Mae'r Cylch Gorchwyl hwn yn amlinellu dull sicrwydd â phwyslais penodol AGIC i ddiogelu plant ym Myrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG Cymru.

Diben
Mae'r Cylch Gorchwyl hwn yn amlinellu dull sicrwydd â phwyslais penodol AGIC i ddiogelu plant ym Myrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG Cymru. Mae'n cyd-fynd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru, sy'n nodi rolau a chyfrifoldebau hollbwysig ymarferwyr ac arweinwyr i sicrhau eu bod yn diogelu plant ac oedolion sy'n wynebu risg o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso.
Mae'r gweithgarwch hwn yn dilyn ac yn ystyried amrywiaeth o weithgareddau sicrwydd cysylltiedig ag arolygiaethau partner, gan gynnwys Arolygiadau ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA) (2019-2024) a'r Adolygiad Cyflym o Drefniadau Amddiffyn Plant. I gefnogi canfyddiadau'r gweithgareddau hyn ac er mwyn cydgysylltu ag adolygiad a gynhelir gan arolygiaethau partner (AGC, Estyn, Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi ac AGIC) yn 2026-27, byddwn yn sicrhau bod yr adolygiad hwn yn canolbwyntio ar Adran 5 o Weithdrefnau Diogelu Cymru sy'n ymwneud â honiadau neu bryderon am ymarferwyr sy'n dod i gysylltiad â phlant fel rhan o'u rôl yn yr amgylchedd gofal iechyd.
Trosolwg o'r Fethodoleg
Bydd y gwaith hwn yn dilyn model sicrwydd tri cham:
- Cam 1: Ymarfer Casglu Tystiolaeth
- Cam 2: Adolygu Tystiolaeth a Chyfweliadau
- Cam 3: Cyfweliadau Dilynol
Cam 1 – Adolygu Gwybodaeth ac Ymarfer Casglu Tystiolaeth (Mai- Mehefin 2026)
Byddwn yn creu adnodd casglu tystiolaeth i bob sefydliad ei gwblhau. Bydd y cais hwn yn cael ei gyfeirio at uwch-aelodau o staff a thimau diogelu corfforaethol a bydd yn llywio sylfaen bwysig i'n canfyddiadau. Bydd y cais yn cynnwys casglu'r wybodaeth ganlynol:
- Trefniadau pob sefydliad ar gyfer derbyn, rheoli ac uwchgyfeirio pryderon diogelu am unigolion mewn swyddi o ymddiriedaeth.
- Trefniadau llywodraethu a goruchwylio ar gyfer pryderon diogelu, yn benodol honiadau Adran 5.
- Y ffordd y mae pob sefydliad yn rhoi sicrwydd iddo'i hun fod staff yn gymwys, yn hyderus, ac yn cael eu cefnogi i ymateb i bryderon diogelu yn unol â'u rolau.
- Y ffordd y mae pob sefydliad yn sicrhau bod unigolion yn addas i weithio gyda phlant wrth eu recriwtio a thrwy gydol eu cyflogaeth.
- Y ffordd y mae pob sefydliad yn nodi, yn dadansoddi ac yn ymateb i wersi a ddysgwyd o ymarfer diogelu, gan gynnwys honiadau Adran 5.
- Y ffordd y mae profiad bywyd plentyn, gan gynnwys ei gyfranogiad a'r ffordd y caiff ei farn a'i ddymuniadau eu cofnodi a'u defnyddio i ddylanwadu ar benderfyniadau a chamau gweithredu mewn perthynas â diogelu, lle ystyrir ei fod yn briodol gwneud hynny gan y Swyddog Dynodedig.
Cam 2 – Adolygu Tystiolaeth a Chyfweliadau (Gorffennaf 2026)
Ar ôl cael y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod cam 1 a'i hadolygu, byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i lywio ein cyfweliadau â phob sefydliad. Nod y cyfweliadau yw adeiladu ar y dystiolaeth a ddarparwyd a nodi themâu allweddol, gan gynnwys enghreifftiau o ymarfer da ac ymarfer sy'n datblygu. Bydd y pynciau a'r llinellau ymholi allweddol yn werthusol eu natur ac yn canolbwyntio ar y meysydd a nodwyd yn ystod cam 1.
Cam 3 – Cyfweliadau Dilynol (Gorffennaf-Awst 2026)
Bydd cyfweliadau dilynol yn cael eu trefnu gydag arweinwyr diogelu o sampl o Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau. Bydd pynciau a llinellau ymholi allweddol yn cynnwys llwybrau adrodd ac uwchgyfeirio; rheoli honiadau yn fewnol, gan gynnwys achosion lle na chaiff trothwyon eu cyrraedd; cymryd rhan mewn trafodaethau am strategaeth, prosesau gwneud penderfyniadau a gweithio amlasiantaethol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys atgyfeiriadau at y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a rheoleiddwyr proffesiynol perthnasol.
Bydd yn ofynnol i bob sefydliad ddarparu tystiolaeth ddogfennol a data i gefnogi'r camau uchod.
Allbynnau
- Crynodeb thematig cenedlaethol yn nodi'r gwersi a ddysgwyd ledled Cymru, risgiau systemig ac enghreifftiau o arferion da
- Llythyrau adborth ar gyfer sefydliad penodol lle nodwyd gwersi a ddysgwyd yn lleol neu enghreifftiau o arfer da.
Diogelu Data
Mae'r adolygiad hwn yn rhan o waith AGIC i roi sicrwydd annibynnol ar ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru. Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Rhan II, Pennod 4) yn rhoi'r pŵer i AGIC gynnal arolygiadau, adolygiadau ac ymchwiliadau mewn perthynas â'r GIG neu wasanaethau a ddarperir ar ran y GIG. Mae'r cylch gorchwyl hwn yn nodi ein dull bwriadedig o gynnal yr adolygiad.
Pan fyddwn yn prosesu data personol, byddwn yn gwneud hynny yn unol â deddfwriaeth diogelu data, gan gynnwys Deddf Diogelu Data 2018 a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Ceir rhagor o wybodaeth yn hysbysiad preifatrwydd AGIC sydd ar gael ar ein gwefan https://www.agic.org.uk/polisi-preifatrwydd.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod yr adolygiad hwn yn cynnwys gwybodaeth sensitif am unigolion sy'n destun pryderon proffesiynol ac unigolion, rhanddeiliaid ac ymchwiliadau trydydd parti eraill. Byddwn yn sicrhau'r canlynol:
- Bod AGIC a'r Byrddau Iechyd / Ymddiriedolaethau yn defnyddio system anfon negeseuon ddiogel Objective Connect fel eu dull diofyn o gyflwyno tystiolaeth.
- Y caiff ein canfyddiadau eu cyflwyno mewn crynodeb thematig cenedlaethol ac y cymerir gofal i sicrhau na ellir adnabod unigolion a Byrddau Iechyd / Ymddiriedolaethau unigol.
Dogfennau
-
Diogelu Plant yn GIG Cymru - Cylch Gorchwyl - Hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 694 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:694 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.