Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin Arsylwi - Chwefror 2023

Bwletin Arsylwi Chwefror 2023

Croeso i rifyn cyntaf 2023 o Fwletin Arsylwi Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).

Rydym yn cyhoeddi Bwletin Arsylwi bob chwarter, er mwyn rhannu ein newyddion diweddaraf a thynnu sylw at themâu allweddol sy'n dod i'r amlwg yn ein gwaith.

Mae'n rhan o'n hymrwymiad i ddeall disgwyliadau ein rhanddeiliaid yn well, mynd ati i ymgysylltu, rhannu ein canfyddiadau ac adrodd ar ein gweithgarwch.

Dros y misoedd diwethaf mae AGIC wedi bod yn brysur yn cyflwyno polisi cyhoeddiadau diwygiedig, mynychu amrywiaeth o gynadleddau, gan gynnwys cynhadledd ryngwladol, ac yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o weithgarwch sicrwydd ac arolygu.

Mae'r adran ‘dysgu a dealltwriaeth’ yn y rhifyn hwn yn rhannu sut rydym yn gweithio gydag asiantaethau eraill i adolygu trefniadau amddiffyn plant ledled Cymru. Hefyd, yn ystod ein harolygiadau diweddaraf o wasanaethau iechyd meddwl y GIG i gleifion mewnol, rydym wedi gweld lefelau isel o hyfforddiant ar atal yn gorfforol – cewch wybod sut rydym yn gweithio gyda lleoliadau gofal iechyd i wella hyn er mwyn sicrhau bod cleifion a staff yn cael eu diogelu.

Hoffem glywed gennych, felly cofiwch roi eich adborth i ni.

Diolch yn fawr.

Diweddariad Busnes

Ein Huwchgynhadledd Gofal Iechyd

Mae ein Huwchgynhadleddd Gofal Iechyd bellach yn ffordd sefydledig o gynnig fforwm rhyngweithiol i rannu gwybodaeth am ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd a ddarperir gan GIG Cymru. Mae aelodau'r Uwchgynhadledd Gofal Iechyd yn cynnwys cyrff archwilio, arolygu, gwella a rheoleiddio sy'n gweithio ledled Cymru. Cynhelir yr Uwchgynhadledd ddwywaith y flwyddyn. Rydym bellach wedi cyflwyno proses newydd a elwir yn Uwchgynhadledd Arbennig: ymateb cydweithredol i bryderon sy'n dod i'r golwg. Drwy broses yr Uwchgynhadledd Arbennig, gall aelodau o'r Uwchgynhadledd Gofal Iechyd godi materion a risgiau sylweddol i gleifion sy'n dod i'r golwg. Pan fydd risgiau neu bryderon sylweddol ynglŷn â diogelwch cleifion yn dod i'r golwg, gall aelodau'r Uwchgynhadledd roi proses yr Uwchgynhadledd Arbennig ar waith. Egwyddor greiddiol y gwaith hwn yw sicrhau y gall sefydliadau perthnasol rannu a thriongli gwybodaeth mewn modd ystwyth ac amserol, er mwyn ymateb i bryderon ynglŷn â diogelwch cleifion. Cyflwynwyd y broses hon gennym ar 1 Chwefror 2023.

Digwyddiadau allanol

Mae AGIC wedi mynd ati i gyfarfod â phobl newydd mewn amrywiaeth o gynadleddau dros yr ychydig fisoedd diwethaf. 

Cynhadledd ac arddangosfa flynyddol cydffederasiwn GIG Cymru

m mis Tachwedd, aeth ein Tîm Strategaeth, Polisi ac Ymgysylltu, ynghyd â'n Cyfarwyddwr Strategaeth ac Ymgysylltu a Phennaeth Arolygu'r GIG, i Gynhadledd ac Arddangosfa Flynyddol Cydffederasiwn y GIG Thema'r gynhadledd oedd 'Galluogi dyfodol iechyd a gofal yng Nghymru'. Roedd yn braf cael cyfarfod â chydweithwyr o wasanaethau gofal iechyd wyneb yn wyneb unwaith eto.

AGIC yn Latfia

Aeth ein Cyfarwyddwr Cyngor Clinigol a Llywodraethu Ansawdd, Katherine Williams a'n Cyfarwyddwr Strategaeth ac Ymgysylltu, Abubakar Askira i Latfia ar ddiwedd mis Tachwedd i gymryd rhan yng nghynhadledd y Bartneriaeth Ewropeaidd ar gyfer Sefydliadau Goruchwylio mewn Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (EPSO). Mae EPSO yn cynnwys sefydliadau llywodraethau ac sy'n gysylltiedig â llywodraethau sy'n ymgymryd â gweithgareddau ym maes gorfodi'r gyfraith, goruchwylio, monitro ac achredu, mewn perthynas â Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn gwledydd neu ranbarthau Ewropeaidd.

Dywedodd Abubakar: 

Roedd y gynhadledd yn llwyfan ardderchog i rwydweithio a dysgu ar y cyd ynglŷn ag amrywiaeth o bynciau fel rheoleiddio iechyd a gofal mewn tirwedd gynyddol ddigidol, a rôl sefydliadau goruchwylio o ran rhoi ffocws newydd ar ffyrdd iach o fyw ac atal salwch.Rhoddodd y gynhadledd, a gynhaliwyd yn Amgueddfa Hanes Meddygaeth Pauls Stradiņš, gyfle unigryw i gael cipolwg ar ddiwylliant Latfia a hanes meddygaeth yn Latfia. Mae'n bleser gennym hefyd rannu bod Cymru, ystod y gynhadledd, wedi cael cynnig lle ar gwrs peilot, sef yr un cyntaf o'i fath. Mae'r cwrs hwn wedi'i ddatblygu gan EPSO a Phrifysgol Rotterdam a hwn fydd y cwrs hyfforddi cyntaf i staff arolygu gofal iechyd i'w gydnabod yn rhyngwladol.Caiff y cwrs hyfforddi ei gyflwyno o bell.

Cynhadledd Academaidd y Gaeaf Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

Cawsom wahoddiad i arddangos yng Nghynhadledd Academaidd y Gaeaf Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar ddechrau mis Rhagfyr. Roedd yn gyfle gwych i siarad â seiciatryddion ynglŷn â'n gwasanaeth meddyg a benodwyd i roi ail farn. 

Ymunwch â Ni

Blwyddyn newydd, person newydd, her newydd?

Pobl sydd wrth wraidd y sefydliad prysur hwn.

Rydym wrthi'n recriwtio ar gyfer y canlynol:

Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am y rolau a sut i wneud cais. 

Diweddariad ar Weithgarwch

Gweithgarwch Sicrwydd ac Arolygu – Polisi Cyhoeddi Wedi'i Ddiweddaru

Efallai eich bod wedi gweld mwy o'n gwaith yn cael sylw yn y newyddion dros yr wythnosau diwethaf.

Rydym wedi cyflwyno proses newydd o rannu canfyddiadau ein harolygiadau o fathau penodol o leoliad gofal iechyd.

Oherwydd pwysigrwydd adrannau achosion brys, gwasanaethau mamolaeth, ac unedau iechyd meddwl i gleifion mewnol ledled Cymru, a'r niferoedd mawr o bobl sy'n defnyddio'r rhain, mae AGIC bellach yn briffio'r cyfryngau a rhanddeiliaid o dan embargo, yn union cyn cyhoeddi adroddiad o'r fath, p'un ai cadarnhaol neu negyddol yw canfyddiadau'r arolygiad.

Caiff y broses hon ei defnyddio ar gyfer mathau eraill o arolygiad pan fydd canfyddiadau o natur bwysig. Mae'r penderfyniad i gyflwyno'r broses hon yn cyflawni ymrwymiad strategol AGIC i lywio gwelliannau i systemau a gwasanaethau gofal iechyd.

Yn sgil y broses ddiwygiedig hon o gyhoeddi adroddiadau, gweler ein heitemau newyddion diweddar:

Adolygiadau sy'n mynd rhagddynt

Trefniadau Rhyddhau Cleifion sy'n Oedolion o Wasanaethau Iechyd Meddwl Cleifion Mewnol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Ar ôl asesu gwybodaeth o nifer o ffynonellau a nododd bryderon mawr ynglŷn â gwasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM), penderfynwyd cynnal yr arolygiad hwn. Roedd y gwaith yn canolbwyntio ar archwilio ansawdd a diogelwch trefniadau rhyddhau cleifion sy'n oedolion sy'n gadael unedau iechyd meddwl i gleifion mewnol ac yn dychwelyd i'r gymuned.

Dechreuodd yr adolygiad ym mis Ionawr 2022 a pharhawyd i gasglu tystiolaeth tan ddiwedd haf 2022. Disgwylir i'r adroddiad gael ei gyhoeddi ar 7 Mawrth 2023.

Gwasanaeth Fasgwlaidd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Yn unol â'n proses ar gyfer gwasanaeth GIG sy'n peri pryder, ym mis Chwefror 2022 cafodd Gwasanaethau Fasgwlaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu dynodi'n gennym fel Gwasanaeth sydd Angen Gwelliant Sylweddol

Felly, rydym yn cynnal adolygiad lleol o wasanaethau fasgwlaidd y bwrdd iechyd er mwyn archwilio'r cynnydd a wnaed gan y bwrdd iechyd mewn perthynas â'r argymhellion a wnaed yn gynharach yn adroddiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, er mwyn cael sicrwydd ynglŷn â diogelwch cleifion ac ansawdd y gofal a ddarperir.

Rydym yn gobeithio cyhoeddi'r canfyddiadau yn ystod y gwanwyn.

Adolygiad Cenedlaethol o Lif Cleifion (Llwybr Strôc)

Gall llif aneffeithiol ac aneffeithiol o gleifion gael effaith sylweddol ar ansawdd a diogelwch gofal cleifion. O ganlyniad, mae AGIC yn cynnal adolygiad cenedlaethol er mwyn ystyried y maes hwn yn fanwl.

Er mwyn asesu effaith yr heriau o ran llif cleifion ar ansawdd a diogelwch y gofal a roddir i gleifion sy'n aros i gael eu hasesu a'u trin, bydd ffocws ein hadolygiad ar y llwybr Strôc.

Dechreuwyd cynllunio'r adolygiad yn ystod hydref 2021, a dechreuwyd ar y gwaith maes ym mis Mawrth 2022. Rydym wedi ystyried sut mae GIG Cymru yn ymdrin â gallu pobl i gael gafael ar ofal acíwt ar yr adeg gywir ac a yw cleifion yn cael gofal yn y lle cywir, gan y bobl sydd â'r sgiliau cywir, hyd at eu rhyddhau'n amserol. Rydym yn gobeithio cyhoeddi'r adroddiad ar yr adolygiad yn ystod y gwanwyn.

Diweddariad ar yr Adolygiad Cenedlaethol o Ofal a Gynlluniwyd

Rydym wedi cyfeirio'n flaenorol at ein bwriad i gynnal Adolygiad Cenedlaethol o Ofal a Gynlluniwyd. Oherwydd y pwysau sylweddol yn y system gofal iechyd yng Nghymru, rydym wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'r gwaith hwn ond, yn hytrach, ganolbwyntio ein hadnoddau ar feysydd eraill o risg sy'n dod i'r golwg a phryderon ynglŷn â diogelwch cleifion. 

Dysgu a Dealltwriaeth

Gweithio gydag eraill

Archwilio Cymru Arolygiaeth Cymru Estyn

Mae AGIC yn gweithio'n agos gyda rheoleiddwyr ac arolygiaethau eraill yng Nghymru, a hefyd gydag arolygiaethau eraill yn y DU.

Yn ystod ein gwaith ar sicrwydd yng Nghymru, rydym yn gweithio'n agos gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), Estyn ac Archwilio Cymru. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 yn cefnogi trefniadau gweithio ar y cyd rhwng y cyrff arolygu ac archwilio yng Nghymru.

Un enghraifft o hyn yw ein gwaith adolygu traws-arolygiaeth i ystyried effeithiolrwydd trefniadau amddiffyn plant, a elwir yn Adolygiad gan Arolygiaethau ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant. Dull arolygu traws-arolygiaeth ydyw, sy'n ystyried pa mor dda y mae partneriaid diogelu yn gweithio gyda'i gilydd i amddiffyn plant.

Yn 2019 a 2021, gweithiodd AGIC ar y cyd ag AGC, Estyn, Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi ac Arolygiaeth Prawf ei Fawrhydi i gynnal dau adolygiad peilot gan Arolygiaethau ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant. Canolbwyntiodd yr adolygiadau peilot ar gamfanteisio rhywiol a throseddol yn ystod plentyndod yn Awdurdod Lleol Casnewydd o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac Awdurdod Lleol Castell-nedd Port Talbot o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Canolbwyntiodd y fethodoleg ar gyfer y gwaith hwn ar dri phrif faes:

  • Gwerthusiad o'r ‘drws ffrynt’ amlasiantaethol ar gyfer amddiffyn plant pan fydd gwasanaethau lleol yn dod yn ymwybodol o blant sy'n wynebu risg o niwed yn gyntaf.
  • Gwerthusiad ‘dwfn’ o brofiadau plant sy'n wynebu risg
  • Gwerthusiad o ansawdd trefniadau arwain, rheoli a llywodraethu sydd ar waith i ddatblygu a chefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau.

Gwerthusodd y tîm arolygu llawn y tri maes uchod, gan ddefnyddio dau ddull arolygu allweddol: ‘olrhain’ a ‘samplu’ profiadau plant.

Roedd y broses olrhain yn cynnwys adolygiad manwl o'r dechrau i'r diwedd o brofiadau chwe phlentyn a oedd yn wynebu risg o gamfanteisio. Ystyriwyd y cyd-destun teuluol hefyd; fodd bynnag, ni werthuswyd profiadau unrhyw frodyr na chwiorydd yn fanwl. Canolbwyntiodd yr arolygwyr ar ymarfer yn y chwe mis cyn yr arolygiad, ond lle y bo'n briodol, ystyriwyd profiadau'r plentyn cyn hyn.

oedd y broses samplu yn cynnwys gwerthusiad traws-arolygiaeth o'r ‘drws ffrynt’ amlasiantaethol, gyda phwyslais penodol ar Wybodaeth, Cyngor a Chymorth. Roedd hyn yn cynnwys gwerthusiad o drefniadau ‘drws ffrynt’ awdurdodau lleol a threfniadau diogelu amlasiantaethol ar gyfer addysg, gofal iechyd, yr heddlu a gwasanaethau prawf. Canolbwyntiodd hefyd ar ba mor dda y mae sefydliadau yn cyfathrebu, yn rhannu gwybodaeth ac yn cyfrannu at drefniadau diogelu. Er enghraifft, sut mae ysgolion yn cefnogi trefniadau diogelu amlasiantaethol, megis grwpiau craidd a meddygon teulu a gweithdrefnau asesu risg adrannau achosion brys.

anolbwyntiodd ein gwaith hefyd ar ymarfer uniongyrchol drwy'r canlynol:

  • Cyfarfod â phlant, rhieni a gofalwyr
  • Craffu ar brofiadau plant a'u trafod ochr yn ochr ag ymarferwyr a staff sy'n gweithio gyda'r plentyn
  • Arsylwi ar ymarfer mewn cyfarfodydd amlasiantaethol
  • Edrych ar ddogfennau allweddol
  • Cyfweld â staff er mwyn deall y cymorth a roddir gan uwch-aelodau ac effaith prosesau sicrhau ansawdd.
  • Gwerthuso effeithiolrwydd trefniadau diogelu ac amddiffyn plant sy'n wynebu risg o niwed.

Mae'r adroddiadau cyhoeddedig ar yr adolygiadau peilot ar gael ar wefan AGC.

Byddwn yn adolygu:

  • Yr ymateb i honiadau o gam-drin a esgeulustod pan fyddant yn cael eu nodi
  • Ansawdd ac effaith prosesau asesu, cynllunio a gwneud penderfyniadau mewn ymateb i hysbysiadau ac atgyfeiriadau
  • Amddiffyn plant 11 oed neu'n iau sy'n wynebu risg o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso.
  • Arwain a rheoli
  • Effeithiolrwydd y trefniadau diogelu amlasiantaethol.

Dysgu ar y cyd ar gyfer pob Bwrdd Iechyd – Hyfforddiant y GIG ar Atal yn Gorfforol 

Yn ystod pob arolygiad o iechyd meddwl i gleifion mewnol, rydym yn cadarnhau a yw'r staff yn cydymffurfio â hyfforddiant ar ddulliau atal corfforol cyfyngol, a hynny am y gall atal yn gorfforol fod yn niweidiol i gleifion neu staff os na chaiff ei wneud mewn modd priodol a diogel. Mae hyfforddiant, a hyfforddiant gloywi, yn hanfodol i sicrhau bod cleifion a staff yn cael eu diogelu rhag anaf.

Yn ystod tri o'n harolygiadau o wasanaethau iechyd meddwl y GIG i gleifion mewnol gwelwyd lefelau isel iawn o gydymffurfiaeth â'r hyfforddiant hwn, mor isel â 16% ar un ward. Mae hyn yn achosi risg sylweddol i gleifion a staff. Hefyd, edrychwyd ar gofnodion diweddar o achosion o atal yn gorfforol yn ystod yr arolygiadau hyn a nodwyd bod staff nad oeddent yn cydymffurfio wedi bod yn rhan o'r achosion. Unwaith eto, mae hyn yn achosi risg sylweddol i'r cleifion a'r staff dan sylw, ac nid ydym wedi cael sicrwydd bod cleifion na staff yn cael eu hamddiffyn a'u diogelu rhag anaf.

Nododd rhai o'n harolygiadau hefyd nad oedd y polisïau ar atal yn gorfforol yn gyfredol mwyach, a'i bod yn anodd dod o hyd i gofnodion o achosion o atal a'u deall, neu nad oeddent yn cynnwys digon o fanylion. Unwaith eto, mae hyn yn achosi risg sylweddol i gleifion a staff pe bai rhywun yn cael ei anafu o ganlyniad i'w atal yn gorfforol yn anghywir.

Rydym ar ddeall bod rhywfaint o hyfforddiant wyneb yn wyneb wedi cael ei ohirio oherwydd y pandemig. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod byrddau iechyd yn sicrhau bod eu staff yn parhau i gydymffurfio â hyfforddiant i amddiffyn cleifion a staff rhag y risg o anaf.

Dysgu ar y cyd ar gyfer pob Bwrdd Iechyd – Hyfforddiant y GIG ar Atal yn Gorfforol 

I grynhoi, rydym yn cynghori byrddau iechyd y dylent wneud y canlynol:

  • Cadw gwybodaeth gywir am gydymffurfiaeth pob aelod o'r staff â hyfforddiant gorfodol
  • Sicrhau bod pob aelod perthnasol o'r staff yn cwblhau hyfforddiant llawn neu hyfforddiant gloywi mor fuan â phosibl
  • Cynnal rhaglen barhaus o hyfforddiant gloywi
  • Pan na fo pob aelod o'r staff yn cydymffurfio, sicrhau bod o leiaf un aelod o'r staff sy'n cydymffurfio ar bob sifft
  • Sicrhau bod polisïau ynglŷn â defnyddio dulliau atal yn gorfforol yn gyfredol
  • Sicrhau ei bod yn hawdd dod o hyd i gofnodion o achosion o atal yn gorfforol a'u bod yn ddigon manwl.

Gweithio Gyda'n Gilydd

Mae'r mwyafrif helaeth o'n rhyngweithio â gwasanaethau gofal iechyd yn gadarnhaol ac yn gynhyrchiol.

Wrth i ni ymgymryd â'n rôl, byddwn yn eich trin â chwrteisi a pharch ac mae gan ein staff ninnau yn eu tro yr hawl i ddisgwyl yr un cwrteisi a pharch. Mae diogelwch ein staff yn bwysig iawn i ni.

Mae gan bob aelod o'n staff yr hawl i weithio mewn amgylchedd diogel ac iach. Ni fydd cam-drin geiriol, bygythiadau, ymddygiad bygythiol neu ymosodol, cam-drin hiliol neu rywiol, gwahaniaethu nac ymosodiadau corfforol yn cael eu goddef o dan unrhyw amgylchiadau. Mae trais yn erbyn ein staff yn drosedd ac ni fyddwn yn derbyn yr ymddygiad hwn.

Dweud eich dweud

Rydym yn cynnal arolygon pan hoffem gael eich barn ar bynciau penodol.

Mae gennym amrediad o arolygon staff a chleifion ar agor ar hyn o bryd ac rydym yn croesawu eich barn ar unrhyw un o'r pynciau.

Gellir bellach weld yr holl arolygon sydd ar agor ar ein tudalen arolygon ar ein gwefan.

Oes gennych chi funud?

Byddem wrth ein bodd yn gwybod beth yw eich barn chi am ein Bwletin Cipolwg – dim ond ychydig o gwestiynau a dyna ni!

Cysylltwch â ni