Neidio i'r prif gynnwy

Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Gweithredol 2025-2026

Dewch i wybod am ein blaenoriaethau a'n camau gweithredu ar gyfer 2025-2026

Cynllun Gweithredol 2025-2026

Heddiw (8 Mai 2025), rydym wedi lansio ein Cynllun Gweithredol 2025-2026

Mae ein Cynllun Gweithredol ar gyfer 2025–26 yn adeiladu ar sylfeini cryf ein Strategaeth bresennol yr ydym wedi ei hymestyn am flwyddyn arall. Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar flaenoriaethau allweddol sy'n ein helpu i gyflawni ein nod o wella gofal iechyd i bawb yng Nghymru.

Mae'r cynllun hwn yn amlinellu'r ffordd y byddwn yn ceisio cyflawni ein hamcanion strategol:

  1. Byddwn yn canolbwyntio ar ansawdd y gofal iechyd a ddarperir i bobl a chymunedau wrth iddynt gyrchu gwasanaethau, eu defnyddio a symud rhyngddynt.
  2. Byddwn yn addasu ein dull gweithredu i sicrhau ein bod yn ymatebol i risgiau i ddiogelwch cleifion sy'n dod i'r amlwg
  3. Byddwn yn cydweithio er mwyn ysgogi'r gwaith o wella systemau a gwasanaethau ym maes gofal iechyd
  4. Byddwn yn cefnogi ac yn datblygu ein gweithlu i'w galluogi nhw, a'r sefydliad, i gyflawni ein blaenoriaethau.

Byddwn yn parhau i roi dull gweithio cytbwys seiliedig ar risg ar waith, gan flaenoriaethu meysydd sy'n peri'r risg fwyaf i ddiogelwch cleifion. Bydd ein rhaglen arolygu a sicrwydd yn hyblyg ac yn ymatebol o hyd, gan sicrhau ein bod yn gwirio'r gwasanaethau cywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir. Byddwn yn parhau i gyflawni ein cyfrifoldebau statudol, gan gynnwys ein gwaith o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, y Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Cysylltiad Meddygol), a'r rheoliadau gofal iechyd annibynnol.

Rydym yn deall bod amrywiaeth eang o wasanaethau yn ymwneud â'r broses o ddarparu gofal iechyd, ac rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod ein gwaith yn adlewyrchu'r dirwedd gofal iechyd ehangach, gan ganolbwyntio ar ansawdd y gofal yn gyffredinol. Byddwn hefyd yn atgyfnerthu ein ffocws ar brofiadau pobl o gymunedau amrywiol, gan herio anghydraddoldebau o ran mynediad at ofal iechyd a chanlyniadau gofal iechyd.

Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones:

Mae'r dirwedd gofal iechyd yng Nghymru yn esblygu'n barhaus, ac mae'n rhaid i ni esblygu ar yr un pryd. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi datblygu modelau sicrwydd ac arolygu mwy hyblyg sy'n ein galluogi i addasu'n gyflym i risgiau sy'n dod i'r amlwg. Byddwn yn parhau i fireinio'r dulliau hyn gan ddefnyddio dealltwriaeth a chydweithio â phartneriaid i nodi a mynd i'r afael â'r risgiau mwyaf i ddiogelwch cleifion.

Mae pobl wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym yn ymrwymedig i wrando, dysgu a gweithredu er mwyn gwella gofal iechyd yng Nghymru. Wrth i ni symud ymlaen, byddwn yn parhau i addasu, cydweithio, a herio ein hunain i fod y sefydliad gorau posibl.