Neidio i'r prif gynnwy

Arolygiad yn nodi bod angen gwella Uned Seiciatrig Heddfan yn Ysbyty Maelor Wrecsam o hyd

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (9 Chwefror 2023) ar ganfyddiadau ei harolygiad o Uned Seiciatrig Heddfan yn Ysbyty Maelor Wrecsam a redir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).

Uned Seiciatrig Heddfan, Ysbyty Maelor Wrecsam

Gwelwyd bod y staff yn yr uned yn ymrwymedig i ddarparu gofal diogel ac effeithiol a bod protocolau addas ar waith, ar y cyfan, er mwyn rheoli risgiau, iechyd a diogelwch a phrosesau rheoli heintiau. Roedd angen gwelliannau allweddol mewn perthynas â hyfforddiant atal yn gorfforol i'r staff, rheoli meddyginiaeth a chynnal archwiliadau rheolaidd.

Cwblhaodd AGIC arolygiad annibynnol dirybudd o'r ysbyty ar dri diwrnod dilynol ym mis Tachwedd y llynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, arolygwyd nifer o ardaloedd asesu ar Wardiau Gwanwyn a Hydref. Mae'r ddwy ward yn darparu ar gyfer hyd at 14 o gleifion yr un ac yn cynnig ystod gynhwysfawr o wasanaethau iechyd acíwt, gan gynnwys gwasanaethau i bobl hŷn a gofal seiciatrig dwys.

Arsylwodd yr arolygwyr dîm o staff ymrwymedig a oedd yn deall anghenion y cleifion yn dda ac a oedd yn ymroddedig i ddarparu gofal o safon uchel. Gwelwyd bod y staff yn rhyngweithio â'r cleifion mewn modd priodol, ac yn eu trin ag urddas a pharch. Roedd y staff y gwnaethom siarad â nhw yn frwdfrydig am eu rolau a'r modd roeddent yn cefnogi'r cleifion ac yn gofalu amdanynt.

Nododd yr arolygiad ar y safle fod angen gwneud gwelliannau er mwyn sicrhau bod yr ystafelloedd gweithgareddau ar y ddwy ward yn cael eu tacluso a'u cynnal a'u cadw gan y staff, bod mesurau rheoli tymheredd ar waith a bod cyfleusterau wedi torri yn cael eu hatgyweirio neu fod rhai newydd yn cael eu gosod yn eu lle. Nodwyd hefyd y bydd y cyfleusterau ar gyfer sicrhau preifatrwydd ac urddas y cleifion yn cael eu gwella mewn ystafelloedd gwely ac ystafelloedd cawod.

Ar y cyfan, cafodd yr arolygwyr sicrwydd fod prosesau ar waith i reoli ac adolygu risgiau er mwyn helpu i gynnal iechyd a diogelwch cleifion, staff ac ymwelwyr. Roedd cynlluniau gofal a thriniaeth yn drefnus ac wedi'u diweddaru ond gwelsom fod ansawdd y cynlluniau yn amrywio rhwng y wardiau. Roedd angen rhai gwelliannau mewn perthynas â llywodraethu, cadw cofnodion a rheoli meddyginiaethau.  Yn ystod yr arolygiad, roedd yn bryder nodi nad oedd llyfr gwaith archwiliadau o glymau misol wedi'i gwblhau ers mis Chwefror 2022, a allai beri risg i ddiogelwch y cleifion. Rhaid cynnal archwiliadau rheolaidd er mwyn monitro risgiau diogelwch, y ffordd y caiff meddyginiaeth ei rheoli a gwaith cynnal a chadw ystafelloedd clinig ar y wardiau.

Gwelodd ein harolygwyr fod y tîm arwain yn hawdd mynd ato ac yn cefnogi'r staff ac roedd ganddo ddealltwriaeth dda o anghenion y cleifion. Gwelsom dystiolaeth o drefniadau cydweithio da ym mhob rhan o'r bwrdd iechyd er mwyn helpu i sicrhau gwelliannau a hyrwyddo dysgu. Gwelsom nad oedd gan rai aelodau o'r staff lefelau digonol o hyfforddiant atal yn gorfforol ond eu bod wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau o'r fath. Felly, ni chawsom sicrwydd bod y staff a'r cleifion yn cael eu hamddiffyn a'u diogelu'n llawn rhag anafiadau. Ymdriniwyd â'n pryderon yn hyn o beth o dan ein proses sicrwydd ar unwaith sy'n gofyn bod camau brys yn cael eu cymryd er mwyn cadw cleifion yn ddiogel.

Nodwyd bod nifer mawr o swyddi gwag ar y ddwy ward ar adeg ein harolygiad. Dywedodd y rhan fwyaf o'r staff wrthym nad oedd digon o staff i'w galluogi i wneud eu gwaith yn iawn, yn eu barn nhw. Cadarnhaodd yr uwch-reolwyr fod cynnal lefelau staffio digonol yn her a'u bod yn dibynnu ar staff asiantaeth er mwyn lleihau'r pwysau ar staff.

Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones:

Mae'n gadarnhaol gweld ymrwymiad y staff i ddarparu gofal o safon uchel yn Uned Heddfan. Nododd ein harolygiad welliannau roedd angen eu gwneud ar unwaith. Mae'r bwrdd iechyd wedi llunio cynllun cynhwysfawr sy'n nodi camau gwella yn erbyn yr argymhellion eraill a wnaed gennym o ganlyniad i'n harolygiad. Bydd AGIC yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i barhau i fonitro cynnydd yn erbyn y cynllun hwn yn ofalus.