Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiadau ac adroddiadau cenedlaethol

Dewch o hyd i fanylion am ein hadolygiadau cenedlaethol, adroddiadau thematig ac eraill ar y dolenni isod

Rydym yn cyhoeddi amrywiaeth o adolygiadau cenedlaethol ac adroddiadau eraill bob blwyddyn.

Mae adolygiadau cenedlaethol yn ein helpu i werthuso’r ffordd y caiff gwasanaethau gofal iechyd eu darparu yng Nghymru.

Ansawdd Archwiliadau Iechyd Blynyddol ar gyfer Oedolion ag Anableddau Dysgu: Adolygiad o fynediad, ansawdd, profiadau a threfniadau dilynol

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi ymrwymo i gynnal adolygiad cenedlaethol sy'n cefnogi uchelgeisiau ei Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a'i rôl wrth ddarparu sicrwydd annibynnol ynghylch ansawdd, diogelwch ac effeithiolrwydd gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru. Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar ansawdd, hygyrchedd, cysondeb ac effaith yr Archwiliadau Iechyd Blynyddol a ddarperir i oedolion ag anableddau dysgu drwy wasanaethau meddygol cyffredinol yng Nghymru.

24 Tachwedd 2026
Monitro Gwasanaethau Iechyd Meddwl, Gwasanaethau Anableddau Dysgu a’r Ddeddf Iechyd Meddwl Adroddiad Blynyddol 2025-2026

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi ei Monitro Gwasanaethau Iechyd Meddwl, Gwasanaethau Anableddau Dysgu a’r Ddeddf Iechyd Meddwl Adroddiad Blynyddol 2025-2026, sy'n amlinellu themâu ein gwaith ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu ledled Cymru.

19 Tachwedd 2026
Pa mor effeithiol y caiff gwasanaethau ECT eu harwain, eu llywodraethu a'u cyflwyno ledled Cymru i ddarparu gofal diogel, cyson, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn?

Bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cynnal adolygiad o wasanaethau therapi electrogynhyrfol (ECT) ledled Cymru. Bydd yr adolygiad yn rhoi sicrwydd annibynnol ynghylch ansawdd, diogelwch, effeithiolrwydd a llywodraethu gwasanaethau ECT, gan nodi cyfleoedd ar gyfer gwella, dysgu ar lefel genedlaethol a darparu gwasanaethau yn fwy cyson.

28 Hydref 2026
Gweithgarwch Sicrwydd â Phwyslais Penodol: Diogelu Plant ym Myrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG Cymru

Mae'r Cylch Gorchwyl hwn yn amlinellu dull sicrwydd â phwyslais penodol AGIC i ddiogelu plant ym Myrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG Cymru.

29 Gorffennaf 2026
Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid - Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2024–2025

Dyma adroddiad monitro blynyddol Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ar ddefnyddio Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) yng Nghymru.

26 Mawrth 2026
Monitro Gwasanaethau Iechyd Meddwl, Gwasanaethau Anableddau Dysgu a’r Ddeddf Iechyd Meddwl Adroddiad Blynyddol 2024-2025

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi ei Monitro Gwasanaethau Iechyd Meddwl, Gwasanaethau Anableddau Dysgu a’r Ddeddf Iechyd Meddwl Adroddiad Blynyddol 2024-2025, sy'n amlinellu themâu ein gwaith ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu ledled Cymru.

20 Tachwedd 2025
Rydym wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol ar Fonitro Iechyd Meddwl 2023-24

Darllenwch y canfyddiadau o ein arolygiadau ysbytai iechyd meddwl, anabledd dysgu a’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn ystod 2023-2024.

31 Ionawr 2025
Ysbytai Iechyd Meddwl, Ysbytai Anableddau Dysgu a Monitro y Ddeddf Iechyd Meddwl Adroddiad Blynyddol 2022-2023

Darllenwch y canfyddiadau o ein arolygiadau ysbytai iechyd meddwl, anabledd dysgu a’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn ystod 2022-2023.

26 Ionawr 2024
Adolygiad Cymru Gyfan o Benderfyniadau Na Cheisier Dadebru Cardio-anadlol (DNACPR)

Nod ein hadolygiad yw ystyried yr arferion sydd ar waith pan gaiff penderfyniadau DNACPR eu cymhwyso at gleifion sy'n oedolion (dros 18 oed), ac a gaiff safbwyntiau ac ystyriaethau cleifion eu parchu.

30 Hydref 2023
Adolygiad Cenedlaethol o Lif Cleifion: taith drwy'r llwybr strôc

Yn ei gynllun gweithredol ar gyfer 2021-22, gwnaeth AGIC ymrwymo i raglen adolygu sy'n ystyried y risgiau a'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau iechyd wrth iddynt barhau gyda'u hymateb i'r pandemig ac adfer ar ei ôl. O ganlyniad, rydym wedi penderfynu ymgymryd ag adolygiad cenedlaethol o lif cleifion

7 Medi 2023