Gofal tosturiol, pwysau parhaus: y darlun ar draws gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu yng Nghymru
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar Fonitro Iechyd Meddwl 2025-2026, sy'n amlinellu'r canfyddiadau allweddol o weithgarwch arolygu a sicrwydd mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu ledled Cymru.
Mae'r adroddiad yn cyd-fynd â chyfrifoldeb statudol AGIC dros fonitro gweithrediad Deddf Iechyd Meddwl 1983 yng Nghymru, swyddogaeth a ddirprwywyd gan Weinidogion Cymru yn 2009. Drwy arolygu, ymgysylltu a gweithgareddau monitro'r Ddeddf Iechyd Meddwl, mae AGIC yn rhoi sicrwydd annibynnol ar ansawdd, diogelwch a chyfreithlondeb y gofal a ddarperir i bobl sy'n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu.
Astudiodd adroddiad y flwyddyn hon ganfyddiadau o 31 o arolygiadau ar y safle a gynhaliwyd rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026, gan gynnwys 19 yn lleoliadau'r GIG a 12 mewn lleoliadau gofal iechyd annibynnol. Roedd arolygiadau'n cwmpasu gwasanaethau iechyd meddwl i gleifion mewnol, gwasanaethau anableddau dysgu, timau iechyd meddwl cymunedol, timau anableddau dysgu cymunedol a gwasanaethau arbenigol.
Yn ystod y cyfnod adrodd, gwnaeth AGIC 477 o argymhellion ar gyfer gwella, ac uwchgyfeiriwyd 10 arolygiad drwy ei phroses Gwasanaeth sy'n Peri Pryder lle nodwyd risgiau i ansawdd a diogelwch gofal. Tynnodd canfyddiadau AGIC sylw at bwysau parhaus ynghylch mynediad at ofal, capasiti'r gweithlu a galw cynyddol, ochr yn ochr â phryderon ynghylch ansawdd a diogelwch rhai amgylcheddau gofal. Er gwaetha'r pwysau hyn, canfu'r arolygwyr lawer o enghreifftiau o ofal tosturiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael ei ddarparu gan staff ymroddedig a medrus ledled Cymru. Disgrifiodd cleifion yn aml brofiadau cadarnhaol o ofal a chymorth, wrth i arolygiadau dynnu sylw at waith amlddisgyblaethol effeithiol, ymgysylltiad therapiwtig ac arweinyddiaeth gadarnhaol ar wardiau.
Prif ganfyddiadau
Daeth sawl thema allweddol i’r amlwg ar draws gweithgareddau arolygu AGIC:
- Gofal tosturiol: Mae gofal tosturiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn parhau i gael ei ddarparu ar draws llawer o wasanaethau, gyda chleifion yn aml yn disgrifio bod y staff yn garedig, yn gefnogol ac yn ymatebol. Roedd gwaith amlddisgyblaethol effeithiol yn amlwg ar draws nifer o wasanaethau.
- Mynediad at wasanaethau: Mae mynediad at wasanaethau, parhad gofal a threfniadau rhyddhau cleifion yn parhau i fod yn bryder mynych. Derbyniodd AGIC bryderon yn ymwneud â mynediad at wasanaethau iechyd meddwl cymunedol, cymorth mewn argyfwng, argaeledd gwelyau i gleifion mewnol, cynllunio trefniadau rhyddhau a gofal dilynol.
- Amgylcheddau gofal: Er bod rhai gwasanaethau'n darparu amgylcheddau glân a therapiwtig sydd wedi'u cynnal a'u cadw'n dda, roedd materion amgylcheddol ac ystadau yn parhau i fod yn un o'r themâu mwyaf cyson a nodwyd. Roedd adeiladau sy'n heneiddio, trefniadau cynnal a chadw gwael, gosodiadau wedi'u difrodi ac oedi wrth fynd i'r afael â risgiau hysbys yn effeithio ar brofiad, diogelwch ac urddas y claf mewn rhai gwasanaethau.
- Pwysau'r gweithlu: Mae pwysau ar y gweithlu yn parhau i fod yn her sylweddol mewn gwasanaethau i gleifion mewnol a gwasanaethau cymunedol. Roedd prinder staff, dibyniaeth ar staff dros dro, swyddi gwag mewn rolau arbenigol a galw cynyddol yn effeithio ar gapasiti gwasanaethau, darpariaeth therapiwtig a pharhad gofal.
- Cynllunio gofal a rheoli risg: Er bod trefniadau cynllunio gofal cryf wedi'u canfod mewn llawer o leoliadau, nododd arolygwyr enghreifftiau o gynlluniau gofal anghyflawn neu wedi dyddio, dogfennaeth risg anghyson a chofnodion nad oeddent bob amser yn adlewyrchu anghenion cyfredol pobl yn llawn.
- Llywodraethu ac arweinyddiaeth: Roedd trefniadau llywodraethu yn aml wedi'u sefydlu ond nid oeddent bob amser yn arwain at gamau gweithredu amserol na gwelliannau cynaliadwy, gyda rhai materion a nodwyd yn flaenorol yn parhau heb eu datrys.
- Hawliau'r cleifion o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl: Roedd mesurau diogelu cyfreithiol yn cael eu rhoi ar waith yn briodol ar y cyfan, gyda chanfyddiadau cadarnhaol yn ymwneud â gwasanaethau eiriolaeth a phrosesau gweinyddol. Fodd bynnag, roedd materion mynych yn parhau yn ymwneud â dogfennaeth cydsynio i driniaeth, cadw cofnodion, dealltwriaeth staff o brosesau cyfreithiol a sicrhau bod cleifion yn deall eu hawliau a'u statws cyfreithiol.
Mae'r adroddiad hefyd yn cynnig mewnwelediadau a gasglwyd o bryderon a hysbysiadau a dderbyniwyd gan AGIC. Roedd y pryderon mynych yn ymwneud â mynediad at wasanaethau, parhad gofal, cynllunio trefniadau rhyddhau, mesurau diogelu'r Ddeddf Iechyd Meddwl, diogelwch cleifion, cynllunio gofal, ansawdd amgylcheddol a phwysau ar y gweithlu. Yn ystod y cyfnod adrodd, cafodd AGIC 1,063 o hysbysiadau statudol gan wasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu annibynnol, gydag anafiadau difrifol yn parhau i fod y math o hysbysiad y rhoddir gwybod amdano amlaf.
Cynyddodd y galw ar gyfer gwasanaeth Meddyg a Benodir i Roi Ail Farn AGIC hefyd. Mae'r gwasanaeth yn darparu mesur diogelu annibynnol pwysig i gleifion sy'n cael rhai triniaethau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Yn ystod 2025-26, cafodd AGIC 873 o geisiadau, o'i gymharu â 782 y flwyddyn flaenorol. Mae cynnal digon o gapasiti Meddyg a Benodir i Roi Ail Farn yn parhau i fod yn her sylweddol, ac mae AGIC yn parhau i gryfhau proses recriwtio a chynaliadwyedd y gwasanaeth.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
“Mae'r adroddiad y flwyddyn hon yn adlewyrchu ymroddiad y staff sy'n gweithio ar draws gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu a'r pwysau sylweddol y mae gwasanaethau'n eu hwynebu. Gwelsom lawer o enghreifftiau o ofal tosturiol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gyda staff ymroddedig yn gweithio'n galed i gefnogi pobl, a hynny yn aml dan amgylchiadau heriol.
Fodd bynnag, mae pwysau ar y gweithlu, cyflwr rhai amgylcheddau gofal iechyd, mynediad at wasanaethau a materion parhaus yn ymwneud â llywodraethu yn parhau i effeithio ar gysondeb y gofal y mae pobl yn ei gael. Mae mynd i'r afael â'r heriau hirsefydlog hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall pobl ledled Cymru gael mynediad at ofal diogel, effeithiol ac o ansawdd uchel pan fydd ei angen arnynt.
Bydd AGIC yn parhau i ddefnyddio’r dystiolaeth a’r wybodaeth a gasglwn drwy ein gwaith i roi sicrwydd annibynnol, i dynnu sylw at ble mae angen gwneud gwelliannau ac i gefnogi canlyniadau gwell i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu ledled Cymru.”