Neidio i'r prif gynnwy

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Adolygiad o gynnydd yn dilyn adolygiadau AGIC

Adolygiad AGIC o effeithiolrwydd a chynaliadwyedd y gwelliannau sy'n codi o'r adolygiadau a gyhoeddwyd yn 2020 a 2021.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi asesu'r cynnydd a wnaed gan Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) ers yr adolygiadau a gyhoeddwyd yn 2020 a 2021. Roedd yr adolygiadau hynny'n ystyried y prosesau ar gyfer rheoli cleifion drwy ganolfannau galwadau brys a diogelwch, urddas a phrofiad cleifion y mae oedi wrth eu trosglwyddo o'r ambiwlans wedi effeithio arnynt. 

Roedd asesiad diweddaraf AGIC yn ystyried y cynnydd ar draws pum maes allweddol: llif cleifion a throsglwyddiadau, rheoli pwysau gweithredol, cyfathrebu â chleifion, arweinyddiaeth a llywodraethu, ac ansawdd data.

 

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru:   Adolygiad o gynnydd yn dilyn adolygiadau AGIC

Dogfennau