Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Llawfeddygol

Rydym yn arolygu theatrau i sicrhau eu bod yn ddiogel i gleifion sy’n cael triniaeth lawfeddygol.

Mae ein arolygiadau llawfeddygol wedi'u llunio i ganolbwyntio ar y claf. Mae ein harolygwyr lleyg yn mynd ar yr un daith â chlaf drwy'r llwybrau llawdriniaeth drawma ac orthopedig. Mae hyn yn ymwneud â dilyn claf o pan fydd yn cael ei dderbyn ar y ward, i'r theatr, ac yna yn ôl o'r theatr i'r ward. Gall ein harolygwyr lleyg weld llwybr y driniaeth drwy lygaid y claf.
 

Mae ein harolygwyr lleyg yn edrych ar y broses o gleifion yn ymprydio yn yr ysbyty, i wirio nad yw cleifion yn dioddef diffyg hylif am gyfnod rhy hir na chyfnod rhy fyr. Maent hefyd yn edrych ar arferion cydsynio, i wirio a yw cleifion yn derbyn yr wybodaeth gywir ynghylch eu hopsiynau triniaeth gwahanol, ac nid y llawdriniaeth yn unig.
 

Mae ein arolygiad llawfeddygol yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Llawdriniaeth drawma (llawdriniaeth ar frys ar yr esgyrn)
  • Llawdriniaeth orthopedig ddewisol (llawdriniaeth a gynlluniwyd ar yr esgyrn)
  • Y Safonau Diogelwch Cenedlaethol ar gyfer Gweithdrefnau Mewnwthiol neu NatSSIPs (gwiriadau a phrosesau diogelwch yn ystod llawdriniaeth).


Rydym yn edrych ar y gofal y mae claf yn ei dderbyn cyn cael llawdriniaeth, yn ystod y llawdriniaeth, ac ar ôl cael llawdriniaeth. 

Nid yw ein harolygiadau llawfeddygol yn edrych ar y theatr llawdriniaeth yn unig, ond ar y llwybr y mae'r claf yn ei gymryd.

  • Clinig llawfeddygol i gleifion allanol – mae’r penderfyniad i barhau â llawdriniaeth yn cael ei bennu yma.
  • Clinig cyn-asesu – mae gwiriadau i sicrhau bod claf yn ddigon iach i gael llawdriniaeth yn digwydd yma.
  • Ward llawdriniaeth orthopedig cyn ac ar ôl llawdriniaeth – un ward trawma argyfwng ac un ward llawdriniaeth orthopedig ddewisol.
  • Theatr llawdriniaeth – yn benodol, un theatr trawma ac un theatr llawdriniaeth orthopedig ddewisol os yn bosibl.

Llawdriniaeth cwympau, eiddilwch a thoriadau

Yn aml, gall cleifion sy'n syrthio a thorri eu hesgyrn fod yn gleifion eiddil oedrannus sydd â nifer o gyflyrau meddygol cysylltiedig sydd angen eu rheoli cyn ac ar ôl cael llawdriniaeth frys. O ganlyniad, mae'n ofynnol i'r gofal sydd ei angen arnynt i wella fod yn gynhwysfawr ac yn ymwneud â mwy nag, er enghraifft, gwella clun yn unig. Gall arbenigwyr o wasanaethau gofal yr henoed, gwasanaethau poen, gwasanaethau ffisiotherapi, gwasanaethau gofal cymdeithasol, timau trawma, anesthetyddion a llawfeddygon i gyd fod yn rhan o'r broses yn ogystal â theulu a gofalwyr y claf.

Rydym yn edrych yn benodol ar y cleifion eiddil oedrannus sydd angen llawdriniaeth drawma – ar y ward ac mewn theatrau.

Llwybr llawdriniaeth orthopedig (esgyrn) ddewisol (a gynlluniwyd) 

Dylai cleifion sy'n derbyn triniaeth a gynlluniwyd ar eu hesgyrn, megis gosod clun neu ben-glin newydd, gael eu paratoi yn briodol fel bod popeth yn rhedeg yn llyfn. Mae gwella'n gyflymach yn ddull modern, seiliedig ar dystiolaeth, o ddarparu gofal llawfeddygol sy'n helpu pobl i wella'n gyflym ar ôl cael llawdriniaeth fawr. Mae'n arbennig o bwysig mewn perthynas â llawdriniaeth ar y glun neu'r pen-glin, er mwyn atal cleifion rhag aros yn hirach, ac mae hefyd yn galluogi cleifion i ymdopi'n well yn emosiynol ac yn gorfforol â'r straen sydd ynghlwm wrth lawdriniaeth.

Disgwylir gweld llwybr adfer uwch cynhwysfawr ar gyfer llawdriniaeth ar y glun a'r pen-glin ac rydym yn edrych ar y llwybr hwn yn benodol.

Safonau Diogelwch Cenedlaethol ar gyfer Gweithdrefnau Mewnwthiol (NatSSIPs)

Mae diogelwch cleifion yn hanfodol o fewn theatrau. Mae safonau gofal wedi cael eu cyhoeddi yn ddiweddar, gyda’r nod o atal llawdriniaethau yn y lle anghywir, gosod mewnblaniadau anghywir, a gadael darnau estron yn y corff ar ôl llawdriniaeth. Mae’r Safonau Diogelwch Cenedlaethol ar gyfer Gweithdrefnau Mewnwthiol yn gosod gofynion gweithlu theatrau llawdriniaeth hefyd, safonau amserlennu rhestrau theatrau, dogfennaeth weithdrefnol a safonau camau diogelwch hanfodol. Byddwn yn edrych yn fanwl ar y safonau hyn o fis Medi 2017 ymlaen, pan fydd y cyfnod gweithredu ar gyfer y safonau hyn yn mynd rhagddo.