Neidio i'r prif gynnwy

Adolygydd Cymheiriaid o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl - Manyleb Swydd

Mae Adolygwyr Cymheiriaid fel arfer yn ffurfio rhan o dîm amlddisgyblaethol ac mae eu gwybodaeth a’u harbenigedd yn sicrhau bod ein gwaith yn seiliedig ar arferion a phrofiad cyfredol. Mae'r gwaith hwn yn cael ei gwblhau naill ai'n bersonol neu o bell o bryd i'w gilydd.

Dyddiad Cau: 31 Mawrth

AGIC yw arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru. Rydym yn arolygu gwasanaethau'r GIG ac yn rheoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol yn erbyn amrywiaeth o safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau er mwyn nodi meysydd y mae angen eu gwella.

Manylion y swydd wag

Sefydliad: Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Rôl: Adolygydd Cymheiriaid o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl

Cyflog: £275 y dydd, gan gynnwys taliad ar gyfer amser teithio a threuliau teithio a chynhaliaeth

Hyd: Tair blynedd

Diben y swydd

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn arolygu gwasanaethau'r GIG ac yn rheoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol yn erbyn amrywiaeth o safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau er mwyn nodi meysydd y mae angen eu gwella.

Er mwyn i Wasanaeth Adolygu ar gyfer Iechyd Meddwl AGIC gyflawni ei brif swyddogaeth, sef sicrhau bod triniaeth yn gyfreithlon ac yn cael ei darparu mewn ffordd sy'n cynnal urddas a pharch yr unigolyn, mae'r gwasanaeth yn defnyddio arbenigedd Adolygwyr Cymheiriaid o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl (Adolygwyr).

Mae ein Hadolygwyr yn ymweld ag unigolion sy'n ddarostyngedig i bwerau Deddf Iechyd Meddwl 1983 mewn lleoliadau Iechyd Meddwl ledled Cymru, ac yn siarad â'r unigolion hynny. Mae ein Hadolygwyr yn asesu addasrwydd yr amgylchedd, yn siarad ag amrywiaeth o aelodau o staff ac yn adolygu dogfennaeth statudol cleifion sy'n cael eu cadw er mwyn cadarnhau'r canlynol:

  • A yw'r claf yn cael ei gadw'n unol â Deddf Iechyd Meddwl 1983
  • A yw canllawiau Cod Ymarfer Iechyd Meddwl Cymru 2016 wedi cael eu dilyn 
  • Ansawdd profiad y claf
  • Bod gofal diogel ac effeithiol yn cael ei ddarparu
  • Ansawdd arweinyddiaeth a rheolaeth.

Bydd AGIC yn defnyddio gwybodaeth a sgiliau'r Adolygydd i sicrhau bod ein gwaith yn seiliedig ar ymarfer a phrofiad cyfredol. Mae hyn yn ein helpu i amlygu ymarfer da o fewn y GIG a'r Sector Gofal Iechyd Annibynnol sy'n rhoi sicrwydd i'r cyhoedd ac yn arwain at well gwasanaethau i gleifion.

Tasgau allweddol

  • Gweithio gydag AGIC gyda chymorth a chyfarwyddyd gan staff AGIC
  • Teithio ledled Cymru i arolygu'r amgylchedd ffisegol, polisïau / gweithdrefnau, cyfarpar, tystysgrifau, cofnodion cleifion a chofnodion eraill.
  • Cynnal cyfweliadau â staff a chleifion
  • Rheoli amser yn effeithiol er mwyn sicrhau eich bod wedi paratoi'n llawn ar gyfer yr ymweliad arolygu a darllen gwybodaeth cyn yr arolygiad ac adroddiadau arolygu blaenorol
  • Ymateb i unrhyw faterion sy'n peri pryder fel y bo'n briodol drwy drafod ag Arolygydd Gofal Iechyd AGIC
  • Gwneud arsylwadau ac argymhellion yn seiliedig ar eich barn broffesiynol eich hun, gan ystyried buddiannau cleifion, a'r broses o roi unrhyw ganllawiau statudol a deddfwriaeth berthnasol ar waith
  • Gwneud cofnod o'ch canfyddiadau yn ystod yr ymweliad gan ddefnyddio'r adnoddau arolygu a chyfrannu at y cyfarfod adborth ar ddiwedd yr arolygiad gan ddefnyddio'r dystiolaeth a gasglwyd 
  • Adolygu adroddiadau arolygu a gwneud sylwadau arnynt er mwyn sicrhau cywirdeb cyn eu cyhoeddi
  • Cynnal ymweliadau arolygu dilynol byrrach â phwyslais penodol (yn ôl yr angen)
  • Dangos parch tuag at amrywiaeth a dinasyddiaeth staff/cleifion a dealltwriaeth ohonynt. 
  • Mynychu unrhyw hyfforddiant sefydlu a hyfforddiant y cred AGIC ei fod yn angenrheidiol
  • Gweithredu fel llysgennad ar ran AGIC drwy hyrwyddo gwaith yr Arolygiaeth a rhannu arferion gorau.
  • Cymryd rhan yn y broses o greu a diwygio dogfennaeth methodoleg arolygu (yn ôl y gofyn).

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

Meini prawf hanfodol

  • Hyfforddiant cyfredol mewn perthynas â Deddf Iechyd Meddwl 1983; Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010; Y Ddeddf Galluedd Meddyliol, Cod Ymarfer Iechyd Meddwl Cymru 2016 a'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid
  • Profiad ymarferol o roi Deddf Iechyd Meddwl 1983 ar waith a'i chymhwyso mewn lleoliadau gofal iechyd
  • Profiad ymarferol o roi Cod Ymarfer Iechyd Meddwl Cymru (2016) ar waith a'i gymhwyso 
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig rhagorol 
  • Ymrwymiad amlwg i gydraddoldeb ac amrywiaeth
  • Sgiliau rhyngbersonol a sgiliau gwrando rhagorol
  • Ymagwedd broffesiynol iawn sy’n canolbwyntio ar y claf, ynghyd â gwerthoedd cryf o ran gofal diogel, tosturiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Sgiliau arsylwi, asesu a dadansoddi rhagorol 
  • Dealltwriaeth gryf o bwysigrwydd cyfrinachedd a diogelu data
  • Y gallu i weithio'n effeithiol ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm
  • Y gallu i ddefnyddio amrywiaeth o becynnau TG.

 

Meini prawf dymunol

  • Cymhwyster Iechyd Meddwl cydnabyddedig
  • Profiad blaenorol o archwilio ac arolygu
  • Rhywfaint o ddealltwriaeth o amcanion a blaenoriaethau AGIC.

Cyfleoedd datblygu

Fel Adolygydd Cymheiriaid, byddwch yn meithrin profiad arolygu ac adolygu a byddwch yn gwella eich sgiliau dadansoddi, drafftio, gweithio mewn tîm a chyfathrebu. 

Mae gweithio gydag AGIC yn rhoi cyfle i Adolygwyr Cymheiriaid drosglwyddo arferion da i'w meysydd gwaith eu hunain.

Bydd diwrnodau sefydlu a/neu hyfforddiant a gynigir i adolygwyr cymheiriaid yn cael eu neilltuo ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).

Y Gymraeg

Mae AGIC yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei gweithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Bydd Adolygwyr o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn destun gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). 

Gwybodaeth Ychwanegol

Patrwm Gwaith

Rhoddir cytundeb fframwaith i Adolygwyr Cymheiriaid o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl er mwyn darparu gwasanaethau ar sail hyblyg, gan gynnwys gweithio y tu allan i oriau.  O dan y trefniant hwn, nid oes unrhyw rwymedigaeth ar AGIC i gynnig unrhyw aseiniadau ac nid oes unrhyw rwymedigaeth ar Adolygwyr Cymheiriaid o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl i dderbyn aseiniadau.  Bydd AGIC yn cynnig aseiniadau pan fydd angen gwasanaethau. 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Cymorth Arolygiadau AGIC yn AGIC.arolygu@llyw.cymru neu ffoniwch 0300 062 8163.

Sut i wneud cais

Anfonwch e-bost i AGIC.arolygu@llyw.cymru i ofyn am ffurflen gais.

Os oes angen y ffurflen gais arnoch mewn fformat neu iaith wahanol, cysylltwch â ni:

AGIC.arolygu@llyw.cymru 

0300 062 8163