Mae ystod o ffynonellau gwybodaeth a ystyriwyd gan AGIC wedi nodi pryderon ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Gwnaethom adolygiad lleol oedd yn anelu at archwilio ansawdd y gwasanaethau iechyd meddwl a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Roedd ein hadolygiad yn canolbwyntio ar ac yn asesu ansawdd a diogelwch trefniadau rhyddhau ar gyfer cleifion sy'n oedolion (18-65) yn ôl i'r gymuned o unedau iechyd meddwl cleifion mewnol o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Y cwestiwn allweddol y bydd yr adolygiad yn ceisio ei ateb yw:
A yw'r trefniadau presennol ar gyfer rhyddhau cleifion o wasanaethau iechyd meddwl cleifion mewnol i'r gymuned yn cefnogi darparu gofal diogel, effeithiol ac amserol?
Drwy'r adolygiad, byddwn yn archwilio'r canlynol:
- Ansawdd y broses ryddhau, gan gynnwys cyfathrebu rhwng gwasanaethau cleifion mewnol a gwasanaethau cymunedol
- Digonolrwydd prosesau rheoli risg sy'n ymwneud â rhyddhau
- Sut mae cleifion yn cael eu cefnogi ar y pwynt rhyddhau, ac yn ystod y cyfnod ar ôl rhyddhau
- Trefniadau’r bwrdd iechyd ar gyfer monitro ansawdd ac effeithiolrwydd ei drefniadau rhyddhau
Er mwyn casglu tystiolaeth fel rhan o’n hadolygiad, bydd ein gwaith maes yn cynnwys:
- Cyfweliadau ag ystod o staff y bwrdd iechyd
- Cynnal hunanasesiad bwrdd iechyd
- Adolygiadau astudiaeth achos o gleifion a ryddhawyd o unedau cleifion mewnol iechyd meddwl o fewn y bwrdd iechyd
- Cynnal arolwg staff bwrdd iechyd ar gyfer unigolion sy’n ymwneud â’r broses rhyddhau cleifion, er mwyn sicrhau bod safbwyntiau a phrofiadau’n cael eu nodi
- Coladu safbwyntiau a phrofiadau cleifion, gan gynnwys unigolion a ddewiswyd fel rhan o’n hastudiaeth achos, yn ogystal â pherthnasau/gofalwyr drwy arolygon
- Adolygu a dadansoddi ystod o wybodaeth a data corfforaethol a gweithredol
- Ymgysylltu â sefydliadau rhanddeiliaid eraill, lle bo angen, drwy gydol ein hadolygiad
Mae’r adroddiad terfynol yr adolygiad isod.
Dogfennau
-
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Adolygiad Lleol o Drefniadau Rhyddhau Cleifion sy’n Oedolion o Wasanaethau Iechyd Meddwl Cleifion Mewnol – Cylch Gorchwyl , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 402 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:402 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
-
Adolygu Ansawdd y Trefniadau Rhyddhau o Unedau Iechyd Meddwl i Oedolion sy’n Gleifion Mewnol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 927 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:927 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
-
Cynllun gwella – Adolygiad o Drefniadau Rhyddhau Cleifion sy'n Oedolion o Wasanaethau Iechyd Meddwl Cleifion Mewnol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 434 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:434 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.