Cofio Ali Jahanfar
Hoffem dalu teyrnged i Ali, cydweithiwr a edmygwyd yn fawr, gweithiwr deintyddol ymroddedig, ac Arweinydd Deintyddol Clinigol yn Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC). Roedd cyfraniadau Ali i ddeintyddiaeth yng Nghymru yn sylweddol ac yn barhaus, ac mae ei etifeddiaeth yn parhau i ysbrydoli'r rhai a gafodd y fraint o gydweithio ag ef.

Cymhwysodd Ali fel deintydd yn Sweden yn 1966 a symudodd i'r DU yn y flwyddyn ganlynol. Yn ogystal â'i arbenigedd clinigol, daeth â'i ymrwymiad dwfn i ofal cleifion a datblygiad proffesiynol. Gweithiodd fel cydymaith mewn gwahanol bractisau yn y cymoedd i ddechrau, ac yn 2009 daeth Ali yn berchennog practis, gan ehangu i ail bractis yn 2024. Drwy ei arweinyddiaeth yn y rolau hyn, dangosodd ei dosturi, ei ddiwydrwydd a'i gymhelliant i wella canlyniadau i gleifion a chydweithwyr fel ei gilydd.
Yn 2014, ymunodd Ali ag AGIC fel Adolygydd Cymheiriaid Deintyddol, ac yn 2017, cafodd ei benodi'n Arweinydd Deintyddol Clinigol. Chwaraeodd rôl hanfodol wrth sicrhau bod practisau deintyddol yng Nghymru yn cyrraedd y safonau gofal uchaf. Roedd ei waith yn cynnwys cynnal arolygiadau, mentora cymheiriaid a chyfrannu at ddatblygiad fframweithiau rheoleiddiol a oedd yn blaenoriaethu diogelwch cleifion a gwella ansawdd.
Dywedodd Ali un tro fod ei rôl yn "werth chweil", gan ddweud ei bod yn ei alluogi i gefnogi ei gydweithwyr deintyddol a chyfrannu at nodau ehangach AGIC. Roedd ei arolygiadau yn drylwyr, yn deg, a bob amser yn seiliedig ar awydd i helpu bractisau i dyfu a gwella. Roedd yn cael ei adnabod am ei ysbryd cydweithredol, ei adborth meddylgar, a'i gred gadarn ym mhwysigrwydd gofal deintyddol o safon uchel i bawb.
Y tu hwnt i'w gyflawniadau proffesiynol, bydd Ali yn cael ei gofio am ei gynhesrwydd, ei haelioni a'i uniondeb. Roedd yn fentor i lawer, yn gynghorydd y gellid ymddiried ynddo, ac yn gyfaill yr oedd ei bresenoldeb yn rhoi sicrwydd ac anogaeth.
Rydym yn estyn ein cydymdeimlad i anwyliaid, teulu a ffrindiau Ali, ac i bawb a gafodd y fraint o gydweithio ag ef. Roedd ei ddylanwad ar y gymuned ddeintyddol yng Nghymru yn sylweddol ac yn barhaus, a bydd yn cael ei golli'n fawr.
Diolch yn fawr, Ali, ar ran pawb yn AGIC a phobl Cymru, am dy ymroddiad, dy dosturi a'th waith diflino. Byddwn yn gweld dy eisiau yn ac yn cofio'n dyner amdanat.