Rydym yn gyfrifol am fonitro cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau Ymbelydredd (IR(ME)R).
Beth yw ymbelydredd ïoneiddio ym maes gofal iechyd?
Defnyddir ymbelydredd ïoneiddio ym maes gofal iechyd mewn tair ffordd:
- Radioleg diagnostig, sy'n defnyddio peiriannau pelydr-X i dynnu lluniau o du mewn i gorff y claf.
- Meddygaeth niwclear, sy'n defnyddio sylweddau ymbelydrol a gaiff eu rhoi yng nghorff y claf er mwyn gwneud diagnosis neu ddarparu triniaeth.
- Radiotherapi, sy'n defnyddio sawl math a ffynhonnell o ymbelydredd ïoneiddio i wella neu leddfu symptomau canser a chlefydau eraill.
Mae'r tri maes hyn wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Cysylltiad Meddygol) 2017 (fel y'u diwygiwyd) (IR(ME)R), sy'n darparu fframwaith i ddiogelu cleifion.
Rhaid i bob gwasanaeth gofal iechyd y GIG sy'n defnyddio ymbelydredd ïoneiddio gydymffurfio â'r Rheoliadau Ymbelydredd.
Sut rydym yn monitro cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau Ymbelydredd (IR(ME)R)
Rydym yn gyfrifol am fonitro cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau Ymbelydredd (IR(ME)R), ac rydym yn gwneud hyn drwy:
- Arolygu gwasanaethau sy'n defnyddio ymbelydredd ïoneiddio
- Adolygu digwyddiadau y rhoddwyd gwybod i ni amdanynt sy'n arwain at gysylltiad ychwanegol neu anfwriadol arwyddocaol.
Sut rydym yn arolygu
Rydym yn ystyried a yw gwasanaethau'r GIG sy'n defnyddio ymbelydredd ïoneiddio yn gwneud y canlynol:
- Cydymffurfio â Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Cysylltiad Meddygol) 2017 (fel y'u diwygiwyd) (IR(ME)R)
- Cyrraedd Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023
- Cyrraedd unrhyw safonau proffesiynol perthnasol eraill a gweithredu'n unol â chanllawiau proffesiynol perthnasol eraill lle y bo'n gymwys.
Fel arfer, rydym yn rhoi rhybudd ymlaen llaw o'n harolygiadau o wasanaethau gofal iechyd y GIG sy'n defnyddio ymbelydredd ïoneiddio. Caiff gwasanaethau hyd at 12 wythnos o rybudd am arolygiad.
Cynhelir yr arolygiadau gan o leiaf un o arolygwyr AGIC gyda chymorth Uwch-swyddog Clinigol o Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA), sy'n gweithredu fel cynghorydd.
Cyhoeddir canfyddiadau ein harolygiadau ar ein gwefan.
Os hoffech gopi o'n llyfrau gwaith arolygu, cysylltwch ag AGIC.arolygu@llyw.cymru gan nodi pa fath o lyfr gwaith arolygu sydd ei angen arnoch.