Neidio i'r prif gynnwy

Pa mor effeithiol y caiff gwasanaethau ECT eu harwain, eu llywodraethu a'u cyflwyno ledled Cymru i ddarparu gofal diogel, cyson, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn?

Bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cynnal adolygiad o wasanaethau therapi electrogynhyrfol (ECT) ledled Cymru. Bydd yr adolygiad yn rhoi sicrwydd annibynnol ynghylch ansawdd, diogelwch, effeithiolrwydd a llywodraethu gwasanaethau ECT, gan nodi cyfleoedd ar gyfer gwella, dysgu ar lefel genedlaethol a darparu gwasanaethau yn fwy cyson.

Pa mor effeithiol y caiff gwasanaethau ECT eu harwain, eu llywodraethu a'u cyflwyno ledled Cymru i ddarparu gofal diogel, cyson, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn?Pa mor effeithiol y caiff gwasanaethau ECT eu harwain, eu llywodraethu a'u cyflwyno ledled Cymru i ddarparu gofal diogel, cyson, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn?

 

Triniaeth arbenigol yw ECT a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer achosion o iselder difrifol a rhai cyflyrau iechyd meddwl difrifol eraill, yn enwedig lle gall fod angen ymateb clinigol cyflym neu lle nad yw triniaethau eraill wedi bod yn effeithiol. Gan fod ECT yn cynnwys anesthesia ac yn achosi ffit, mae angen mesurau diogelu clinigol, cyfreithiol a gweithredol cadarn ar ei gyfer. 

Mae'r mesurau diogelu allweddol yn cynnwys prosesau priodol ar gyfer cynnal asesiadau a gwneud penderfyniadau clinigol; cydsyniad ar sail gwybodaeth a chydymffurfiaeth â'r Ddeddf Iechyd Meddwl a'r Ddeddf Galluedd Meddyliol, staff cymwys a gaiff eu cefnogi, cyfleusterau a chyfarpar diogel, trefniadau ar gyfer monitro iechyd corfforol, prosesau adfer a phrosesau dilynol, a threfniadau llywodraethu, archwilio a sicrhau ansawdd effeithiol. 

Mae gwybodaeth AGIC a gwaith cwmpasu cynnar wedi nodi gwerth cael darlun cenedlaethol clir o sut y caiff gwasanaethau ECT eu darparu ym mhob rhan o GIG Cymru. Bydd yr adolygiad yn ystyried cysondeb ac amrywiad rhwng gwasanaethau, sut y caiff hawliau a phrofiadau cleifion eu hadlewyrchu fel rhan o'r gofal, sut caiff canlyniadau eu monitro, a sut mae'r byrddau iechyd yn bodloni eu hunain ynghylch ansawdd a diogelwch gwasanaethau. 

Bydd yr adolygiad yn ystyried Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023, deddfwriaeth berthnasol ym maes iechyd meddwl a galluedd meddyliol, safonau Gwasanaeth Achredu Therapi Electrogynhyrfol Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (ECTAS), a chanllawiau cymwys NICE. Ni fydd yn dyblygu nac yn disodli system achredu ECTAS. Yn hytrach, bydd yn rhoi sicrwydd annibynnol o safbwynt Cymru gyfan ac yn cefnogi cyfleoedd i rannu gwersi i'w dysgu ar draws GIG Cymru. 

Cwmpas

Nod yr adolygiad yw ystyried pa mor effeithiol y caiff gwasanaethau ECT eu harwain, eu llywodraethu a'u cyflwyno ledled Cymru i ddarparu gofal diogel, cyson, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. 

Bydd yr adolygiad yn ceisio ateb y cwestiynau canlynol:

  • Pa mor effeithiol yw'r trefniadau arweinyddiaeth a llywodraethu ar gyfer gwasanaethau ECT?
  • Sut caiff cydsyniad, galluedd, mesurau diogelu cyfreithiol a hawliau cleifion eu cefnogi o fewn gwasanaethau ECT? 
  • Sut mae gwasanaethau ECT yn sicrhau bod ganddynt ddigon o gapasiti yn y gweithlu a gweithlu sydd wedi'i hyfforddi'n briodol, sy'n gymwys ac yn cael ei gefnogi? 
  • Beth yw profiad pobl sy'n derbyn ECT, a sut y cânt eu cynnwys yn eu gofal a'u triniaeth?
  • Sut mae gwasanaethau ECT yn defnyddio tystiolaeth i fonitro ansawdd a chefnogi gwelliant?

Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried cysondeb wrth ddarparu gwasanaethau ledled Cymru drwy'r llinellau ymholi allweddol, yn nodi enghreifftiau o arfer canmoladwy, ac yn archwilio cyfleoedd i gefnogi gwelliant a dysgu ar y cyd ar draws y GIG yng Nghymru. 

Y tu hwnt i'r cwmpas

Ni fydd yr adolygiad yn gwneud y canlynol:

  • Ymchwilio i gwynion unigol na gwneud penderfyniad arnynt
  • Ymchwilio i ymarferwyr unigol nac ailgyflawni swyddogaethau rheoli lleol.
  • Darparu neu ddisodli system achredu ffurfiol ECTAS 
  • Llunio barn ynghylch a ddylai unigolyn penodol fod wedi derbyn ECT ai peidio
  • Gellir adolygu sampl o gofnodion cleifion i asesu ansawdd a chysondeb prosesau asesu, cydsyniad, triniaeth, prosesau monitro a dogfennaeth ddilynol. Bydd hyn yn llywio canfyddiadau thematig ac ni fydd yn gyfystyr ag ymchwiliad ôl-weithredol i benderfyniadau clinigol unigol. 

Methodoleg

Er mwyn ateb cwestiynau'r adolygiad, bydd AGIC yn casglu ac yn triongli tystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Bydd y fethodoleg yn gymesur, yn cael ei defnyddio'n gyson ar draws byrddau iechyd ac yn ddigon hyblyg i archwilio risgiau lleol, meysydd sy'n peri pryder ac arferion canmoladwy. 

Adolygu polisïau, gwybodaeth a dogfennau

  • Adolygu deddfwriaeth berthnasol, safonau cenedlaethol, canllawiau clinigol a safonau proffesiynol
  • Adolygu gwybodaeth bresennol AGIC a chanfyddiadau perthnasol o arolygiadau blaenorol 
  • Ystyried y data cenedlaethol a lleol sydd ar gael, gan gynnwys gweithgarwch, canlyniadau, digwyddiadau, risgiau, cwynion, adborth gan gleifion a chanfyddiadau archwiliadau
  • Gofyn am wybodaeth am lywodraethu, y gweithlu, trefniadau clinigol, cydymffurfiaeth gyfreithiol, hawliau cleifion, canlyniadau a gwelliannau gan fyrddau iechyd ac adolygu'r wybodaeth honno. 
  • Defnyddio'r adolygiad o ddogfennau i ddatblygu llinellau ymholi penodol ar gyfer y gwaith maes. 

Ymweliadau safle ac arsylwi

  • Ymweld â safleoedd ECT GIG Cymru gan ddefnyddio fframwaith casglu tystiolaeth cyson
  • Arsylwi ar  gyfleusterau, trefniadau preifatrwydd ac urddas, cyfarpar, prosesau rheoli meddyginiaethau a pharodrwydd ar gyfer argyfyngau
  • Ystyried sut mae'r amgylchedd yn cefnogi triniaeth ac adferiad diogel, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. 

Cyfweliadau ac ymgysylltu

  • Bydd AGIC yn cynnal cyfweliadau, grwpiau ffocws neu ffyrdd eraill o ymgysylltu, fel y bo'n briodol, gyda'r canlynol: 
    • Arweinwyr gweithredol
    • Cyfarwyddwyr clinigol a rheolwyr gwasanaeth
    • Seiciatryddion ymgynghorol ac anesthetyddion ymgynghorol arweiniol
    • Staff nyrsio, staff adfer a staff clinigol perthnasol eraill

Adolygu cofnodion cleifion

  • Adolygu sampl gymesur o gofnodion yn erbyn y meini prawf y cytunwyd arnynt
  • Ystyried prosesau asesu, prosesau darparu gwybodaeth, cydsyniad neu awdurdodiad statudol, cynllunio triniaethau, monitro iechyd corfforol, rhoi triniaethau, prosesau adfer, canlyniadau a chamau dilynol 
  • Defnyddio canfyddiadau thematig dienw i nodi cysondeb, risgiau, cryfderau a chyfleoedd i wella. 

Llais cleifion a thystiolaeth o'u profiad

  • Casglu ac ystyried profiadau a safbwyntiau pobl sydd wedi cael ECT, a lle y bo'n briodol, ystyried profiadau a safbwyntiau eu teuluoedd, gofalwyr ac eiriolwyr.
  • Defnyddio dulliau hygyrch a chynhwysol o ymgysylltu er mwyn cael cymaint o gyfranogiad â phosibl a lleihau rhwystrau i gymryd rhan. 
  • Ystyried y dulliau ymgysylltu, fel sgyrsiau un-i-un, lle mae'r rhain yn cynnig cipolwg priodol ac ystyrlon ar brofiadau pobl o ofal a thriniaeth.  Gall hyn gynnwys gofalwyr ac aelodau o'r teulu.
  • Ystyried pa mor effeithiol y mae gwasanaethau yn helpu pobl i ddeall eu hopsiynau triniaeth, i arfer eu hawliau ac i gymryd rhan mewn penderfyniadau am eu gofal. 
  • Archwilio sut mae gwasanaethau yn cael adborth gan gleifion a gofalwyr, yn ei ddadansoddi ac yn gweithredu arno er mwyn cefnogi gwelliant parhaus.

Gweithio gyda sefydliadau eraill

Nod AGIC yw cydweithio â rhanddeiliaid perthnasol drwy gydol yr adolygiad. Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltu â byrddau iechyd GIG Cymru, rhwydweithiau clinigol a phroffesiynol, cynghorwyr arbenigol, cynrychiolwyr cleifion a gofalwyr, sefydliadau eirioli, a sefydliadau eraill sydd ag arbenigedd neu wybodaeth berthnasol.

Bydd rhanddeiliaid yn cymryd rhan ar gamau allweddol i lywio'r fethodoleg, helpu i ymgysylltu'n briodol â chleifion, nodi cyfleoedd i gydweithio, lleihau achosion diangen o ddyblygu a phrofi themâu sy'n dod i'r amlwg. Bydd adolygwyr cymheiriaid clinigol arbenigol yn helpu i gynnal yr adolygiad ac i sicrhau ansawdd y broses. 

Amserlen

Bydd gwaith cynllunio a chwmpasu yn cael ei gynnal yn ystod mis Medi a mis Hydref 2026, gyda'r cyfnod casglu tystiolaeth ffurfiol yn dechrau ym mis Tachwedd 2026. Mae'r amserlen arfaethedig fel a ganlyn:

GweithgareddAmserlen
Cynllunio a pharatoi: cwblhau'r Cylch Gorchwyl, y fethodoleg, yr adnoddau adolygu, y trefniadau ar gyfer rhanddeiliaid, ceisiadau am wybodaeth a'r broses calibradu adolygwyr. Medi i Hydref 2026
Ceisiadau am wybodaeth, hunanasesiadau byrddau iechyd, adolygu dogfennau a dadansoddi gwybodaeth.Hydref 2026
Ymweliadau safle, adolygiadau o gofnodion cleifion a gwaith ymgysylltu â staff, cleifion, gofalwyr a rhanddeiliaid. Tachwedd / Rhagfyr 2026
Dadansoddi a thriongli'r dystiolaeth; ystyried canfyddiadau sy'n dod i'r amlwg ac unrhyw faterion y mae angen sicrwydd ar unwaith yn eu cylch. Tachwedd 2026
Drafftio, sicrhau ansawdd mewnol, ymgysylltu â rhanddeiliaid a phroses cywirdeb ffeithiol. Ionawr 2027
Cymeradwyaeth derfynol a chyhoeddi'r adroddiad cenedlaethol.Gwanwyn 2027

Dadansoddi ac adrodd

Daw'r adolygiad i ben drwy gyhoeddi adroddiad cenedlaethol. Bydd yr adroddiad yn nodi'r dystiolaeth a ystyriwyd, themâu cenedlaethol, amrywiadau o ran y gwasanaethau a ddarperir, meysydd o arfer da neu ganmoladwy ac argymhellion lle mae angen gwneud gwelliannau. Bydd llwybr tystiolaeth a phroses sicrhau ansawdd glir yn cefnogi'r canfyddiadau. 

Os nodir pryderon brys yn ystod yr adolygiad, bydd AGIC yn eu trafod ar unwaith gyda'r darparwr gofal iechyd perthnasol a, lle y bo'n briodol, Llywodraeth Cymru neu sefydliad perthnasol arall, fel ECTAS. Gall AGIC hefyd rannu gwersi interim neu themâu sy'n dod i'r amlwg lle byddai hyn yn helpu i wneud gwelliannau amserol. 

Cyhoeddi ac ymgysylltu

Caiff tudalen we benodedig ei datblygu ar gyfer yr adolygiad ar wefan AGIC. Bydd AGIC yn defnyddio sianeli cyfathrebu ac ymgysylltu priodol i esbonio'r adolygiad a sut y gall pobl gyfrannu ato. Ar ôl cyhoeddi'r adroddiad, bydd AGIC yn ystyried gweithgareddau dilynol, digwyddiadau dysgu a chyfleoedd eraill i gefnogi gwelliannau a chyfleoedd dysgu ar y cyd ar draws GIG Cymru. 

Data personol

Mae'r adolygiad hwn yn rhan o waith AGIC i roi sicrwydd annibynnol ar ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru. Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Rhan II, Pennod 4) yn rhoi pwerau i AGIC gynnal arolygiadau, adolygiadau ac ymchwiliadau mewn perthynas â'r GIG a gwasanaethau a ddarperir ar ran y GIG.

Pan fydd AGIC yn prosesu data personol, bydd hyn yn unol â deddfwriaeth diogelu data gymwys, gan gynnwys Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym mholisi preifatrwydd AGIC ar ei gwefan.