Neidio i'r prif gynnwy

Gwelwyd tystiolaeth o welliant yng ngwasanaeth mamolaeth Ysbyty'r Tywysog Siarl

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (1 Chwefror 2023) sy'n nodi gofal gwell yn Uned Mamolaeth Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful.

Ysbyty'r Tywysog Siarl - Gwasanaethau Mamolaeth

Cwblhaodd AGIC arolygiad dirybudd ar y safle o'r uned mamolaeth ar dri diwrnod olynol ym mis Medi 2022. Canfu'r arolygwyr fod y gofal mamolaeth a ddarparwyd wedi gwella ers ymweliad blaenorol AGIC yn 2019, ond bod rhai meysydd yr oedd angen rhoi sylw iddynt o hyd.

Gwelsom fod y staff yn ymrwymedig i ddarparu gofal o safon uchel i'r cleifion. Nododd y tîm arolygu nifer o enghreifftiau lle roedd y staff yn trin y cleifion a'u hanwyliaid mewn modd tosturiol, caredig a chyfeillgar. Dywedodd y rhan fwyaf o'r cleifion y gwnaethom siarad â nhw wrthym eu bod yn hapus ac yn cael gofal da yn yr ysbyty.

Argymhellodd yr arolygwyr y dylid gwneud gwelliannau i gofnodion y cleifion er mwyn sicrhau eu bod yn gynhwysfawr ac yn cydymffurfio â chanllawiau cenedlaethol, oherwydd gall dogfennaeth wael arwain at lefelau cynyddol o risg. Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch y lefelau staffio yn yr ardal brysbennu a oedd, ar y cyd â'r cynllun, yn ei gwneud hi'n anodd sicrhau nad oedd y cleifion yn cael eu gadael heb eu goruchwylio.

Gwelsom welliant yn ansawdd y rheolaeth a'r arweinyddiaeth ers yr arolygiad diwethaf. Fodd bynnag, tynnodd y staff sylw yn eu hadborth at bryderon ynghylch diwylliant y staff, a chafwyd nifer o sylwadau negyddol yn yr arolwg staff. Mae pwysau'r ymatebion negyddol yn yr arolwg yn pwysleisio'r angen am ymdrech a chamau gweithredu parhaus gan y tîm arwain i wella diwylliant a morâl yn y gwasanaeth, fel y gellir cynnal y gwelliannau a wnaed hyd yma, ac adeiladu arnynt.

Mae'r bwrdd iechyd wedi llunio cynllun sy'n cynnwys cyfres gynhwysfawr o gamau gweithredu i gefnogi gwelliannau pellach.

Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones:

Roedd yn galonogol gweld tystiolaeth bod y bwrdd iechyd wedi dechrau rhoi systemau a phrosesau ar waith i fynd i'r afael â'r meysydd i'w gwella a nodwyd yn ein harolygiad blaenorol. Roedd systemau a phrosesau penodol iawn ar waith i sicrhau bod yr ysbyty yn canolbwyntio ar wella ei wasanaethau'n barhaus.

Fodd bynnag, mae'r adborth a gafwyd gan y staff yn dangos bod angen i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wneud mwy i geisio ymgysylltu â'r staff er mwyn mynd i'r afael â'u pryderon a gwella diwylliant y gwasanaeth.

Rhaid mynd i'r afael â'r pryderon a nodwyd er mwyn sicrhau bod ansawdd y gofal a ddarperir yn parhau i wella. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r gwasanaeth er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau.

Arolygiad o Ysbyty: Gwasanaethau Mamolaeth – Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful

Adroddiad Cryno ar yr Arolygiad – Gwasanaethau Mamolaeth, Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful