Neidio i'r prif gynnwy

Practisau Meddygon Teulu

Rydym yn arolygu practisau meddygon teulu er mwyn gwneud y canlynol:

• Gwirio a yw cleifion yn cael gofal diogel o ansawdd uchel
• Helpu i hyrwyddo gwelliannau mewn gwasanaethau gofal iechyd
• Rhoi sicrwydd i'r cyhoedd ac i Lywodraeth Cymru
• Nodi a rhannu arferion da a gwneud argymhellion er mwyn gwella.

Yr hyn rydym yn ei ystyried

Yn ystod arolygiadau, rydym yn ystyried sut mae practisau meddygon teulu yn gwneud y canlynol: 

  • Cydymffurfio â rheoliadau a deddfwriaeth gofal iechyd
  • Cyrraedd Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023
  • Cydymffurfio â strategaethau, polisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru
  • Dilyn safonau a chanllawiau proffesiynol sy'n berthnasol i'w maes gofal.

Gall hyn gynnwys asesu'r canlynol:

  • Profiad cleifion ac adborth gan gleifion
  • Diogelwch cleifion a'r broses ddiogelu
  • Mynediad at wasanaethau, fel systemau ffôn ac argaeledd apwyntiadau
  • Ansawdd y gofal a'r driniaeth
  • Arweinyddiaeth a rheolaeth
  • Atal a rheoli heintiau.

Rydym hefyd yn ystyried i ba raddau mae practisau yn cyrraedd safonau mynediad cenedlaethol Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys:

  • Ymatebion prydlon i gyswllt gan gleifion
  • Gwybodaeth glir am sut i gael gwasanaethau
  • Gwahanol ddulliau o gysylltu â'r practis (e.e. dros y ffôn, e-bost)
  • Opsiwn cyfathrebu dwyieithog.

Fel arfer, bydd practisau meddygon teulu yn cael rhybudd ymlaen llaw am ein harolygiadau, gyda phob gwasanaeth yn cael hyd at 12 wythnos o rybudd cyn dyddiad yr arolygiad. Mae'r dull hwn yn galluogi practisau i baratoi ac yn sicrhau bod y broses arolygu yn dryloyw ac yn deg. Fodd bynnag, gallwn hefyd gynnal arolygiadau dirybudd os bydd angen. Yn ystod yr arolygiad, bydd tîm a gaiff ei arwain gan un o arolygwyr AGIC wedi'i gefnogi gan hyd at dri adolygydd cymheiriaid allanol, sef meddyg teulu, Nyrs Bractis, a Rheolwr Practis fel arfer, y mae pob un ohonynt yn meddu ar brofiad diweddar mewn practis meddyg teulu, yn cynnal gwerthusiad trylwyr. 

 

Ar ôl yr arolygiad

Yn dilyn arolygiad:

  • Byddwn yn cyhoeddi adroddiad arolygu ar ein gwefan
  • Byddwn yn annog practisau i ddefnyddio ein canfyddiadau i wella gwasanaethau i gleifion, ac mae'n bosibl y bydd angen iddynt gyflwyno cynllun gwella i ni
  • Mae'n bosibl y byddwn yn cymryd camau pellach os caiff pryderon difrifol eu nodi, a all gynnwys gweithio gyda'r bwrdd iechyd lleol
  • Byddwn yn parhau i fonitro gwasanaethau gan ddefnyddio gwybodaeth o arolygiadau a gwybodaeth gan y cyhoedd, staff gofal iechyd a sefydliadau eraill.

Os hoffech gopi o'n llyfrau gwaith arolygu, cysylltwch ag AGIC.arolygu@llyw.cymru gan nodi pa fath o lyfr gwaith arolygu sydd ei angen arnoch.

Dogfennau