Neidio i'r prif gynnwy

Canmol staff er gwaethaf pwysau yn Adran Achosion Brys Ysbyty Tywysoges Cymru

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (25 Ionawr 2023) yn nodi effaith llif cleifion ar y gofal a ddarperir yn yr adran achosion brys yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Gwelsom fod y cleifion yn cael lefel ddiogel o ofal ar y cyfan. Fodd bynnag, er gwaethaf ymdrechion gan y bwrdd iechyd, roedd heriau yn gysylltiedig â llif cleifion yn golygu nad oedd rhai cleifion yn cael gofal a thriniaeth amserol a'u bod yn treulio cyfnod hwy na'r disgwyl yn yr adran achosion brys.

Ysbyty Tywysoges Cymru - Adran Achosion Brys

Cwblhaodd AGIC arolygiad dirybudd o'r adran achosion brys ar dri diwrnod dilynol ym mis Hydref y llynedd. Yn ystod yr arolygiad ar y safle, roedd yn amlwg bod y staff yn gweithio'n galed i roi profiad cadarnhaol i'r cleifion, er gwaethaf y pwysau ar yr adran. Gwelwyd aelodau o'r staff yn rhoi gofal llawn parch, ac roedd y cleifion yn canmol y gwasanaeth roeddent yn ei gael ar y cyfan.

Mae AGIC yn ymwybodol o'r pwysau dwys a wynebir ledled Cymru ym maes gofal sylfaenol, gwasanaethau ambiwlans ac adrannau achosion brys. Fodd bynnag, roedd llif cleifion gwael yn yr adran a'r ysbyty ehangach yn effeithio ar ansawdd gofal cleifion. Ar adeg ein harolygiad, roedd 87 o gleifion a oedd yn ffit yn feddygol yn aros i gael eu rhyddhau o'r ysbyty gyda phecyn gofal priodol, gan amharu ar allu'r bwrdd iechyd i drosglwyddo cleifion o'r adran achosion brys i wardiau yn yr ysbyty mewn modd amserol.

Dangosodd ein canfyddiadau lefelau da o oruchwyliaeth glinigol mewn ardaloedd aros i gleifion a bod llwybrau clinigol yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Nododd AGIC feysydd i'w gwella, gan gynnwys preifatrwydd ac urddas cleifion, lle roedd coridorau a lolfeydd yn orlawn. Canfu'r arolygwyr fod meddyginiaethau yn cael eu rheoli'n briodol, ond roedd angen rhoi prosesau gwell ar waith i ddelio â gwastraff offer miniog, storio meddyginiaethau a gwaredu PPE.

Pan ofynnwyd iddynt, nododd y staff bod y tîm yn gynhwysol ac yn gefnogol, gan gyflwyno sylwadau cadarnhaol mewn perthynas â chymorth gan y rheolwyr a'r arweinwyr lleol. Fodd bynnag, nododd yr arolygiad y gallai'r gwasanaeth wella ei effeithiolrwydd o ran gweithredu ar adborth staff a llesiant y staff.

Mae'r bwrdd iechyd wedi llunio cynllun cynhwysfawr sy'n cynnwys camau gweithredu manwl o ran sut y caiff gwelliannau eu gwneud yn yr adran achosion brys.

Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones:

Mae pwysau cynyddol ar wasanaethau'r GIG, ac fel ym mhob ysbyty ledled Cymru, mae Ysbyty Tywysoges Cymru yn parhau i wynebu heriau eithriadol oherwydd galw cynyddol. Mae llif cleifion yn broblem a gaiff ei chydnabod yn genedlaethol, wedi'i hachosi gan bwysau ar bob rhan o'r system, ac mae AGIC yn cydnabod bod y bwrdd iechyd yn gweithio'n galed i ymdopi â'r heriau hyn. Yn yr achos hwn, mae'r dystiolaeth o'n harolygiad wedi rhoi cyfle i ni dynnu sylw at y systemau da sydd ar waith i sicrhau bod cleifion yn cael goruchwyliaeth glinigol effeithiol mewn ardaloedd aros, sy'n helpu i leihau'r risgiau i'r rheini sy'n aros am driniaeth.  Mae ein hadroddiad yn nodi rhai argymhellion penodol y mae angen i'r bwrdd iechyd ymdrin â nhw er mwyn gwneud gwelliannau pellach. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau.

Hydref 2022 – Adroddiad Cryno ar yr Arolygiad – Ysbyty Tywysoges Cymru, Bridgend

Hydref 2022 – Arolygiad Ysbyty, Adran Achosion Brys – Ysbyty Tywysoges Cymru, Bridgend