Neidio i'r prif gynnwy

Arolygiad yn nodi heriau yn y broses o reoli llif y cleifion a phwysau difrifol ar Adran Achosion Brys Ysbyty Maelor Wrecsam

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (3 Chwefror 2023) yn nodi'r heriau y mae'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn eu hwynebu. Daeth yr arolygiad i'r casgliad nad oedd y cleifion yn cael gofal diogel yn gyson, er ymdrechion y staff.

Ysbyty Maelor Wrecsam - Adran Achosion Brys

Cwblhaodd AGIC arolygiad dirybudd o'r adran achosion brys ar dri diwrnod dilynol ym mis Awst 2022.

Yn ystod yr arolygiad ar y safle, nododd AGIC nifer o feysydd lle roedd y pwysau a'r heriau yn yr adran yn arwain at gynnydd mewn risg i'r cleifion. Gwelodd yr arolygwyr fod rhai o'r cleifion wedi aros am dros 16 awr i feddyg eu gweld. Roedd system ar waith er mwyn helpu i ganfod dirywiad yng nghyflwr cleifion wrth iddynt aros i gael eu gweld gan feddyg. Fodd bynnag, roedd achlysuron pan nad oedd hyn digwydd yn ddigon aml i ddynodi achos o waethygu mewn ffordd amserol. Yn ystod yr arolygiad, nododd y tîm ddau achlysur pan ddylai cleifion a oedd yn cyrraedd gyda symptomau sepsis fod wedi cael eu huwchgyfeirio mewn ffordd fwy amserol. Fodd bynnag, derbyniodd y ddau glaf ofal priodol ac amserol ar ôl iddynt gael eu huwchgyfeirio.

Gwelsom fod pawb yn ymdrechu i frysbennu cleifion a oedd ar ambiwlansys a chawsant eu symud i'r adran cyn gynted â phosibl. Ar ôl iddynt gyrraedd yr adran, roedd y nifer fawr o gleifion a'r diffyg lle ar gyfer y nifer o bobl a oedd yn aros am ofal, ac a oedd yn ei dderbyn, yn her sylweddol. Mae'r brif ardal aros yn yr adran yn fach ac yn ystod yr arolygiad, roedd yn orlawn. Roedd y cleifion yn feirniadol o'r amseroedd aros ac ni chawsant eu diweddaru ar yr amseroedd aros yn dda na chael gwybod ble roeddent yn y ciw i gael eu gweld. Mewn rhannau eraill yn yr adran, roedd y lle ar gyfer asesu a thrin cleifion hefyd yn gyfyngedig, a oedd yn golygu bod ardaloedd arbenigol, megis ardaloedd triniaeth llygaid a thriniaeth iechyd meddwl yn cael eu defnyddio gan gleifion oedd ag anghenion gofal mwy cyffredinol. Dywedodd yr uwch-aelodau o'r staff wrthym fod cynlluniau yn cael eu llunio i gynyddu ôl-troed yr adran, ond nes y bydd y rhain yn cael eu rhoi ar waith bydd y lle yn parhau i greu her ddifrifol os bydd y galw yn parhau'n uchel.

Roedd y cleifion yn canmol y staff unwaith y cawsant eu gweld a'u trin ganddynt. Gwelsom staff cyfeillgar a phroffesiynol drwy'r adran a ddangosodd ymrwymiad i ddarparu gofal o ansawdd uchel i gleifion ac roeddent yn wybodus am anghenion y cleifion. Roedd dibyniaeth uchel ar staff asiantaeth adeg yr arolygiad. Roedd yr uwch-reolwyr i'w gweld yn yr adran ac roeddent yn aml yn gweithio mewn rôl glinigol i gefnogi'r staff.

Gwelsom fod y prif ardaloedd yn yr adran yn lân ac yn daclus a bod ardaloedd llif uchel a mannau cyswllt, gan gynnwys toiledau a dolenni drysau, yn cael eu glanhau'n rheolaidd ac i safon dda. Gwelsom hefyd fod mesurau atal a rheoli heintiau yn gadarn.

Mae'r bwrdd iechyd wedi llunio cynllun cynhwysfawr sy'n cynnwys camau gweithredu manwl o ran sut y caiff gwelliannau eu gwneud yn yr adran achosion brys.

Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones:

Mae'r pwysau ar wasanaethau'r GIG yn parhau i fod yn uchel iawn ac fel mewn arolygiadau eraill o Adrannau Achosion Brys rydym wedi eu cynnal, gwelsom dystiolaeth unwaith eto yn Ysbyty Maelor Wrecsam o wasanaeth sy'n ei chael hi'n anodd bodloni'r galw wrth gynnal diogelwch y cleifion.  Er fy mod yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad y staff sy'n gweithio'n ddiflino yn y gwasanaeth, mae ein hadroddiad yn nodi argymhellion penodol y mae angen i'r bwrdd iechyd ymdrin â nhw yn ddi-oed er mwyn gwella'r gwasanaeth. Mae hefyd yn bwysig iddynt barhau i geisio datrysiadau er mwyn rheoli heriau parhaus â llif cleifion. 

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau.