Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Iechyd Meddwl a Gwasanaethau Anableddau Dysgu

Rydym yn arolygu gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau anableddau dysgu y GIG yng Nghymru i gleifion mewnol er mwyn sicrhau bod pobl yn cael gofal da.

Sut rydym yn arolygu 

Rydym yn asesu a yw gwasanaethau yn gwneud y canlynol:

  • Cydymffurfio â rheoliadau a deddfwriaeth allweddol gofal iechyd, fel y canlynol:
    • Deddf Iechyd Meddwl 1983
    • Deddf Galluedd Meddyliol 2005
    • Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
    • Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid
  • Dilyn safonau a chanllawiau proffesiynol perthnasol
  • Cyrraedd Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023
  • Cydymffurfio â strategaethau, polisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.

Cynhelir ein harolygiadau o ysbytai'r GIG fel arfer yn ddirybudd er mwyn helpu i gyflawni'r canlynol:

  • Cael syniad realistig o'r gweithrediadau o ddydd i ddydd – Mae arolygiadau dirybudd yn rhoi syniad mwy adlewyrchol o'r ffordd y mae gwasanaethau yn gweithredu ar ddiwrnod arferol, heb y cyfle i staff baratoi neu newid arferion. Mae hyn yn helpu AGIC i asesu a yw safonau uchel yn cael eu cynnal yn gyson.
  • Mwy o atebolrwydd – Mae gwybod y gall arolygiadau ddigwydd ar unrhyw adeg yn annog ysbytai i gydymffurfio'n barhaus â rheoliadau a safonau, yn hytrach na pharatoi ar gyfer ymweliadau wedi'u trefnu yn unig.
  • Gwell diogelwch i gleifion – Drwy arsylwi ar wasanaethau yn eu cyflwr naturiol, mae'n fwy tebygol y bydd arolygwyr yn nodi risgiau gwirioneddol i ddiogelwch cleifion neu ddiffygion yn y gofal y gellid eu methu fel arall yn ystod arolygiad wedi'i gynllunio.
  • Mwy o hygrededd ac ymddiriedaeth ymhlith aelodau'r cyhoedd – Mae arolygiadau dirybudd yn dangos bod AGIC yn annibynnol ac yn ddiduedd, gan atgyfnerthu hyder y cyhoedd bod gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu dwyn i gyfrif mewn ffordd dryloyw a theg.
  • Cyfle i glywed adborth go iawn gan gleifion a staff – Mae cleifion a staff yn fwy tebygol o roi adborth dilys yn ystod ymweliadau dirybudd, gan nad yw'r amgylchedd mor ffurfiol a'i fod yn adlewyrchu eu profiad o ddydd i ddydd yn well.
  • Canfod Materion Systemig yn Gynnar – Gall yr arolygiadau hyn helpu i ddod â phroblemau i'r wyneb mewn perthynas â diwylliant yr ysbyty, staffio, neu broblemau arweinyddiaeth na fyddant o bosibl i'w gweld yn ystod arolygiad y paratowyd ar ei gyfer.

Cynhelir pob arolygiad o ysbytai iechyd meddwl gan dîm sy'n cynnwys o leiaf un o arolygwyr AGIC (sy'n arwain ac yn rheoli'r broses), adolygydd cymheiriaid allanol â phrofiad proffesiynol perthnasol, ac adolygydd profiad y claf. Mae'r adolygydd cymheiriaid allanol yn cynnig safbwynt clinigol annibynnol, ac mae'r adolygydd profiad y claf yn ymgysylltu ag unigolion sy'n cael gofal er mwyn casglu gwybodaeth uniongyrchol am eu profiadau. Mae'r dull cydweithredol hwn yn sicrhau bod arolygiadau yn adlewyrchu'r safonau proffesiynol a phrofiadau go iawn cleifion.

 

Ar ôl yr arolygiad

Yn dilyn arolygiad:

  • Byddwn yn cyhoeddi adroddiad arolygu ar ein gwefan
  • Gall fod yn ofynnol i wasanaethau wneud gwelliannau a chyflwyno cynllun gwella i ni
  • Mae'n bosibl y byddwn yn cymryd camau pellach os caiff pryderon difrifol eu nodi
  • Byddwn yn parhau i fonitro gwasanaethau gan ddefnyddio gwybodaeth o arolygiadau a gwybodaeth gan y cyhoedd, a thrwy ymgysylltu â staff gofal iechyd a sefydliadau eraill.

Os hoffech gopi o'n llyfrau gwaith arolygu, cysylltwch ag AGIC.arolygu@llyw.cymru gan nodi pa fath o lyfr gwaith arolygu sydd ei angen arnoch.

Cyhoeddir canfyddiadau ein harolygiadau ar ein gwefan.

Dogfennau