Neidio i'r prif gynnwy

Ansawdd Archwiliadau Iechyd Blynyddol ar gyfer Oedolion ag Anableddau Dysgu: Adolygiad o fynediad, ansawdd, profiadau a threfniadau dilynol

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi ymrwymo i gynnal adolygiad cenedlaethol sy'n cefnogi uchelgeisiau ei Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a'i rôl wrth ddarparu sicrwydd annibynnol ynghylch ansawdd, diogelwch ac effeithiolrwydd gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru. Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar ansawdd, hygyrchedd, cysondeb ac effaith yr Archwiliadau Iechyd Blynyddol a ddarperir i oedolion ag anableddau dysgu drwy wasanaethau meddygol cyffredinol yng Nghymru.

Adolygiad Cenedlaethol: Archwiliadau iechyd blynyddol i oedolion ag anableddau dysgu

Hawdd ei Ddeall: Ein Cynllun Ar Gyfer Yr Adolygiad Hwn

Rydym yn cynnal adolygiad cenedlaethol o archwiliadau iechyd blynyddol ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu.

Darllenwch am ein hadolygiad cenedlaethol mewn Fersiwn Hawdd ei Deall (PDF).

Cylch Gorchwyl

Fel yr amlygwyd yng Nghanllawiau Llwybr Archwiliadau Iechyd Blynyddol Cymru Gyfan (Oedolion ag Anabledd Dysgu) 2026, mae anabledd dysgu yn golygu bod gallu unigolyn i ddeall gwybodaeth newydd neu gymhleth yn sylweddol is, a bod ei allu i ymdopi'n annibynnol yn is, a bod hynny wedi dechrau cyn iddo ddod yn oedolyn. Mae anabledd dysgu yn wahanol i anhawster dysgu penodol ac i gyflyrau niwroddatblygiadol eraill, er y gall y rhain gydfodoli.

Mae pobl ag anableddau dysgu yn profi anghydraddoldebau iechyd sylweddol a pharhaus. Mae llwybr Cymru Gyfan 2026 yn nodi bod pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru yn marw tua 20 mlynedd yn gynharach, ar gyfartaledd, na'r boblogaeth ehangach, a bod hanner y marwolaethau'n digwydd ymhlith pobl 65 oed neu iau. Mae hefyd yn nodi bod marwolaethau'n cael eu hystyried yn amlach yn rhai y gellid bod wedi'u hosgoi, ac yn tynnu sylw at gyfraddau marwolaethau uwch o achosion sy'n cynnwys heintiau anadlol, canser y fron a chanser y coluddyn, clefyd ischaemig y galon a strôc. Mae tystiolaeth o raglen Learning from lives and deaths: people with a learning disability and autistic people (LeDeR) GIG Lloegr hefyd yn nodi iechyd corfforol ac iechyd meddwl gwaeth, rhwystrau wrth geisio cael gofal, a marwolaethau cynamserol yn sgil cyflyrau y gellid bod wedi'u trin neu eu hatal.

Mae Archwiliadau Iechyd Blynyddol yn cynnig cyfle rhagweithiol i nodi a thrin problemau iechyd cyn gynted â phosibl. Mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn disgrifio'r archwiliad fel cyfle i nodi problemau iechyd yn gynnar, adolygu cyflyrau a meddyginiaethau presennol, a chynllunio gofal wedi'i bersonoli. Canfu tystiolaeth a adolygwyd gan Public Health England y gall archwiliadau iechyd nodi anghenion nad oeddent wedi'u hadnabod o'r blaen, gan gynnwys cyflyrau difrifol neu rai sy'n peryglu bywyd. Daeth i'r casgliad bod yr Archwiliad Iechyd Blynyddol i bobl ag anabledd dysgu yn addasiad rhesymol.

Yng Nghymru, mae unrhyw un sy'n 18 oed neu'n hŷn ac sydd wedi'i gynnwys ar gofrestr anableddau dysgu practis meddyg teulu yn gymwys i gael Archwiliad Iechyd Blynyddol. Ers 2025, mae Archwiliadau Iechyd Blynyddol wedi bod yn rhan o'r ddarpariaeth Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol a chânt eu hariannu drwy'r contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, a rhaid i bractisau meddygon teulu gadw cofrestrau anableddau dysgu. Mae llwybr Cymru Gyfan 2026 hefyd yn gosod disgwyliadau o ran gwahoddiadau, addasiadau rhesymol, cyfathrebu hygyrch, cynnal yr archwiliad, Cynlluniau Gweithredu Iechyd a chynnwys gwasanaethau anableddau dysgu arbenigol lle bo angen.

Mae cynnal Archwiliad Iechyd Blynyddol llwyddiannus yn dibynnu ar fwy na chynnig apwyntiad. Mae'n rhaid nodi'r bobl sy'n gymwys yn gywir a dylai gynnwys y canlynol:

  • Gwahoddiadau rhagweithiol a hygyrch
  • Addasiadau rhesymol unigol
  • Digon o amser
  • Cyfathrebu effeithiol a chymorth i wneud penderfyniadau
  • Adolygiad strwythuredig o iechyd corfforol ac iechyd meddwl
  • Camau gweithredu clir pan fydd anghenion yn cael eu nodi.

Mae Safon Ansawdd QS187 y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), hefyd yn nodi y dylid defnyddio Archwiliadau Iechyd Blynyddol i ddiweddaru Cynllun Gweithredu Iechyd unigolyn ac y dylid atgyfeirio'r unigolyn yn brydlon wedi hynny pan fo angen.

Gall data gweithgarwch arferol ddangos faint o bobl sydd wedi'u cofrestru, faint sydd wedi cael cynnig archwiliad iechyd a faint y cwblhawyd archwiliad iechyd ar eu cyfer. Fodd bynnag, ni all data gweithgarwch yn unig roi sicrwydd ynghylch a oedd yr archwiliad yn gynhwysfawr ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn, a wnaed addasiadau rhesymol, a oedd yr unigolyn yn deall y broses ac wedi cyfrannu ati, neu a arweiniodd yr anghenion a nodwyd at Gynllun Gweithredu Iechyd clir, triniaeth, atgyfeiriad a threfniadau dilynol. Felly, bydd yr adolygiad cenedlaethol hwn yn archwilio mynediad at y llwybr Archwiliadau Iechyd Blynyddol, yn ogystal ag ansawdd ac effaith y llwybr hwnnw.

Cwmpas

Bydd yr adolygiad yn ystyried sut y caiff Archwiliadau Iechyd Blynyddol eu darparu i oedolion 18 oed a hŷn sydd ag anabledd dysgu ac sydd wedi'u cofrestru gyda phractis meddyg teulu yng Nghymru. Bydd yr adolygiad yn archwilio'r llwybr cyn, yn ystod ac ar ôl yr archwiliad iechyd, gan gynnwys cyfraniad byrddau iechyd a gwasanaethau anableddau dysgu arbenigol pan fo hynny'n cefnogi'r gwaith o ddarparu gofal sylfaenol yn uniongyrchol.

Bydd yr adolygiad yn ystyried y canlynol:

  • Sut mae practisau meddygon teulu yn nodi oedolion cymwys ac yn cynnal cofrestrau anableddau dysgu cywir a chyfredol
  • Sut y caiff pobl eu gwahodd, eu hatgoffa a'u cefnogi i ddod i'r archwiliadau, gan gynnwys gwybodaeth hygyrch a dulliau cyfathrebu amgen
  • Sut y caiff addasiadau rhesymol eu nodi, eu cofnodi, eu rhannu a'u cynnal
  • Hygyrchedd, amseroldeb, hyblygrwydd ac addasrwydd apwyntiadau ac amgylcheddau
  • A yw'r archwiliadau'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn ddigon cynhwysfawr ac yn cael eu cynnal gan staff sydd â'r wybodaeth, yr hyder a'r cymorth priodol
  • Sut yr ymdrinnir â materion sy'n ymwneud â chyfathrebu, cydsyniad, galluedd a chymorth i wneud penderfyniadau
  • A yw gofalwyr, eiriolwyr neu aelodau o rwydwaith cymorth yr unigolyn yn cael eu cynnwys yn briodol
  • A yw anghenion iechyd heb eu diwallu yn cael eu nodi ac yn arwain at driniaeth, atgyfeiriad, camau monitro neu gamau gweithredu eraill
  • A yw Cynllun Gweithredu Iechyd clir a hygyrch yn cael ei ddatblygu neu ei ddiweddaru, ei rannu â'r unigolyn a'i roi ar waith
  • Effeithiolrwydd llwybrau atgyfeirio a threfniadau dilynol pan nodir anghenion iechyd
  • Cyfraniad ac argaeledd gwasanaethau anableddau dysgu gofal sylfaenol neu wasanaethau hwyluso iechyd
  • Y trefniadau ar gyfer arweinyddiaeth, llywodraethu, ansawdd data, datblygu'r gweithlu, goruchwylio a gwella ansawdd sy'n cefnogi'r broses o gynnal Archwiliadau Iechyd Blynyddol.
  • Amrywiad o ran mynediad, ansawdd, profiadau a threfniadau dilynol ledled Cymru, gan gynnwys enghreifftiau o ymarfer effeithiol ac arloesedd.

Ni fydd yr adolygiad yn cynnwys y canlynol:

  • Rhaglenni sgrinio cenedlaethol, ac eithrio pan fo gwirio cymhwysedd neu'r trefniadau dilynol yn rhan atodol o Archwiliad Iechyd Blynyddol
  • Adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau anableddau dysgu arbenigol y tu hwnt i'w cyfraniad at lwybr yr Archwiliadau Iechyd Blynyddol
  • Plant a phobl ifanc o dan 18 oed
  • Ymchwilio i gwynion, digwyddiadau neu bryderon unigol
  • Gwneud penderfyniadau mewn perthynas ag achosion o esgeulustod clinigol neu broblemau o ran ymarfer proffesiynol unigolion.

Nod ein hadolygiad, felly, yw ystyried hygyrchedd, ansawdd, profiad ac effaith Archwiliadau Iechyd Blynyddol ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu yng Nghymru.

Mae ein gwaith ymchwil, ein gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid a'n hadolygiad o'r wybodaeth sydd ar gael wedi llywio cwmpas yr adolygiad a'r cwestiynau allweddol y byddwn yn ceisio eu hateb drwy'r llinellau ymholi allweddol canlynol:

  • Sut mae darparwyr gofal iechyd yng Nghymru yn sicrhau mynediad cyfartal at Archwiliadau Iechyd Blynyddol i oedolion ag anableddau dysgu?
  • Sut mae darparwyr gofal iechyd yng Nghymru yn sicrhau bod Archwiliadau Iechyd Blynyddol yn arwain at Gynlluniau Gweithredu Iechyd ystyrlon a threfniadau dilynol priodol?
  • Beth yw profiad oedolion ag anableddau dysgu yng Nghymru wrth drefnu Archwiliad Iechyd Blynyddol a chael archwiliad o'r fath?
  • Pa wahaniaeth y mae Archwiliadau Iechyd Blynyddol yn ei wneud i ganlyniadau iechyd a llesiant ym marn oedolion ag anableddau dysgu, gofalwyr, eiriolwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol?

Methodoleg

Er mwyn ystyried y llinellau ymholi allweddol uchod, byddwn yn archwilio'r trefniadau sydd ar waith i gefnogi mynediad cyfartal at Archwiliadau Iechyd Blynyddol ac ansawdd yr archwiliadau hynny ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu yng Nghymru. Byddwn yn ystyried tystiolaeth o ymarfer da a meysydd lle gallai fod angen gwelliannau.

Adolygu polisïau  a dogfennau

  • Adolygu polisïau, canllawiau a gofynion cytundebol perthnasol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â darparu Archwiliadau Iechyd Blynyddol i oedolion ag anableddau dysgu
  • Archwilio Llwybr Archwiliadau Iechyd Blynyddol Cymru Gyfan (Oedolion ag Anabledd Dysgu) a chanllawiau perthnasol eraill gan GIG Cymru
  • Adolygu polisïau, trefniadau llywodraethu, gweithgarwch gwella ansawdd a'r prosesau sicrwydd sydd ar gael gan fyrddau iechyd mewn perthynas ag Archwiliadau Iechyd Blynyddol
  • Ystyried y wybodaeth genedlaethol sydd eisoes ar gael, archwiliadau, gweithgarwch gwerthuso a chanllawiau perthnasol NICE mewn perthynas ag Archwiliadau Iechyd Blynyddol a Chynlluniau Gweithredu Iechyd.

Gwybodaeth Feintiol

Byddwn yn adolygu'r wybodaeth genedlaethol a lleol sydd ar gael er mwyn deall: 

  • Nifer yr unigolion sydd wedi'u cofnodi ar gofrestrau anableddau dysgu meddygon teulu
  • Nifer yr Archwiliadau Iechyd Blynyddol a gaiff eu cynnig a'u cwblhau
  • Yr amrywiad yn nifer y bobl sy'n manteisio ar Archwiliadau Iechyd Blynyddol ledled Cymru
  • Y wybodaeth sydd ar gael am Gynlluniau Gweithredu Iechyd, atgyfeiriadau a gweithgarwch dilynol 
  • Tystiolaeth o weithgarwch monitro ansawdd a gwella a wneir gan Fyrddau Iechyd a gwasanaethau gofal sylfaenol 

Gwybodaeth Ansoddol

Byddwn yn ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid er mwyn deall ansawdd, cysondeb ac effaith Archwiliadau Iechyd Blynyddol ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu. Bydd hyn yn cynnwys: 

Ymgysylltu â'r Byrddau Iechyd 

Gofyn am wybodaeth gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru ynghylch: 

  • Trefniadau llywodraethu a goruchwylio
  • Trefniadau monitro perfformiad
  • Datblygu a hyfforddi'r gweithlu
  • Cymorth a ddarperir drwy wasanaethau hwyluso iechyd i bobl ag anableddau dysgu
  • Enghreifftiau o weithgarwch gwella ansawdd ac ymarfer da.
  • Cynnal cyfweliadau â chynrychiolwyr perthnasol o'r byrddau iechyd, gan gynnwys arweinwyr ym meysydd gofal sylfaenol ac anableddau dysgu. 

Ymgysylltu â Phractisau Meddygon Teulu

Caiff sampl bwrpasol o tua 10 practis meddyg teulu o bob cwr o Gymru ei dewis. 

Bydd y sampl yn ceisio adlewyrchu amrywiaeth o ran: 

  • Daearyddiaeth
  • Cymunedau trefol a gwledig
  • Y boblogaeth a wasanaethir
  • Lefelau amddifadedd
  • Gweithgarwch Archwiliadau Iechyd Blynyddol
  • Argaeledd cymorth arbenigol ym maes anableddau dysgu.

O fewn y sampl o bractisau byddwn yn: 

  • Adolygu gwybodaeth a gyflwynir mewn fformat strwythuredig
  • Cynnal cyfweliadau ag aelodau perthnasol o'r staff
  • Ystyried y trefniadau ar gyfer rheoli cofrestrau, cyfathrebu, gwneud addasiadau rhesymol a gwaith dilynol
  • Archwilio enghreifftiau o Gynlluniau Gweithredu Iechyd a llwybrau atgyfeirio.

Adolygu Cofnodion Clinigol

Byddwn yn cynnal adolygiad o tua 60 o gofnodion Archwiliadau Iechyd Blynyddol ar draws y sampl o bractisau meddygon teulu. 

Bydd yr adolygiad yn ystyried y canlynol:

  • Paratoi ar gyfer yr Archwiliad Iechyd Blynyddol
  • Cyfathrebu ac addasiadau rhesymol
  • Cydsyniad a chymorth i wneud penderfyniadau 
  • Cwblhau'r Archwiliad Iechyd Blynyddol ac ansawdd yr archwiliad
  • Nodi anghenion iechyd heb eu diwallu 
  • Cynlluniau Gweithredu Iechyd
  • Atgyfeirio, triniaeth a threfniadau dilynol. 

Bydd Adolygwyr Cymheiriaid Clinigol cofrestredig ym maes Anableddau Dysgu yn helpu i adolygu a dehongli gwybodaeth glinigol lle y bo'n briodol. 

Profiad Bywyd

Bydd deall profiadau oedolion ag anableddau dysgu yn elfen allweddol o'r adolygiad. Byddwn yn ymgysylltu â thua: 

  • 15 i 20 o oedolion ag anableddau dysgu sydd â phrofiad o Archwiliadau Iechyd Blynyddol 
  • Gofalwyr, eiriolwyr a rhwydweithiau cymorth lle y bo'n briodol. 

Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i hwyluso cyfranogiad, gan gynnwys: 

  • Gwybodaeth hygyrch
  • Deunyddiau Hawdd eu Deall
  • Sgyrsiau â chymorth
  • Cymorth eiriolaeth lle bo angen. 

Byddwn yn ceisio deall: 

  • Profiadau o gael mynediad at Archwiliadau Iechyd Blynyddol. 
  • Profiadau o gyfathrebu ac addasiadau rhesymol. 
  • Dealltwriaeth o Gynlluniau Gweithredu Iechyd a threfniadau dilynol. 
  • Manteision ac effaith ganfyddedig Archwiliadau Iechyd Blynyddol.
  • Awgrymiadau ar gyfer gwella. 

Adolygwyr Cymheiriaid Clinigol

Bydd un adolygydd cymheiriad clinigol meddygon teulu a dau adolygydd cymheiriaid clinigol Nyrsys Anableddau Dysgu yn cefnogi'r adolygiad drwy gydol y camau gwaith maes a dadansoddi. Gyda'i gilydd, byddant yn darparu arbenigedd ym maes gofal sylfaenol ac anableddau dysgu arbenigol drwy gydol y camau gwaith maes, dadansoddi ac adrodd. 

Bydd Adolygwyr Cymheiriaid yn cyfrannu at y canlynol: 

  • Datblygu methodoleg
  • Datblygu adnoddau adolygu
  • Gweithgarwch adolygu cofnodion clinigol
  • Dehongli canfyddiadau
  • Nodi ymarfer da
  • Datblygu casgliadau ac argymhellion. 

Dadansoddiad Cymharol

Bydd y wybodaeth a gaiff ei chasglu drwy gydol yr adolygiad yn cael ei dadansoddi a'i thriongli er mwyn nodi:

  • Meysydd o ymarfer effeithiol
  • Amrywiadau yn y ddarpariaeth ledled Cymru
  • Themâu sy'n ymwneud â hygyrchedd, ansawdd, profiadau a threfniadau dilynol 
  • Cyfleoedd i wella canlyniadau iechyd i oedolion ag anableddau dysgu. 

Bydd y canfyddiadau’n cael eu hystyried yng nghyd-destun y polisïau, y canllawiau, y safonau a'r disgwyliadau cenedlaethol perthnasol sy’n ymwneud ag Archwiliadau Iechyd Blynyddol a darparu gofal iechyd i bobl ag anableddau dysgu.

Gweithio gyda sefydliadau eraill

Mae'n bosibl y bydd AGIC yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Perfformiad a Gwella GIG Cymru, byrddau iechyd, cynrychiolwyr gofal sylfaenol, gwasanaethau anableddau dysgu arbenigol, pobl â phrofiad bywyd, teuluoedd a gofalwyr cyflogedig, sefydliadau eirioli a phartneriaid perthnasol yn y trydydd sector. Defnyddir y gwaith ymgysylltu i lywio'r adolygiad, lleihau achosion o ddyblygu a chefnogi cyfranogiad hygyrch, gan ar yr un pryd gynnal annibyniaeth AGIC.

Amserlenni

Bydd diwrnodau adolygwyr cymheiriaid clinigol yn cael eu comisiynu ar wahân a'u defnyddio mewn ffordd hyblyg. Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau dros gyfnod o ryw chwe mis calendr, gan ganiatáu amser i ddarparwyr ymateb ac i wneud gwaith ymgysylltu hygyrch.

Yr amserlen arfaethedig:

CamGweithgarwchAmserlen
1. Sefydlu a ChynllunioCadarnhau'r fethodoleg adolygu, y trefniadau llywodraethu gwybodaeth, yr adnoddau casglu tystiolaeth, y cynllun ymgysylltu â rhanddeiliaid a'r sampl o bractisau meddygon teulu. Sefydlu'r trefniadau ar gyfer yr adolygwyr cymheiriaid clinigol. Rhwng 1 a 31 Hydref 2026
2. Cais am Dystiolaeth ac Adolygiad Bwrdd GwaithAnfon ceisiadau am wybodaeth i'r Byrddau Iechyd a'r sampl o bractisau meddygon teulu. Adolygu polisïau cenedlaethol, canllawiau, data gweithgarwch a dogfennaeth leol Mis Hydref a mis Tachwedd 2026
3. Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Gwaith Maes Cynnal cyfweliadau ag arweinwyr y Byrddau Iechyd, cynrychiolwyr Gofal Sylfaenol, Gwasanaethau Hwyluso Iechyd i Bobl ag Anableddau Dysgu, y sampl o bractisau meddygon teulu a rhanddeiliaid allweddol. Ymgysylltu â phobl â phrofiad bywyd ac adolygu cofnodion clinigol ac ymweld â phractisau meddygon teulu penodolRhwng mis Tachwedd 2026 a mis Ionawr 2027
4. Dadansoddi a ThriongliAdolygu a dadansoddi pob ffynhonnell dystiolaeth, nodi themâu, profi canfyddiadau gydag adolygwyr cymheiriaid clinigol a phennu meysydd o ymarfer da yn ogystal â meysydd i'w gwella. Chwefror 2027
5. Datblygu Adroddiad DrafftDatblygu canfyddiadau, casgliadau ac argymhellion. Sicrhau ansawdd yn fewnol a chynnal adolygiad gan gymheiriaid o'r adroddiad sy'n cael ei lunio. Mawrth 2027
6. Cwblhau Drafft Cyntaf yr AdroddiadCwblhau drafft cyntaf yr adroddiad cenedlaethol. Gwanwyn 2027

Bydd y gwaith maes yn dod i ben erbyn 31 Ionawr 2027 er mwyn caniatáu digon o amser i ddadansoddi a thriongli'r dystiolaeth, datblygu'r canfyddiadau a chwblhau drafft cyntaf yr adroddiad. 

Dadansoddi ac adrodd

Bydd yr adolygiad yn dod i ben drwy gyhoeddi adroddiad cenedlaethol a fydd yn tynnu sylw at ganfyddiadau allweddol, meysydd o ymarfer effeithiol a chyfleoedd i wella. 

Bydd y dystiolaeth a gasglwyd drwy gydol yr adolygiad yn cael ei dadansoddi yn erbyn y llinellau ymholi allweddol a'i thriongli gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys adolygiad o ddogfennau, gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid, adolygiad o gofnodion clinigol, profiadau bywyd a chyfraniadau gan adolygwyr cymheiriaid clinigol. 

Lle y bo'n briodol, caiff argymhellion eu gwneud i gefnogi gwelliannau i ansawdd, hygyrchedd, profiad ac effaith Archwiliadau Iechyd Blynyddol ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu yng Nghymru. 

Os nodir unrhyw bryderon y mae angen gweithredu arnynt ar unwaith yn ystod yr adolygiad, cânt eu trafod yn ddi-oed â'r sefydliad perthnasol. Ni fyddwn yn aros i'r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi. 

Cyhoeddi ac ymgysylltu

Bydd gwybodaeth am yr adolygiad yn cael ei chyhoeddi ar wefan AGIC a'i rhannu â rhanddeiliaid perthnasol drwy gydol y broses adolygu. 

Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu ac ymgysylltu i godi ymwybyddiaeth o'r adolygiad a helpu oedolion ag anableddau dysgu, gofalwyr, eiriolwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gymryd rhan ynddo. 

Ar ôl cyhoeddi'r adroddiad, bydd AGIC yn ystyried cyfleoedd i rannu'r hyn a ddysgwyd, hyrwyddo enghreifftiau o ymarfer effeithiol a chefnogi gwelliannau ar draws gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru. 

Data personol

Mae'r adolygiad hwn yn rhan o waith AGIC i roi sicrwydd annibynnol ynghylch ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.

Lle caiff data personol eu casglu neu eu prosesu fel rhan o'r adolygiad, bydd AGIC yn gwneud hynny'n unol â deddfwriaeth diogelu data berthnasol, gan gynnwys Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU). 

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod yr adolygiad yn cael ei thrin yn ddiogel a dim ond at ddibenion llywio'r adolygiad y caiff ei defnyddio. Bydd y canfyddiadau'n cael eu cyflwyno mewn ffordd sy’n diogelu cyfrinachedd a phreifatrwydd unigolion. 

Mae rhagor o wybodaeth am sut mae AGIC yn prosesu data personol ar gael ym Mholisi Preifatrwydd AGIC.

Dogfennau