Neidio i'r prif gynnwy

Datblygu dull newydd o arolygu gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn datblygu dull newydd o arolygu gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru. Bydd hyn yn rhoi darlun cliriach o b'un a yw menywod, babanod, rhieni a theuluoedd yn cael gofal diogel, effeithiol ac wedi'i gydlynu'n dda.

Datblygu dull newydd o arolygu gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol

Beth fydd yn wahanol?

Bydd arolygon yn edrych ar wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ar draws bwrdd iechyd cyfan, yn hytrach na chanolbwyntio ar safleoedd ysbyty unigol yn unig. Byddant yn ystyried y llwybr gofal o drefnu a beichiogrwydd i enedigaeth, gofal ôl-enedigol, gofal newyddenedigol a rhyddhau, gan gynnwys sut mae ysbytai a gwasanaethau cymunedol yn cydweithio.

Hwn fydd y tro cyntaf i AGIC gynnwys gwasanaethau newyddenedigol yn y math hwn o arolygiad, gan roi mwy o sylw i'r modd y mae gofal mamolaeth a newyddenedigol yn cydweithio ar gyfer babanod, rhieni a theuluoedd.

Bydd pob arolygiad yn cyd-fynd â maint a chymhlethdod y bwrdd iechyd. Bydd yn canolbwyntio ar bwyntiau allweddol yn y llwybr gofal ac yn defnyddio gwybodaeth am risgiau lleol, perfformiad, digwyddiadau, canfyddiadau blaenorol ac adborth i benderfynu pa feysydd y mae angen rhoi sylw manylach iddynt.

Beth fydd yr arolygiadau'n ei ystyried?

Arweinyddiaeth, trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd Ansawdd a diogelwch y gofal Sut y caiff risgiau eu nodi a'u rheoli Sut y caiff gofal ei gydlynu ar draws gwasanaethau a lleoliadau Profiadau a safbwyntiau menywod, babanod, rheini, teuluoedd a staff A wnaed gwelliannau o arolygiadau blaenorol ac a gawsant eu cynnal
  • Arweinyddiaeth, trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd
  • Ansawdd a diogelwch y gofal
  • Sut y caiff risgiau eu nodi a'u rheoli
  • Sut y caiff gofal ei gydlynu ar draws gwasanaethau a lleoliadau
  • Profiadau a safbwyntiau menywod, babanod, rheini, teuluoedd a staff
  • A wnaed gwelliannau o arolygiadau blaenorol ac a gawsant eu cynnal

Sut y caiff pobl eu cynnwys?

Bydd lleisiau a phrofiadau menywod, rhieni, teuluoedd a staff yn ganolog i'r dull gweithredu newydd. Bydd eu hadborth yn helpu i lywio'r hyn y bydd arolygwyr yn edrych arno, yn cefnogi canfyddiadau arolygiadau ac yn sicrhau bod adroddiadau'n adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol a phrofiadau staff sy'n darparu gofal.

Beth na chaiff ei gynnwys?

Ni chaiff rhai gwasanaethau eu hadolygu'n fanwl, gan gynnwys unedau asesu beichiogrwydd cynnar, unedau cludo newyddenedigol, gofal sylfaenol, gofal a ddarperir gan sefydliadau allanol a'r rhan fwyaf o ddarpariaeth iechyd meddwl amenedigol. Fodd bynnag, efallai y bydd yr arolygwyr yn ystyried sut mae'r gwasanaethau hyn yn cysylltu â gofal mamolaeth a newyddenedigol pan fydd hyn yn effeithio ar atgyfeiriadau, trosglwyddiadau, cyfathrebu, diogelwch neu oruchwyliaeth y bwrdd iechyd.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Rydym yn parhau i ddatblygu'r fethodoleg arolygu newydd, yr ydym yn disgwyl ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2027. Caiff rhagor o wybodaeth am y dull gweithredu newydd ei rhannu wrth i'r gwaith fynd rhagddo.