Mae Adolygwyr Cymheiriaid fel arfer yn ffurfio rhan o dîm amlddisgyblaethol ac mae eu gwybodaeth a’u harbenigedd yn sicrhau bod ein gwaith yn seiliedig ar arferion a phrofiad cyfredol. Mae'r gwaith hwn yn cael ei gwblhau naill ai'n bersonol neu o bell o bryd i'w gilydd.
Dyddiad Cau: 31 Mawrth

Manylion y swydd wag
Sefydliad: Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Rôl: Adolygydd Cymheiriaid ar gyfer Nyrsys Plant
Cyflog: £275 y dydd, a threuliau teithio a chynhaliaeth
Hyd: Tair blynedd gyda'r posibilrwydd o estyniad
Diben y swydd
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn arolygu gwasanaethau'r GIG ac yn rheoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol yn erbyn amrywiaeth o safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau er mwyn nodi meysydd y mae angen eu gwella.
Fel Adolygydd Cymheiriaid , byddwch yn cydweithio ag AGIC i gynnal arolygiadau mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol acíwt ledled Cymru.
Bydd AGIC yn defnyddio eich gwybodaeth a'ch sgiliau i sicrhau bod ein gwaith yn seiliedig ar ymarfer a phrofiad cyfredol. Mae hyn yn ein helpu i amlygu ymarfer da ac i atgyfnerthu a rhannu Safonau Gofal Iechyd o fewn y GIG a'r Sector Gofal Iechyd Annibynnol er mwyn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd a gwella gwasanaethau i gleifion.
Tasgau allweddol
- Cydweithio fel rhan o dîm arolygu, gyda chymorth ac arweiniad gan staff AGIC.
- Teithio ledled Cymru i arolygu gwasanaethau gofal iechyd, gan gynnwys yr amgylchedd ffisegol, polisïau a gweithdrefnau, cyfarpar, ardystiadau, cofnodion cleifion a dogfennau perthnasol eraill.
- Cynnal cyfweliadau â staff a chleifion.
- Rheoli amser yn effeithiol, gan gynnwys paratoi ar gyfer ymweliadau arolygu drwy adolygu gwybodaeth cyn yr arolygiad ac adroddiadau blaenorol.
- Mynd i'r afael â materion sy'n peri pryder yn briodol drwy ymgynghori ag Arolygydd Gofal Iechyd AGIC.
- Gwneud arsylwadau ac argymhellion yn seiliedig ar farn glinigol a phroffesiynol, gan ystyried y rhesymeg glinigol, safbwyntiau cleifion, a chydymffurfiaeth â'r rheoliadau a'r safonau perthnasol.
- Cadw cofnodion cywir a chynhwysfawr o'ch canfyddiadau gan ddefnyddio adnoddau arolygu, a chyfrannu at gyfarfodydd adborth ar ddiwedd arolygiadau.
- Adolygu a rhoi sylwadau ar adroddiadau arolygu drafft cyn iddynt gael eu cyhoeddi i sicrhau cywirdeb.
- Cynnal ymweliadau arolygu dilynol byrrach â phwyslais penodol yn ôl yr angen.
- Cyfrannu at y broses o ddatblygu a diwygio dogfennaeth methodoleg arolygu pan fo angen.
- Dangos parch tuag at amrywiaeth a chynnal hawliau ac urddas y staff, y cleifion ac eraill.
- Mynychu hyfforddiant sefydlu ac unrhyw hyfforddiant y cred AGIC ei fod yn angenrheidiol.
- Gweithredu fel llysgennad ar ran AGIC drwy hyrwyddo gwaith yr Arolygiaeth a rhannu arferion gorau.
Meini Prawf Penodol i'r Swydd
Meini Prawf Hanfodol
- Cofrestriad cyfredol dilys â'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
- Tystiolaeth gyfredol eich bod wedi cwblhau holl gyrsiau gorfodol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a'ch bod yn cydymffurfio â nhw, gan gynnwys (ymhlith eraill): Atal a Rheoli Heintiau, Llywodraethu Gwybodaeth, Diogelu (ar y lefel briodol ar gyfer eich rôl), Codi a Chario a'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid.
- Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).
- Profiad a dealltwriaeth gadarn o lywodraethu clinigol, gan gynnwys gweithredu a monitro safonau clinigol a phroffesiynol yn effeithiol.
- Profiad o brosesau rheoli risg, gan gynnwys rhoi gwybod am ddigwyddiadau ac ymdrin â chwynion.
- Sgiliau ysgrifennu adroddiadau cadarn.
- Ymrwymiad amlwg i gydraddoldeb ac amrywiaeth.
- Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a gwrando rhagorol.
- Ymagwedd broffesiynol iawn sy’n canolbwyntio ar y claf, wedi'i hategu gan werthoedd gofal diogel, tosturiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
- Sgiliau arsylwi, asesu a dadansoddi cadarn.
- Y gallu i weithio'n effeithiol yn annibynnol ac fel rhan o dîm.
- Yn gallu defnyddio amrywiaeth o systemau a dyfeisiau TG yn annibynnol.
Meini Prawf Dymunol
- Profiad o weithio gydag unigolion agored i niwed.
- Cyfraniad blaenorol at brosesau arolygu, archwilio neu sicrhau ansawdd.
- Gwybodaeth am amcanion a blaenoriaethau AGIC a dealltwriaeth ohonynt.
Cyfleoedd datblygu
Bydd Adolygwyr Cymheiriaid yn meithrin profiad gwerthfawr o brosesau arolygu ac adolygu, wrth iddynt wella eu sgiliau dadansoddi, drafftio, gweithio mewn tîm a chyfathrebu.
Mae gweithio gydag AGIC yn cynnig cyfle i Adolygwyr Cymheiriaid drosglwyddo'r arferion gorau i'w sefydliadau eu hunain.
Er mwyn cefnogi'r rôl hon, bydd Adolygwyr Cymheiriaid yn cael hyfforddiant sefydlu, diwrnodau hyfforddiant penodedig a sesiynau sgwrsio rheolaidd, a fydd oll yn cyfrannu at eu Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).
Y Gymraeg
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cydnabod gwerth datblygu ac atgyfnerthu ei gweithlu dwyieithog. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr a all ddangos eu bod yn gallu gweithio'n hyderus yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Bydd Adolygwyr Cymheiriaid yn destun gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Gwybodaeth Ychwanegol
Patrwm Gwaith
Bydd Adolygwyr Cymheiriaid yn cael eu cyflogi o dan drefniant fframwaith, sy'n caniatáu i wasanaethau gael eu darparu mewn ffordd hyblyg, gan gynnwys gweithio y tu allan i oriau. O dan y trefniant hwn, nid oes unrhyw rwymedigaeth ar AGIC i gynnig aseiniadau ac nid oes unrhyw rwymedigaeth ar Adolygwyr Cymheiriaid i'w derbyn. Caiff aseiniadau eu cynnig gan AGIC pan fydd angen y gwasanaethau hynny.
Sut i wneud cais
Cwblhewch y ffurflen gais sydd ar y wefan a'i chyflwyno drwy e-bost i AGIC.arolygu@llyw.cymru.
Os oes angen y ffurflen gais arnoch mewn fformat neu iaith wahanol, cysylltwch â ni:
0300 062 8163
Dogfennau
-
Adolygydd Cymheiriaid ar gyfer Nyrsys Plant - Manyleb Swydd , math o ffeil: DOCX, maint ffeil: 73 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:73 KB
-
Adolygydd Cymheiriaid ar gyfer Nyrsys Plant - Ffurflen Gais , math o ffeil: DOCX, maint ffeil: 91 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:91 KB