Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn datblygu dull newydd o arolygu gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru.

Bydd hyn yn rhoi darlun cliriach o b'un a yw menywod, babanod, rhieni a theuluoedd yn cael gofal diogel, effeithiol ac wedi'i gydlynu'n dda.
Rydym yn parhau i ddatblygu'r fethodoleg arolygu newydd, yr ydym yn disgwyl ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2027. Caiff rhagor o wybodaeth am y dull gweithredu newydd ei rhannu wrth i'r gwaith fynd rhagddo.