Rydym yn arolygu Timau Iechyd Meddwl Cymunedol a Thimau Anableddau Dysgu Cymunedol y GIG yng Nghymru er mwyn sicrhau bod pobl yn cael gofal da.
Sut rydym yn arolygu
Rydym yn cynnal yr arolygiadau hyn ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), er mwyn sicrhau y ceir trosolwg cynhwysfawr o agweddau iechyd a gofal cymdeithasol ar y gwasanaethau a ddarperir.
Caiff ein harolygiadau o Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol eu harwain gan AGIC, a chaiff arolygiadau o Dimau Anableddau Dysgu Cymunedol eu harwain gan AGC.
Yr hyn rydym yn ei ystyried
Yn ystod ein harolygiadau, rydym yn asesu i ba raddau mae Timau Iechyd Meddwl Cymunedol a Thimau Anableddau Dysgu Cymunedol yn gwneud y canlynol:
- Cyrraedd y Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal (2023)
- Cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys:
- Deddf Iechyd Meddwl 1983
- Deddf Galluedd Meddyliol 2005
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Darparu gofal diogel ac effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Cynnwys defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr wrth gynllunio gofal a gwneud penderfyniadau
- Sicrhau mynediad amserol at wasanaethau a chymorth argyfwng
- Cynnal cofnodion gofal a thriniaeth cywir a chynhwysfawr
- Gweithio mewn ffordd gydweithredol ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.
Sut y caiff arolygiadau eu cynnal
- Dull ar y cyd: Cynhelir arolygiadau gan dîm sy'n cynnwys:
- Dau o arolygwyr AGIC
- Dau adolygydd cymheiriaid clinigol (gan gynnwys adolygydd y Ddeddf Iechyd Meddwl)
- Dau o arolygwyr AGC.
- Ymweliadau Lle Rhoddir Rhybudd: Rhoddir hyd at 12 wythnos o rybudd i Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol cyn dyddiad yr arolygiad a rhoddir chwe wythnos o rybudd i Dimau Anableddau Dysgu Cymunedol.
- Casglu Tystiolaeth: Rydym yn adolygu dogfennaeth, yn siarad â staff, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ac yn asesu'r amgylchedd ac ansawdd y gofal.
Ar ôl yr arolygiad
Yn dilyn arolygiad:
- Byddwn yn cyhoeddi adroddiad arolygu ar ein gwefan
- Gall fod yn ofynnol i wasanaethau wneud gwelliannau a chyflwyno cynllun gwella i ni
- Mae'n bosibl y byddwn yn cymryd camau pellach os caiff pryderon difrifol eu nodi
- Byddwn yn parhau i fonitro gwasanaethau gan ddefnyddio gwybodaeth o arolygiadau a gwybodaeth gan y cyhoedd, a thrwy ymgysylltu â staff gofal iechyd a sefydliadau eraill.
Os hoffech gopi o'n llyfr gwaith arolygu, cysylltwch ag AGIC.arolygu@llyw.cymru gan nodi pa fath o lyfr gwaith arolygu sydd ei angen arnoch.