Datganiad Sefyllfa ar yr Adolygiad Annibynnol o Ansawdd Arweinyddiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn croesawu cyhoeddi’r adolygiad annibynnol o ansawdd arweinyddiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yn dilyn cyfnod estynedig o bryder, mae’r adolygiad a’i 21 o argymhellion yn darparu sail glir ar gyfer cyflawni gwelliannau penodol yn gyflym ledled y bwrdd iechyd.
Mae’r adolygiad yn nodi heriau sylweddol o ran cyfeiriad strategol, arweinyddiaeth, llywodraethu a diwylliant sefydliadol, yn ogystal â gallu’r bwrdd iechyd i gyflawni a chynnal gwelliannau. Mae angen camau clir a pharhaus mewn ymateb i’r canfyddiadau hyn.
Mae AGIC wedi ymgymryd â gwaith sicrwydd helaeth ledled y bwrdd iechyd dros nifer o flynyddoedd, ac mae nifer o’r materion a nodwyd yn yr adolygiad yn adlewyrchu meysydd pryder hir sefydlog a amlygwyd drwy waith craffu allanol blaenorol. Byddwn yn ystyried canfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad ochr yn ochr â’r dystiolaeth a’r wybodaeth a gasglwyd drwy ein harolygiadau a’n gweithgarwch sicrwydd ehangach ein hunain.
Rhaid i’r bwrdd iechyd ganolbwyntio bellach ar weithredu’r argymhellion, cyflymu’r broses wella a dangos newid ystyrlon a pharhaus. Bydd AGIC yn parhau i oruchwylio ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd ledled y bwrdd iechyd yn annibynnol, gan fonitro cynnydd ac ymgymryd â gweithgarwch sicrwydd pellach lle bo hynny’n briodol.
Ein prif ffocws o hyd yw sicrhau bod pobl ledled Gogledd Cymru yn cael gofal diogel, effeithiol ac o ansawdd uchel, ac yn gweld gwelliannau ystyrlon yn ansawdd y gwasanaethau a ddarperir.