Neidio i'r prif gynnwy

Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid - Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2024–2025

Dyma adroddiad monitro blynyddol Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ar ddefnyddio Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) yng Nghymru.

Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Iechyd 2024-2025

 

Mae’r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) yn darparu fframwaith cyfreithiol o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 i amddiffyn unigolion nad oes ganddynt alluedd ac sy’n cael eu hamddifadu o ryddid mewn cartrefi gofal neu ysbytai. Cafodd y trefniadau diogelu hyn eu cyflwyno yn 2009 a’u hehangu yn sgil dyfarniad Gorllewin Swydd Gaer ym mis Mawrth 2014, a’u nod yw sicrhau bod trefniadau o’r fath yn gyfreithlon ac er lles pennaf yr unigolyn.

 

Canfyddiadau allweddol

  • Cafwyd cynnydd o 10% (1,165) yn nifer y ceisiadau a dderbyniwyd gan awdurdodau lleol yn ystod 2024–2025, a chafwyd cynnydd o 23% (1,739) yn nifer y ceisiadau i fyrddau iechyd.
  • Mae oedi parhaus wrth ddyrannu, asesu, ac awdurdodi ceisiadau DoLS yn golygu bod llawer o unigolion yng Nghymru yn dal i gael eu hamddifadu o’u rhyddid mewn ffordd anghyfreithlon, heb drefniadau diogelu na hawliau cyfreithiol Heb ddiwygiadau brys, mae’r methiannau systemig hyn yn debygol o barhau, gan wadu’r amddiffyniadau y mae gan bobl agored i niwed yr hawl iddynt.
  • Cafwyd cynnydd o 15% (862) yn nifer y ceisiadau a aseswyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru a chafodd 3,048 o geisiadau eu hasesu gan Fyrddau Iechyd, sef cynnydd o 12% (352).
  • Rhaid i’r cyfnod o amser y mae’n ei gymryd i awdurdodau lleol a byrddau iechyd asesu ceisiadau wella, gan na chaiff llawer o geisiadau eu hasesu o fewn y cyfnodau statudol.
  • Mae llawer o awdurdodiadau brys yn dod i ben o hyd cyn y gellir cynnal yr asesiadau DoLS gofynnol. Dylai rhai awdurdodau lleol adolygu eu gweithdrefnau presennol ar gyfer awdurdodiadau brys gyda’r awdurdodau rheoli.
  • Mae llawer o awdurdodau lleol yn wynebu heriau o hyd wrth ddyrannu nifer y ceisiadau a geir am awdurdodiadau pellach. Mae hyn yn cynyddu’r risg y caiff pobl eu hamddifadu o’u rhyddid heb amddiffyniad parhaus y trefniadau diogelu. Rhaid i bob corff goruchwylio sicrhau y caiff hawliau pobl eu hamddiffyn, ac y caiff yr asesiadau ar gyfer pob cais eu cynnal o fewn y nifer o ddiwrnodau a nodir yn y Cod Ymarfer.
  • Mae defnydd awdurdodau lleol a byrddau iechyd o amodau yn amrywio, gyda rhai rhanbarthau yn eu defnyddio’n fwy
    nag eraill. Dylai Cyrff Goruchwylio barhau i sicrhau y caiff amodau eu defnyddio lle bo angen a’u bod yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i bobl, gan gynnwys lleihau neu roi’r gorau i’r amddifadu.
  • Caiff y rhan fwyaf o bobl eu cefnogi a’u cynrychioli o hyd mewn materion sy’n ymwneud â’u hamddifadu o’u rhyddid. Mae hyn yn ymarfer cadarnhaol.
  • Mae’r broses ar gyfer cofnodi ethnigrwydd yn annigonol o hyd ac mae’n rhaid ymdrin â hyn, gan nad yw 22% o geisiadau i awdurdodau lleol ac 11% o geisiadau i fyrddau iechyd yn cofnodi ethnigrwydd yr ymgeisydd. Heb ddata ethnigrwydd cyson a chyflawn, nid oes modd asesu a oes effaith anghymesur ar rai grwpiau penodol neu a yw rhai grwpiau penodol o dan fwy o anfantais nag eraill.

Dogfennau