ar gyfer rhai cyflyrau iechyd meddwl, yn enwedig pan na fydd triniaethau eraill wedi bod yn effeithiol neu lle y gallai fod angen ymateb cynt i driniaeth.
Fel rhan o'n hadolygiad, hoffem glywed gan bobl sydd â phrofiad o ECT.
Os ydych chi wedi cael ECT yng Nghymru, neu os ydych chi'n aelod o deulu neu'n gofalu am rywun sydd wedi'i gael, hoffem eich gwahodd i rannu eich barn a'ch profiadau.
Gallwch rannu cymaint neu gyn lleied ag yr ydych yn teimlo'n gyfforddus yn ei rannu. Gallai hyn gynnwys yr hyn a weithiodd yn dda, y wybodaeth, y gofal a'r cymorth a ddarparwyd, i ba raddau roeddech yn teimlo eich bod wedi cael eich cynnwys mewn penderfyniadau am driniaeth, ac unrhyw newidiadau a allai wella gwasanaethau i eraill. Bydd yr hyn y byddwch yn ei ddweud wrthym yn ein helpu i ddeall profiadau pobl o wasanaethau ECT ledled Cymru ac yn llywio ein hadolygiad cenedlaethol.
Yn awyddus i gymryd rhan?
Cwblhewch ein ffurflen fer i fynegi diddordeb erbyn 18 Rhagfyr 2026.
Os ydych yn aelod o staff gofal iechyd, cwblhewch ein harolwg staff.
Dysgwch fwy am adolygiad cenedlaethol AGIC o wasanaethau ECT.