Neidio i'r prif gynnwy

Ysbytai

Rydym yn arolygu ysbytai'r GIG yng Nghymru er mwyn sicrhau bod pobl yn cael gofal da.

Sut rydym yn arolygu 

Rydym yn arolygu ysbytai'r GIG mewn ffyrdd gwahanol, gan gynnwys y canlynol:

  • Arolygiadau o adran neu ward unigol: Adolygiad manwl o un adran neu ward i ddeall ansawdd a diogelwch y gofal a ddarperir.
  • Arolygiadau o sawl ward: Cynnal ymweliadau â nifer o wardiau ac adrannau mewn ysbyty i nodi themâu neu faterion ehangach.
  • Arolygiadau o sawl ysbyty: Cynnal ymweliadau i asesu sawl ysbyty mewn bwrdd iechyd er mwyn gwerthuso'r trefniadau llywodraethu a'r gwasanaethau a ddarperir. 

 

Yr hyn rydym yn ei asesu

Yn ystod arolygiadau, rydym yn ystyried sut mae gwasanaethau yn gwneud y canlynol:

  • Cydymffurfio â rheoliadau a deddfwriaeth gofal iechyd
  • Cyrraedd  Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023
  • Cydymffurfio â strategaethau, polisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru
  • Dilyn safonau a chanllawiau proffesiynol sy'n berthnasol i'w maes gofal.

Cynhelir ein harolygiadau o ysbytai'r GIG fel arfer yn ddirybudd er mwyn helpu i gyflawni'r canlynol:

  • Cael syniad realistig o'r gweithrediadau o ddydd i ddydd – Mae arolygiadau dirybudd yn rhoi syniad mwy adlewyrchol o'r ffordd y mae gwasanaethau yn gweithredu ar ddiwrnod arferol, heb y cyfle i staff baratoi neu newid arferion. Mae hyn yn helpu AGIC i asesu a yw safonau uchel yn cael eu cynnal yn gyson.
  • Mwy o atebolrwydd – Mae gwybod y gall arolygiadau ddigwydd ar unrhyw adeg yn annog ysbytai i gydymffurfio'n barhaus â rheoliadau a safonau, yn hytrach na pharatoi ar gyfer ymweliadau wedi'u trefnu yn unig.
  • Gwell diogelwch i gleifion – Drwy arsylwi ar wasanaethau yn eu cyflwr naturiol, mae'n fwy tebygol y bydd arolygwyr yn nodi risgiau gwirioneddol i ddiogelwch cleifion neu ddiffygion yn y gofal y gellid eu methu fel arall yn ystod arolygiad wedi'i gynllunio.
  • Mwy o hygrededd ac ymddiriedaeth ymhlith aelodau'r cyhoedd – Mae arolygiadau dirybudd yn dangos bod AGIC yn annibynnol ac yn ddiduedd, gan atgyfnerthu hyder y cyhoedd bod gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu dwyn i gyfrif mewn ffordd dryloyw a theg.
  • Cyfle i glywed adborth go iawn gan gleifion a staff – Mae cleifion a staff yn fwy tebygol o roi adborth dilys yn ystod ymweliadau dirybudd, gan nad yw'r amgylchedd mor ffurfiol a'i fod yn adlewyrchu eu profiad o ddydd i ddydd yn well.
  • Canfod Materion Systemig yn Gynnar – Gall yr arolygiadau hyn helpu i ddod â phroblemau i'r wyneb mewn perthynas â diwylliant yr ysbyty, staffio, neu broblemau arweinyddiaeth na fyddant o bosibl i'w gweld yn ystod arolygiad y paratowyd ar ei gyfer. 

Cynhelir pob arolygiad ysbyty gan dîm sy'n cynnwys o leiaf un o arolygwyr AGIC sy'n arwain ac yn rheoli'r broses, adolygydd cymheiriaid allanol â phrofiad proffesiynol perthnasol, ac adolygydd profiad y claf. Mae'r adolygydd cymheiriaid allanol yn cynnig safbwynt clinigol annibynnol, ac mae'r adolygydd profiad y claf yn ymgysylltu ag unigolion sy'n cael gofal er mwyn casglu gwybodaeth uniongyrchol am eu profiadau. Mae'r dull cydweithredol hwn yn sicrhau bod arolygiadau yn adlewyrchu'r safonau proffesiynol a phrofiadau go iawn cleifion.

 

Ar ôl yr arolygiad

Yn dilyn arolygiad:

  • Byddwn yn cyhoeddi adroddiad arolygu ar ein gwefan
  • Gall fod yn ofynnol i wasanaethau wneud gwelliannau a chyflwyno cynllun gwella i ni
  • Mae'n bosibl y byddwn yn cymryd camau pellach os caiff pryderon difrifol eu nodi.

Byddwn yn parhau i fonitro gwasanaethau gan ddefnyddio gwybodaeth o arolygiadau a gwybodaeth gan y cyhoedd, a thrwy ymgysylltu â staff gofal iechyd a sefydliadau eraill.

Os hoffech gopi o'n llyfrau gwaith arolygu, cysylltwch ag AGIC.arolygu@llyw.cymru gan nodi pa fath o lyfr gwaith arolygu sydd ei angen arnoch.