Neidio i'r prif gynnwy

Croeso i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Ni yw'r arolygiaeth a'r rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru

Chwiliwch am wasanaeth gofal iechyd neu adroddiad arolygu

Ein diweddariadau diweddaraf

Newyddion

Canmoliaeth i ofal ond mae angen gwneud rhagor o welliannau mewn uned iechyd meddwl arbenigol yng Nghaerdydd

Cwblhaodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) arolygiad dirybudd o Uned Iechyd Meddwl Hafan y Coed yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, sy'n cael ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd, dros dri diwrnod yn olynol ym mis Ebrill 2025.

Cyhoeddedig: 17 Gorffennaf 2025
Arolygiad ar y cyd yn nodi cryfderau trefniadau amddiffyn plant Sir Benfro a'r heriau y mae'n eu hwynebu oherwydd galw cynyddol

Er bod plant yn Sir Benfro yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod yn gyffredinol, mae arolygiad ar y cyd o'r trefniadau amddiffyn plant wedi nodi anghysondebau o ran arferion diogelu y mae angen eu gwella yn ystod cyfnod o gynnydd sylweddol yn y galw.

Cyhoeddedig: 26 Mehefin 2025
Cofio Ali Jahanfar

Hoffem dalu teyrnged i Ali, cydweithiwr a edmygwyd yn fawr, gweithiwr deintyddol ymroddedig, ac Arweinydd Deintyddol Clinigol yn Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC). Roedd cyfraniadau Ali i ddeintyddiaeth yng Nghymru yn sylweddol ac yn barhaus, ac mae ei etifeddiaeth yn parhau i ysbrydoli'r rhai a gafodd y fraint o gydweithio ag ef.

Cyhoeddedig: 23 Mehefin 2025
Cyhoeddi rhybudd i ddarparwr a oedd yn defnyddio gwasanaethau laser anghofrestredig

Yn dilyn ymchwiliad troseddol diweddar, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi rhybudd i'r darparwr am dorri Deddf Safonau Gofal 2000.

Cyhoeddedig: 20 Mehefin 2025
Hyrwyddo Iechyd Meddwl a Llesiant yn Sioe 2025

Ddydd Gwener 16 Mai 2025, roedd yn bleser gennym fynd i'r Sioe Iechyd Meddwl a Llesiant, sef digwyddiad a oedd yn anelu at hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol ledled Cymru a thu hwnt.

Cyhoeddedig: 11 Mehefin 2025