Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth estheteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi'i erlyn gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn dilyn ymchwiliad

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi llwyddo i erlyn darparwr Fake It - Beauty and Aesthetics ym Mhen-y-bont ar Ogwr am ddarparu triniaethau laser heb y cofrestriad sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Gwasanaeth estheteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi'i erlyn gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn dilyn ymchwiliad

 

Mae'r erlyniad yn dilyn ymchwiliad troseddol gan AGIC fel rhan o'i rôl fel arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru. Plediodd y darparwr, Mrs Lady Helen Mary Morgan-Wooldridge, yn masnachu fel Fake It - Beauty and Aesthetics, yn euog i ddwy drosedd. Gosododd y llys orchmynion ariannol gwerth £8,960, gan gynnwys dirwy a chostau AGIC a Gwasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru.

Ym mis Chwefror 2025, nododd AGIC fod gwasanaethau laser anghofrestredig yn cael eu hysbysebu a'u darparu yn Fake It - Beauty and Aesthetics. Ar 5 Mawrth 2025, cafodd y darparwr gyfarwyddyd i roi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau cofrestradwy hyn ar unwaith. Er bod y darparwr wedi dweud wrth AGIC yn dilyn hynny y byddai'n rhoi gorau i driniaethau goleuni pwls dwys (IPL), dangosodd tystiolaeth a gafwyd yn ystod yr ymchwiliad fod triniaethau anghofrestredig wedi parhau.

Yn ystod ymweliad gorfodi dirybudd ar 11 Mehefin 2025, nododd AGIC ddwy ddyfais laser Dosbarth 4, a defnyddiodd ei phwerau o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 i atafaelu tystiolaeth fel rhan o'i hymchwiliad. Roedd cofnodion a gafwyd yn ystod yr ymchwiliad yn dogfennu 55 o driniaethau laser a roddwyd i 16 o gwsmeriaid, gan gynnwys cofnodi 19 o driniaethau ar ôl i AGIC gyfarwyddo'r darparwr i roi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau.

Canfu'r ymchwiliad hefyd fod tystysgrif cofrestru flaenorol AGIC, a oedd yn annilys felly, wedi'i harddangos yn y safle. Yn ystod cyfweliad o dan rybudd, derbyniodd y darparwr y gallai arddangos y dystysgrif flaenorol yn y safle newydd roi'r argraff i gwsmeriaid fod y gwasanaeth wedi'i gofrestru.

Ar ôl cwblhau ei hymchwiliad, atgyfeiriodd AGIC yr achos at Wasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru i erlyn am droseddau o dan adrannau 11 a 26 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Dywedodd Scott Howe, Pennaeth Rheoleiddio ac Uwchgyfeirio Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

“Mae cofrestru yn rhan bwysig o ddiogelu pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal iechyd annibynnol yng Nghymru. Lle mae cofrestru yn ofynnol yn ôl y gyfraith, rhaid i ddarparwyr fod wedi'u cofrestru cyn darparu'r gwasanaethau hynny.

Yn yr achos hwn, roedd triniaethau yn parhau ar ôl i AGIC egluro bod yn rhaid rhoi gorau i'r triniaethau cofrestradwy. Daeth ein hymchwiliad o hyd i dystiolaeth a arweiniodd at yr erlyniad troseddol hwn yn y pen draw.

Mae'r achos hwn yn anfon neges glir at ddarparwyr. Gall methu â chydymffurfio â gofynion cofrestru arwain at erlyniad troseddol ac euogfarn. Byddwn yn cymryd camau gorfodi priodol lle bo angen i amddiffyn pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.”

Dylai darparwyr sy'n cynnig gwasanaethau sy'n defnyddio cyfarpar laser Dosbarth 4 neu oleuni pwls dwys (IPL) sicrhau eu bod yn deall eu cyfrifoldebau cyfreithiol cyn darparu triniaethau. Lle mae cofrestru ag AGIC yn ofynnol, mae darparu'r gwasanaethau hynny heb gofrestriad yn drosedd.

Mae cofrestru yn helpu i amddiffyn pobl drwy sicrhau bod gwasanaethau lle mae angen cofrestru yn destun goruchwyliaeth reoliadol. Mae AGIC yn annog aelodau o'r cyhoedd i wirio a yw gwasanaeth sydd angen cofrestru wedi'i gofrestru ag AGIC cyn derbyn triniaeth.