Neidio i'r prif gynnwy

Hyrwyddo Iechyd Meddwl a Llesiant yn Sioe 2025

Ddydd Gwener 16 Mai 2025, roedd yn bleser gennym fynd i'r Sioe Iechyd Meddwl a Llesiant, sef digwyddiad a oedd yn anelu at hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol ledled Cymru a thu hwnt.

Agorwyd y diwrnod yn swyddogol gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy AS, a daeth ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol o'r sectorau iechyd meddwl, llesiant, a gofal iechyd ynghyd, ochr yn ochr ag aelodau o'r cyhoedd. Roedd y digwyddiad yn cynnwys rhaglen lawn o siaradwyr diddorol, sesiynau llawn gwybodaeth, ac ardal arddangos fywiog a sbardunodd sgyrsiau ystyrlon a chyfleoedd i rannu gwybodaeth drwy gydol y dydd.

Roeddem wrth ein bodd cael bod yn rhan o'r digwyddiad ac yn gwerthfawrogi'r cyfle i gysylltu â chynifer ohonoch wyneb yn wyneb. Diolch i bawb a alwodd heibio ein stondin i sgwrsio, rhannu eich profiadau, a dangos eich cefnogaeth. Roedd yn bleser cwrdd â chi.

Rydym yn edrych ymlaen at barhau â'r sgyrsiau pwysig hyn ac at ddatblygu'r momentwm. Gallwch ein gweld nesaf yng Nghynhadledd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar 23-26 Mehefin 2025 a Chynhadledd ac Arddangosfa Flynyddol Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ar 9-10 Hydref 2025. Gobeithio eich gweld yno! 

Delweddau gan Paul Fears photography