Neidio i'r prif gynnwy

Adolygwyr Cymheiriaid

Mae adolygwyr cymheiriaid yn weithwyr iechyd proffesiynol o ystod o arbenigeddau o bob rhan o Gymru.

Rydym yn recriwtio Adolygwyr Cymheiriaid

Rydym yn chwilio am adolygwyr yn yr arbenigeddau canlynol:

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni, llenwch y ffurflen gais berthnasol isod.

Mae Adolygwyr Cymheiriaid fel arfer yn ffurfio rhan o dîm amlddisgyblaethol ac mae eu gwybodaeth a’u harbenigedd yn sicrhau bod ein gwaith yn seiliedig ar arferion a phrofiad cyfredol. Mae'r gwaith hwn yn cael ei gwblhau naill ai'n bersonol neu o bell o bryd i'w gilydd.

Mae hyn yn ein helpu i dynnu sylw at arferion da ac atgyfnerthu a rhannu safonau gofal iechyd o fewn y GIG a'r sector gofal iechyd annibynnol ill dau er mwyn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd a gwasanaeth gwell i'r cleifion.

Rydym hefyd yn darparu rhaglen sefydlu gynhwysfawr a ddarperir o bell a chyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus. 

Patrwm Gwaith

Bydd adolygwyr cymheiriaid yn cael cytundeb fframwaith i ddarparu gwasanaethau ar sail hyblyg. O dan y trefniant hwn, nid oes unrhyw rwymedigaeth ar AGIC i gyhoeddi unrhyw aseiniadau ac nid oes unrhyw rwymedigaeth ar adolygwyr cymheiriaid i dderbyn aseiniadau. Byddwn yn cyhoeddi aseiniadau fel bo’r angen.

Mae bod yn Adolygydd Cymheiriaid werth chweil ac yn cynnig profiad gwych

 

Ydych chi erioed wedi meddwl sut brofiad yw gweithio gyda ni fel adolygydd cymheiriaid? Dewch i gwrdd â Melanie wrth iddi rannu ei phrofiad o weithio gyda ni.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Tîm Cymorth Arolygiadau yn AGIC.arolygu@llyw.cymru neu ffoniwch 0300 062 8163.